Crynodeb

  • Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill gyda mwyafrif o 1,425

  • Y Ceidwadwyr yn ail, gyda Phlaid Brexit yn drydydd

  • Isetholiad seneddol yn dilyn deiseb diswyddo'r AS Ceidwadol Chris Davies

  1. 'Plaid Brexit yn drydydd'wedi ei gyhoeddi 01:29 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae ymgeisydd Plaid Brexit, Des Parkinson yn cyfaddef ei fod yn edrych fel y bydd yn dod yn drydydd.

    "Dyna beth roedden ni'n meddwl fyddai'n digwydd pan gyrhaeddon ni yma heno," meddai.

    "'Dyn ni ond wedi bodoli ers tri mis a hanner."

    Mae'n dweud fod Boris Johnson yn dod yn brif weinidog wedi cael effaith ar gefnogaeth y Ceidwadwyr.

    des parkinson
  2. Aros am ddau ymgeisyddwedi ei gyhoeddi 01:19 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dydy'r ddau geffyl blaen ddim wedi cyrraedd eto...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Pleidlais 'saff' i'r Dem Rhydd?wedi ei gyhoeddi 01:05 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ymgeisydd y Blaid Lafur, Tom Davies, yn dweud bod llawer o etholwyr wedi dweud wrtho eu bod nhw'n teimlo'n "saffach" yn pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn peidio caniatáu Chris Davies i ddod yn ôl mewn fel AS.

    Ond awgrymodd mai pleidleisio tactegol am yr isetholiad yn unig oedd hyn a'u bod nhw wedi dweud wrtho y byddan nhw'n pleidleisio'n wahanol mewn etholiad cyffredinol.

    Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai Llafur yn colli eu blaendal - ond doedd ddim am fynd mor bell â rhagdybio y byddan nhw'n gorffen yn uwch na phedwerydd chwaith...

    tom davies
  4. Ceisio cadw'r blaendalwedi ei gyhoeddi 00:58 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Roedd 'na sôn yn gynharach yn y noson y gallai'r blaid Lafur ei chael hi'n anodd dal gafael ar eu blaendal os ydy gormod o'u cefnogaeth wedi mynd tuag at y Democratiaid Rhyddfrydol.

    Bydd yn rhaid sicrhau o leiaf 1,595 o bleidleisiau, neu mwy na 5%, er mwyn osgoi'r sefyllfa honno.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Isetholiad wedi cynhyrfuwedi ei gyhoeddi 00:48 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Twitter

    Er bod canran y pleidleiswyr yn is eleni nag oedd hi yn 2017, mae'n debyg ei fod yn ffigwr reit iach ar gyfer isetholiad.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Lluniau o'r cyfri'wedi ei gyhoeddi 00:42 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    des parkinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Des Parkinson (canol), o Blaid Brexit, oedd yr ymgeisydd cyntaf i gyrraedd y cyfri'...

    cyfrifFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    ...ac mae'r cyfri' ei hun yn waith sy'n gofyn am lawer o ganolbwyntio.

  7. Ceidwadwyr yn 'dawel hyderus'wedi ei gyhoeddi 00:37 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Ceidwadwyr

    Mae'r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Nick Ramsay yn dweud ei fod yn "dawel hyderus" y gall ei blaid ddal gafael yn y sedd, er gwaetha'r amgylchiadau "anodd".

  8. Monster Raving Looney Party wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 00:35 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Arweinydd y Monster Raving Looney Party wedi cyrraedd Llanelwedd i gefnogi ymgeisydd y blaid, Lady Lily The Pink

    Monster Raving Looney party
  9. Canran y pleidleiswyrwedi ei gyhoeddi 00:30 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ein gohebydd ni yn Llanelwedd, Teleri Glyn Jones, yn dweud fod 59.72% o etholwyr wedi pleidleisio.

    Mae hynny'n golygu fod 31,887 o bobl wedi bwrw pleidlais. Roedd 74.6% wedi pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol yn 2017.

  10. 'Agosach na'r disgwyl'wedi ei gyhoeddi 00:25 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Twitter

    "Bydd hi lot agosach nag oedden ni'n disgwyl", meddai'n gohebydd ni Teleri Glyn Jones, sy'n rhagweld "noson ddifyr iawn" o'n blaenau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cefnogaeth i'r ymgeisydd 'Aros'wedi ei gyhoeddi 00:22 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Twitter

    Nid y Democratiaid Rhyddfrydol yn unig sy'n gobeithio am fuddugoliaeth i'w hymgeisydd nhw Jane Dodds heno.

    Mae ganddyn nhw hefyd gefnogaeth ASau eraill sydd o blaid Aros yn yr UE - gan gynnwys Heidi Allen, gynt o'r Ceidwadwyr a Change UK, sydd bellach yn AS annibynnol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Enwau mawr y Dem Rhydd ymawedi ei gyhoeddi 00:15 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Democratiaid Rhyddfrydol

    Mae Ed Davey AS, a gollodd frwydr arweinyddol y Democratiaid Rhyddfrydol i Jo Swinson yn ddiweddar, yn Llanelwedd ar gyfer y canlyniad heno.

    Mae'n cyfaddef y bydd y canlyniad yn un agos, "fel 'dan ni wastad wedi dweud y bydd o".

  13. 'Rhywbeth yno i bawb'wedi ei gyhoeddi 00:07 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyma sydd gan Chris Wilkins, cyn-gyfarwyddwr strategaeth Theresa May a brodor o'r Barri, i'w ddweud am sut mae o'n gweld pethau.

    "Ar hyn o bryd mae'n edrych fel bydd y Democratiaid Rhyddfrydol mwy na thebyg yn mynd â hi, ond efallai gyda mwyafrif llai nag y bydden nhw wedi ei obeithio," meddai.

    "Dwi'n meddwl y bydd hynny'n rhoi cyfle i'r prif weinidog newydd ddweud ei fod wedi llwyddo i gael y bleidlais Geidwadol allan, a gwasgu cefnogaeth Plaid Brexit.

    "Os mai dyna'r canlyniad, bydd rhywbeth yno i bawb."

    Chris Wilkins
  14. Isetholiad yn yr hafwedi ei gyhoeddi 00:03 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2019

    Twitter

    Pa effaith gaiff y ffaith fod yr isetholiad yma wedi ei chynnal yn ystod y gwyliau ysgol tybed?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Y bocs olaf wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 23:48 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r bocs olaf o bapurau pleidleisio wedi cyrraedd y ganolfan yn Llanelwedd.

    Roedd cyfanswm o 93 ohonynt.

  16. A fydd Brexit yn hawlio'r sylw?wedi ei gyhoeddi 23:44 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Os ydy ansicrwydd Brexit yn dylanwadu ar y bleidlais heno, mae'r etholaeth yn cynrychioli canlyniad y refferendwm yn agos.

    Fe bleidleisiodd Brycheiniog a Maesyfed o 52% i 48% o blaid Brexit yn 2016 - yr un canran a chyfanswm cyfartalog gweddill y wlad.

    Ond cofiwch, y Democratiaid Rhyddfrydol ydy'r unig blaid gwrth-Brexit sy'n sefyll, felly fe fyddan nhw'n obeithiol bod trwch y cefnogwyr Aros wedi heidio i'w corlan nhw.

  17. Canlyniad yn 'atsain yn San Steffan'wedi ei gyhoeddi 23:40 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    Arwyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Cyn yr isetholiad, fe wnaeth ein gohebydd Arwyn Jones dreulio ychydig o amser yn yr etholaeth fwyaf yng Nghymru a Lloegr.

    Mae'n rhagweld y bydd y canlyniad yn "atsain yr holl ffordd i San Steffan".

    "Mae'r rhain yn ddyddiau gwleidyddol digon dyrys, gydag ansicrwydd dros Brexit ac effaith toriadau ar wariant cyhoeddus yn parhau.

    "Mae gallu'r pleidiau gwleidyddol Prydeinig i ddibynnu ar gefnogaeth wedi hen bylu, ac wythnos nesaf mi gawn ni weld beth fydd goblygiadau hynny."

    Defaid
  18. Bocsys pleidleisio yn cyrraeddwedi ei gyhoeddi 23:32 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r bocsys pleidleisio bellach yn cyrraedd Llanelwedd ac yn cael eu gwirio.

    Yn amlwg mae'r broses o gludo'r blychau yn gallu cymryd hirach na'r arfer mewn etholaeth fawr fel hon - y mwyaf o ran ei maint yng Nghymru.

    Disgrifiad,

    Blwch pleidleisio yn cyrraedd Llanelwedd

  19. 'Chwech AS Ceidwadol yn ystyried gadael'wedi ei gyhoeddi 23:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    Independent

    Byddai gweld eu mwyafrif yn disgyn i un yn ganlyniad siomedig i'r Ceidwadwyr - ond byddai colli rhagor o ASau wedyn yn drychinebus.

    Yn ôl yr Independent mae hyd at chwech o Dorïaid yn ystyried gadael y blaid ac mewn trafodaethau gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    A fyddai colli'r isetholiad heno yn ddigon i sbarduno'r ymadawiadau?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Bowns Boris?wedi ei gyhoeddi 23:18 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Yn ôl un o'r Ceidwadwyr yn yr ystafell, fe allai'r canlyniad fod yn "agosach nag oedden ni'n ei ddisgwyl".

    Mae'r blaid yn obeithiol fod dewis Boris Johnson fel prif weinidog wedi rhoi hwb i'r blaid, a'u galluogi nhw i adennill rhywfaint o bleidleisiau yn ôl oddi wrth Blaid Brexit.

    Mynnodd y ffynhonell hefyd nad oedd pobl wedi bod yn codi sgandal dreuliau Chris Davies ar y stepen ddrws mor aml ag yr oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei awgrymu.