Merched mewn chwaraeonwedi ei gyhoeddi 15:06 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2019
BBC Cymru Fyw
Mae panel arbennig wedi bod yn trafod rôl merched o fewn chwaraeon draw ym mhabell Plaid Cymru.
Pwysleisiodd y panel, oedd yn cynnwys y chwaraewr rhyngwladol Gwenllian Pyrs, bod y sefyllfa yn gwella yng Nghymru ond bod dal mwy o waith angen ei wneud yn y maes.
Dywedodd Ceri Meirion (ail o'r chwith) bod llawer mwy o gyfleoedd i ferched ifanc bellach a bod modelau rôl heddiw yn dangos fod modd i ferched lwyddo yn y byd chwaraeon.