Brooks ymlaen i Gymru!!wedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018
Eilyddio
Denmarc 1-0 Cymru
Connor Roberts sy'n gadael y maes i Gymru a David Brooks sy'n dod ymlaen gydag awr wedi mynd o'r gêm.
Eilyddio
Denmarc 1-0 Cymru
Connor Roberts sy'n gadael y maes i Gymru a David Brooks sy'n dod ymlaen gydag awr wedi mynd o'r gêm.
Nic Parry
Sylwebydd S4C
"Dyna un peth nad oedde ni yn ei weld nos Iau, y diffyg cysylltiad na yng nghanol y cae," meddai'r sylwebydd Nic Parry.
Nid pawb sydd wedi cael sedd wych i wylio'r gêm yn Aarhus pnawn ma!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Denmarc 1-0 Cymru
"Mae Cymru wedi dechrau'r ail hanner yn well na'r hanner cyntaf.
"Maen nhw'n yn fwy positif ac ar y droed flaen," meddai Iwan Roberts.
Cic Rydd
Denmarc 1-0 Cymru
Cic rydd gan Bale o 25 llath ond wal goch Denmarc sy'n sefyll yn gadarn.
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eilyddio
Pione Sisto sy'n gadael y maes a Viktor Fischer sy'n dod ymlaen i'r tîm cartref ar gyfer dechrau'r ail hanner
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
"Mae David Brooks yn opsiwn i ddod ymlaen oddi ar y fainc ar gyfer yr ail hanner", yn ôl Iwan Roberts.
"Ar ôl perfformiad Brooks nos Iau, faswn i ddim yn synnu os welwn i o neu Harry Wilson ar gyfer yr ail hanner," meddai.
Sgorio, S4C
"Mae Eriksen yn chwaraewr clyfar sy'n darganfod pocedi o le ar hyd y cae.
"Mae o fel dewin bach, mae'n rhaid i Joe Allen ei ddilyn a pheidio rhoi cymaint o le iddo," meddai Owain Tudur Jones sydd ar soffa Sgorio heddiw.
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cynghrair y Cenhedloedd
Denmarc 1-0 Cymru
Arbediad gwych gan Wayne Hennessey yn y gôl i Gymru.
Pione Sisto gydag ergyd bwerus a Hennessey yn taflu ei hun i'r chwith i arbed Cymru rhag ildio eto.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Denmarc 1-0 Cymru
"Dyna mae chwaraewyr o safon yn gallu neud," meddai Iwan Roberts am Christian Eriksen.
"Tydi o heb wneud dim drwy'r gêm, ond gyda cymaint y hynny o le, roedd hi'n hawdd iddo.
"Mae'n bwysig i Gymru beidio ildio un arall cyn yr egwyl rwan," meddai.
Gôl!
Denmarc 1-0 Cymru
Wedi 32 o funudau mae Christian Eriksen wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen.
Neb yn cadw llygaid ar seren Tottenham yn y cwrt cosbi ac mae'n gosod y bêl yng nghefn y rhwyd
Malcolm Allen
Cyn-ymosodwr Cymru
Denmarc 0-0 Cymru
Wedi 25 munud o'r gêm, Cymru sy'n hawlio'r mwyafrif o'r meddiant hyd yn hyn.
Yn ôl cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, "Tydi Denmarc heb wneud dim eto i ddychryn Cymru"
Cynghrair y Cenhedloedd
Denmarc 0-0 Cymru
Mae tafliadau hir Denmarc wedi dechrau achosi problemau yn amddiffyn Cymru, ond mae Mepham a Chester wedi sefyll yn gadarn hyd yn hyn.
Uwch Gynghrair Cymru
Roedd 'na un gêm yn Uwch Gynghrair Cymru heddiw.
Buddugoliaeth gartref i MET Caerdydd o 1-0 yn erbyn Derwyddon Cefn.
Kyle McCarthy sgoriodd y gôl allweddol i'r myfyrwyr.
Mae nifer o bobl yn canmol y Cymry sydd yn y stadiwm am ganu'n uchel.
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Denmarc 0-0 Cymru
Gyda deng munud wedi mynd o'r gêm mae Cymru wedi bod yn "esgeulus" gyda'r meddiant yn ôl sylwebydd Camp Lawn, Dylan Griffiths
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
"Mae'n rhaid i dîm Cymru wylio Christian Eriksen," yn ôl cyn ymosodwr Cymru, Iwan Roberts
"Fo ydi'r peryg, mae o'n gyflym ac yn gallu sgorio goliau allan o ddim byd," meddai.
Cynghrair y Cenhedloedd
Cymru yn eu crysau gwyn, trowsusau a sanau gwyrdd sydd a'r gic gyntaf.