Crynodeb

  • Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill gyda mwyafrif o 1,425

  • Y Ceidwadwyr yn ail, gyda Phlaid Brexit yn drydydd

  • Isetholiad seneddol yn dilyn deiseb diswyddo'r AS Ceidwadol Chris Davies

  1. Nos dawedi ei gyhoeddi 03:15 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ar ddiwedd noson arwyddocaol yn Llanelwedd, dyma'r canlyniadau'n llawn unwaith eto.

    Diolch am ddilyn ar y llif byw heno, a nos da i chi.

    Graffeg
  2. 'Mae'r canlyniad yn anffodus'wedi ei gyhoeddi 03:07 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Llafur Cymru

    Mae'r ymgeisydd Llafur, Tom Davies wedi bod yn rhoi ei ymateb gan ddweud eto bod y canlyniad yn "anffodus", ond hefyd yn adlewyrchiad gwael ar y prif weinidog newydd Boris Johnson.

    Mae'n mynnu hefyd nad oedd y gefnogaeth Llafur wnaeth fynd i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn arwydd o broblemau ehangach o fewn ei blaid.

    Disgrifiad,

    Ymateb yr ymgeisydd Llafur, Tom Davies

  3. Pleidiau i gydweithio eto?wedi ei gyhoeddi 02:54 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Plaid Cymru

    Wrth ymateb i'r canlyniad heno mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi awgrymu y gallai'r pleidiau sydd o blaid Aros yn yr UE gydweithio eto yn y dyfodol os oes etholiad cyffredinol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. 'Gwrthod Boris Johnson'wedi ei gyhoeddi 02:48 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Llafur Cymru

    Mae llefarydd ar ran y blaid Lafur wedi dweud bod y canlyniad heno yn arwydd bod "etholwyr wedi gwrthod Boris Johnson a'i lywodraeth Dorïaidd".

    Ychwanegodd eu bod wastad wedi gwybod y byddai'r ymgyrch hon yn un "anodd" iddyn nhw.

  5. 'Parchu canlyniad y refferendwm'wedi ei gyhoeddi 02:45 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dydy'r canlyniad heno ddim wedi darbwyllo arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies bod angen i'w blaid newid eu safbwynt ar Brexit.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Y Rhyddfrydwyr yn dathluwedi ei gyhoeddi 02:41 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dathlu - dyna Jane Dodds yn y canol, gydag Ed Davey AS a Kirsty Williams AC y naill ochr iddi.

    lib dems
  7. Mwyafrif y Ceidwadwyr lawr i unwedi ei gyhoeddi 02:37 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyma mae'r canlyniad yn ei olygu i fathemateg Tŷ'r Cyffredin...

    Graffeg
  8. Ennill gyda help Plaid?wedi ei gyhoeddi 02:34 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Plaid Cymru

    Dyma'r farn gan un o aelodau blaenllaw Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. Faint o wahaniaeth wnaeth y penderfyniad i beidio rhedeg yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol?

    Roedd mwyafrif Jane Dodds heno yn ychydig dros 1,400 - ddwy flynedd yn ôl fe gafodd Plaid 1,300 o bleidleisiau (wnaeth y Gwyrddion ddim sefyll adeg hynny chwaith).

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. 'Amser anodd' i Chris Davieswedi ei gyhoeddi 02:29 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Ceidwadwyr

    Mewn araith fer, mae Chris Davies wedi diolch i'w deulu am eu cefnogaeth a chyfaddef bod y "misoedd diwethaf wedi bod yn amser anodd".

    Dywedodd ei fod "wedi bod yn fraint gwasanaethu pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed" dros y bedair blynedd diwethaf.

  10. 'Mae'n fore da iawn'wedi ei gyhoeddi 02:26 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Democratiaid Rhyddfrydol

    "Bore da... ac mae'n fore da iawn yma ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed."

    Mae Jane Dodds bellach ar y llwyfan, ac yn atesinio geiriau cyn-Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies.

    Mae'n mynd ymlaen i ddweud y bydd hi'n mynd i chwilio am Boris Johnson cyn gynted ag y mae hi'n cyrraedd San Steffan, a dweud wrtho: "Stopiwch chwarae gyda dyfodol ein cymunedau, a gwrthodwch Brexit heb gytundeb nawr."

    Mae 'na ddiolch hefyd i Blaid Cymru a'r Gwyrddion am gytuno i beidio sefyll yn yr etholiad.

  11. Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:20 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dem Rhydd - 13,826

    Ceidwadwyr - 12,401

    Plaid Brexit - 3,331

    Llafur - 1,680

    UKIP - 242

    Monster Raving Looney Party - 334

  12. Canlyniad: DEM RHYDD YN CIPIOwedi ei gyhoeddi 02:20 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019
    Newydd dorri

  13. Canlyniad yn agoswedi ei gyhoeddi 02:17 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r cyhoeddiad yn agos, gallwch wylio yn fyw drwy'r linc uchod.

  14. Dynes o Fôn yn cyhoeddi'r canlyniadwedi ei gyhoeddi 02:10 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Rydyn ni'n clywed y gallai'r canlyniad gael ei gyhoeddi o fewn y 10 munud nesaf.

    Dyma Dr Caroline Turner, prif weithredwr Cyngor Sir Powys a'r swyddog fydd yn gyfrifol am gyhoeddi'r canlyniad heno.

    Mae hi'n siaradwr Cymraeg o Ynys Môn yn wreiddiol, ac roedd hi'n ddirprwy brif weithredwr ar y cyngor yno cyn symud lawr i Bowys y llynedd.

    Caroline Turner
  15. Chris Davies wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 02:05 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r ymgeisydd Ceidwadol, Chris Davies bellach wedi cyrraedd y cyfrif.

    Mae disgwyl i'r Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds gyrraedd yn fuan hefyd.

    Disgrifiad,

    Chris Davies yn cyrraedd y cyfrif

  16. 'Anhapusrwydd â Corbyn a Drakeford'wedi ei gyhoeddi 02:03 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Prof Roger Scully

    Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Roger Awan-Scully, mae'n rhaid i Lafur "edrych yn agos ar y canlyniad yma".

    "Mae popeth yn awgrymu nid yn unig bod pleidleisio tactegol wedi bod tuag at y Democratiaid Rhyddfrydol, ond anhapusrwydd gyda Jeremy Corbyn a Mark Drakeford."

    Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth arolwg YouGov ddangos cefnogaeth Llafur ar 22% yng Nghymru ar gyfer etholiad cyffredinol - gyda'r Ceidwadwyr ar y blaen.

    Dim ond 21% oedd lefel eu cefnogaeth ar gyfer etholiad Cynulliad, gyda Phlaid Cymru'n dod i'r brig yn fanno.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Ceidwadwyr yn rhagweld colledwedi ei gyhoeddi 02:00 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae ffynhonnell o'r Blaid Geidwadol wedi dweud wrth ein gohebwyr: "Dwi'n meddwl bod y Dem Rhydd wedi llwyddo.

    "Mae ganddyn nhw fwy [o bleidleisiau] ar bob bwrdd."

  18. Dem Rhydd yn aros i weldwedi ei gyhoeddi 01:47 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Cadan ap Tomos, yn dweud bod eu hymgeisydd Jane Dodds wedi brwydro ymgyrch dda, ond eu bod nhw dal yn aros i weld a fydd yn ddigon i gipio'r sedd.

  19. 'Creu hanes' heno?wedi ei gyhoeddi 01:43 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Yn siarad â'n gohebydd mae AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, yn rhagweld y gallai'r blaid "greu hanes" yn yr isetholiad heno.

    Fel y blaid sy'n gwrthwynebu Brexit yn yr isetholiad, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Gwyrddion, mae'n awgrymu y gallai'r bleidlais fod yn foment arwyddocaol wrth atal Brexit.

    "Mae hyn yn dir newydd. Gallwn ni fod yn creu hanes heno," meddai.

  20. 'Posib' i Lafur golli blaendalwedi ei gyhoeddi 01:37 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae AS Llafur dros Gaerffili, Wayne David, wedi dweud wrth ein gohebwyr ei fod yn bosibilrwydd y bydd Llafur yn colli eu blaendal ar gyfer yr isetholiad yma heno.

    Byddai hynny'n ganlyniad ofnadwy i'r blaid, gafodd 17% o'r bleidlais yma yn yr etholiad diwethaf.

    Wayne David