Crynodeb

  • Dilynwch y llif byw am y newyddion, lluniau a chlipiau diweddara' o'r Maes

  • Y Fedal Ddrama ydy'r prif seremoni yn y pafiliwn ddydd Iau

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Dyna ni am heddiw!wedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am eich cwmni heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd bore fory am 09:00.

  2. Beirniaid methu dod i benderfyniadwedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Y beirniaid yn y gystadleuaeth Corau Merched wedi methu a dod i benderfyniad, felly ma’ nhw wedi gohirio’r feirniadaeth nes ar ôl y seremoni. Roedd 7 côr yn cystadlu

  3. Seremoni'r Fedal Ddrama ar benwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r seremoni wedi dod i ben a llongyfarchiadau i Gareth Evans-Jones am gipio'r fedal eleni.

  4. Detholiad o Adar Papurwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Lowri Gwynne ac Iwan Garmon sydd bellach ar y llwyfan yn rhoi detholiad o'r ddrama fuddugol, Adar Papur.

    Actorion
  5. Llongyfarchiadau i Garethwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Llongyfarchiadau i Gareth Evans-Jones am ennill y Fedal Ddrama.

    Darllenwch fwy am Gareth yma.

  6. Gareth Evans-Jones yw Gwylanwedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Gareth Evans- Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn, sy’n cipio'r Fedal Ddrama eleni gyda'r ddrama Adar Papur

    Gareth
  7. Mae teilyngdod!!wedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Cadarnhad fod teilyngdod ac mai Gwylan sy'n ennill y Fedal Ddrama gyda'r ddrama Adar Papur.

  8. 'Cyffredin oedd y Safon'wedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ar y cyfan 'cyffredin oedd y safon' eleni yn ôl Bethan Marlow.

    Bethan Marlow
  9. 11 yn ceisio am y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd un o'r beirniaid, Bethan Marlow fod 11 sgript wedi dod i law eleni

  10. Meistres y Seremoniwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Carys Edwards yw Meistres y Seremoni.

    Carys Edwards
  11. 'Ffrydau'r Dyffryn'wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Perfformiad o Ffrydau'r Dyffryn gan Gôr Plant y Sir dan ofal Dilwyn Price.

    Cor y Sir
  12. Seremoni'r Fedal Ddrama wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Seremoni'r Fedal Ddrama wedi dechrau ar lwyfan y Pafiliwn.

    Y beirniaid eleni yw Bethan Marlow, Gethin Evans a Branwen Cennard.

  13. Archdderwydd tra gwahanol yn crwydro'r Maeswedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Pypedau
  14. Owi wrth ei fodd!wedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Owi o Lanuwchllyn sy'n 14 mis oed wrth ei fodd ar Faes yr Eisteddfod.

    Owi
  15. Byw yn fy Nghroenwedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Roedd pabell Cymdeithasau 1 yn llawn y prynhawn 'ma ar gyfer trafodaeth ynglŷn â'r gyfrol Byw yn fy Nghroen.

    Mae'r gyfrol yn rhoi cyfle i bobl ifanc sy'n dioddef o broblemau iechyd rannu eu straeon.

    Bu'r panel ifanc yn sôn am eu profiadau amrywiol gyda'r gynulleidfa, gan bwysleisio pa mor bwysig yw trafod y fath bynciau.

    Dywedodd Iestyn Tyne, sy'n byw gyda Diabetes math 1, ei fod o’n arfer teimlo cywilydd am ei gyflwr.

    Ond mae o wedi sylweddoli pa mor bwysig yw trafod gyda phobl fel eu bod nhw hefyd yn dod i ddeall y cyflwr yn well.

    panel Byw yn fy Nghroen
  16. Dim penderfyniad ar Seremoni'r Orseddwedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Er gwaetha'r rhagolygon o law dros nos ac yfory, mae'r Eisteddfod yn dweud nad ydyn nhw wedi penderfynu eto a fydd Seremoni'r Orsedd yfory yn dal i ddigwydd tu allan.

    Fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud "ar y bore", gyda'r stiwdio ddawns ar gael fel y dewis dan do os ydy'r tywydd yn wael.

  17. Sŵn Stevie Wonder ar y maes!wedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Côr DAW (Dysgwyr Ardal Wrecsam) yn canu medli o ganeuon Stevie Wonder yn y gystadleuaeth Côr i Ddysgwyr. Maen nhw wedi cael caniatâd arbennig gan Sony i gyfieithu’r caneuon.

    Gorffennodd y côr eu heitem gyda fersiwn bywiog o “Ti mor ofergoelus”!

    Cor DAW
  18. 'Criw hwyliog' cefn llwyfanwedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyma Ffion, Maud a Zowie - criw gwerthfawr cefn llwyfan y BBC sy'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth am y sawl sy'n cystadlu ar y llwyfan.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Côr mwyaf lliwgar 'Steddfod?wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Unwaith eto eleni, Côrnarfon yn ceisio ennill y wobr am gôr mwyaf lliwgar y Brifwyl!

    Efallai fod angen cystadleuaeth arbennig? Neu beth am Sash Huw Fash sydd ddigon mawr i gôr cyfan?

    Cor Caernarfon
  20. Her i'r Heddluwedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Plismyn o Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn y sialens i hel arian i Tŷ Gobaith

    Heddlu