Crynodeb

  • Dilynwch y llif byw am y newyddion, lluniau a chlipiau diweddara' o'r Maes

  • Y Fedal Ddrama ydy'r prif seremoni yn y pafiliwn ddydd Iau

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Rhieni angen 'eglurder' ar addysg Gymraegwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi awgrymu bod rhieni'n cael eu camarwain ynghylch faint o addysg Gymraeg mae eu plant yn ei dderbyn mewn rhai ysgolion.

    Yn ôl Aled Roberts dyw’r ddarpariaeth ddim yn gyson mewn rhai ysgolion dwyieithog.

    Dywedodd hefyd ar y maes ei fod wedi cyfarfod teuluoedd Cymraeg iaith gyntaf sy’n credu bod astudio pynciau fel gwyddoniaeth drwy'r Gymraeg yn rhy "anodd".

  2. Cabarela'n codi'r towedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bu'r maes yn brysur nes yn hwyr neithiwr, gyda chystadlu yn y Pafiliwn a digwyddiadau ar rai o'r llwyfannau eraill.

    Un o'r rheiny oedd sioe Cabarela, a ddenodd dorf lawn i'r Babell Len ar gyfer noson o hwyl, canu a hiwmor coch.

    Dan arweiniad triawd chwiorydd Sorela, mae'r digwyddiad a ymddangosodd ar arlwy'r Eisteddfod am y tro cyntaf yn 2017 bellach yn mynd o nerth i nerth.

    Ac fel y gwelwch chi, roedd sawl wyneb cyfarwydd o'r sgrin a'r llwyfan yno i ddiddanu'r gynulleidfa!

    cabarela
  3. Un newid i'r drefn i deithwyrwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r trefniadau teithio i faes yr Eisteddfod heddiw yn parhau fel oedden nhw ddoe, oni bai am un newid.

    I deithwyr sy'n dod i mewn i Lanrwst ar yr A548 o gyfeiriad Abergele, mae'r Eisteddfod wedi dweud y byddan nhw nawr yn cael eu cyfeirio at faes parcio gwahanol.

    Hyd yma mae llawer o geir sydd wedi bod yn dod o'r cyfeiriad yma wedi bod yn parcio ger Maes B yn y dref.

    Fe allai pethau newid eto i deithwyr os yw'r tywydd neu gyflwr rhai o'r caeau parcio'n gwaethygu rhagor - ond ar hyn o bryd mae'r haul yn tywynnu.

  4. Rhaid dilyn yr arwyddionwedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Hefyd ar y Post Cyntaf, pwysleisiodd Betsan Moses y pwysigrwydd o ddilyn yr arwyddion wrth gyrraedd y Maes.

    Gwrandewch ar y sgwrs yn llawn isod.

    Disgrifiad,

    Betsan Moses yw Prif Weithredwr yr Eisteddfod

  5. 'Yr Eisteddfod yn parhau'wedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae'r tywydd yn dipyn o destun trafod ar y Maes, gyda rhybudd am law trwm a gwyntoedd cryf dros y dyddiau nesaf.

    Mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wedi dweud y bore 'ma nad ydyn nhw'n gweld yr angen i gwtogi ar ddigwyddiadau'r wyl ar hyn o bryd.

    Ar y Post Cyntaf, dywedodd: "Mae yna asesiad risg wedi cael ei 'neud ar gyfer pob un o'n strwythura' ni, felly ni'n ymwybodol iawn o beth alle nhw gymryd.

    "Mae gynnon ni gynlluniau wrth gefn, ond ar hyn o bryd y'n ni'n parhau."

    Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd gwaharddiad ar symud cerbydau ar y Maes Carafanau am gyfnod

  6. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar ddydd Iau yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

    Yma fe gewch chi'r newyddion diweddara' o'r pafiliwn ac o'r maes yn ystod y dydd.

    Eisteddfod