Crynodeb

  • Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill gyda mwyafrif o 1,425

  • Y Ceidwadwyr yn ail, gyda Phlaid Brexit yn drydydd

  • Isetholiad seneddol yn dilyn deiseb diswyddo'r AS Ceidwadol Chris Davies

  1. 'Ystradgynlais yw'r allwedd'wedi ei gyhoeddi 23:07 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Mae ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick yn cynnig ei ddadansoddiad o'r sefyllfa heno.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. 'Diffyg trefn' gan Blaid Brexitwedi ei gyhoeddi 23:00 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n debyg bod 'na negeseuon cymysg yn dod o gyfeiriad Plaid Brexit.

    Yn ôl un ffynhonell o'r blaid sydd yn y cyfrif, mae'n annebygol y byddan nhw'n ennill ond os ydy hi'n noson dda fe allen nhw gipio'r ail safle oddi ar y Ceidwadwyr.

    Ar y llaw arall mae gohebydd BBC Cymru, David Deans yn dweud ei fod wedi clywed cwynion gan aelodau'r blaid nad oedd eu hymgyrch wedi ei threfnu'n dda.

  3. Llafur mewn trwbl?wedi ei gyhoeddi 22:54 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae 'na sïon yn y cyfrif bod llawer o bleidleiswyr Llafur wedi cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr isetholiad yma, ac felly eu bod nhw mewn peryg o ddod yn bedwerydd y tu ôl i Blaid Brexit.

    Os ydy hi'n noson wael iawn, fe allen nhw hyd yn oed golli eu blaendal.

    Fyddai hynny'n cynyddu'r pwysau ar yr arweinydd Jeremy Corbyn?

  4. Pam fod yr isetholiad yma'n bwysig?wedi ei gyhoeddi 22:50 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Os ydy'r Ceidwadwyr yn colli'r sedd hon heno, bydd eu mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin yn disgyn i un.

    Nid beth fydd y prif weinidog newydd Boris Johnson eisiau ar ddechrau ei gyfnod wrth y llyw, o ystyried faint o drafferth roedd ei ragflaenydd Theresa May eisoes yn ei gael wrth geisio ennill pleidleisiau yn y Senedd.

    Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Cyfle i'r Dem Rhydd adennill y sedd?wedi ei gyhoeddi 22:42 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Bydd rhai ohonoch chi'n cofio wrth gwrs bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dal y sedd hon mor ddiweddar â 2015.

    Doedd etholiad cyffredinol y flwyddyn honno ddim yn un caredig iddyn nhw, fodd bynnag, ac fe gollodd Roger Williams ei sedd i Chris Davies o dros 5,000 o bleidleisiau.

    Cadwodd Mr Davies y sedd i'r Ceidwadwyr yn 2017 gan dyfu ei fwyafrif i 8,000 dros y Democratiaid Rhyddfrydol.

    roger williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu Roger Williams yn Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed am 14 mlynedd

  6. Ras dau geffylwedi ei gyhoeddi 22:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ras dau geffyl ydy hi yn yr isetholiad heno, meddai Gareth Pennant, wrth i'r pleidleisiau ddechrau gael eu cyfrif.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Canlyniad agos?wedi ei gyhoeddi 22:32 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n gohebydd ni Gareth Pennant yn un o'r rhai sydd yn y cyfrif yn Llanelwedd.

    Yn ôl un ffynhonnell o'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi siarad ag o, mae'n debyg y bydd y canlyniad yn un "agos".

    Cyfri
  8. Plaid Cymru na'r Blaid Werdd yn ymgeisiowedi ei gyhoeddi 22:28 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Cyn yr etholiad fe wnaeth Plaid Cymru a'r Blaid Werdd gyhoeddi nad oedden nhw am gynnig ymgeiswyr ar gyfer yr isetholiad.

    Dywedodd Plaid Cymru na fyddai'n ymgeisio er mwyn cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol a "chydweithio" fel dwy blaid sydd am weld y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

    Dywedodd y Blaid Werdd hefyd na fyddai'n cynnig ymgeisydd er mwyn rhoi cyfle gwell i ymgeisydd sy'n gwrthwynebu Brexit.

  9. Pwy sy'n ymgeisio?wedi ei gyhoeddi 22:19 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Roedd chwe ymgeisydd i gynrychioli'r etholaeth yn San Steffan, gan gynnwys y cyn-AS.

    Dyma'r rhestr yn llawn:

    • Y Ceidwadwyr - Chris Davies
    • Y Blaid Lafur - Tom Davies
    • Y Democratiaid Rhyddfrydol - Jane Dodds
    • Plaid Brexit - Des Parkinson
    • UKIP - Liz Phillips
    • Official Monster Raving Loony Party - Lady Lily The Pink
    Ymgeiswyr
    Disgrifiad o’r llun,

    O'r chwith uchaf, yn nhrefn y cloc: Chris Davies, Tom Davies, Jane Dodds, Lady Lily The Pink, Liz Phillips, Des Parkinson

  10. Cefndir yr isetholiadwedi ei gyhoeddi 22:13 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Cafodd yr isetholiad ei gynnal yn dilyn deiseb diswyddo lwyddiannus yn erbyn y cyn-AS Chris Davies.

    Plediodd Mr Davies yn euog i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

    Yn sgil hynny, bu'n destun deiseb galw 'nôl yn ei etholaeth, oedd yn golygu y byddai isetholiad yn cael ei gynnal pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn ei harwyddo.

    Fe wnaeth 19% o etholwyr arwyddo'r ddeiseb.

    Chris Davies
  11. Noswaith ddawedi ei gyhoeddi 22:02 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw wrth i'r blychau pleidleisio gau yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed.

    Fe gewch chi'r diweddara' o'r cyfri' yn Llanelwedd a mwy yma gyda ni.

    Cyfri