Crynodeb

  • Pedwar cais yn yr hanner cyntaf yn sicrhau pwynt bonws i Gymru

  • Jon Davies, Justin Tipuric, Josh Adams, Liam Williams, Tomos Williams a George North yn croesi

  • Paratoadau Cymru wedi cael ergyd ar ôl i Rob Howley gael ei anfon adref; Stephen Jones wedi cymryd ei le fel hyfforddwr yr ymosod

  • Y gwrthwynebwyr, Georgia yn 12fed ar restr detholion rygbi'r byd

  1. A dyna ni!wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Sgôr terfynol: Cymru 43-14 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Canlyniad cadarnhaol i Gymru ar ddechrau'r ymgyrch. Gwych yn yr hanner cyntaf, anniben braidd yn yr ail.

    Pob clod i Georgia am gystadlu'n dda wedi'r egwyl.

  2. Seren y gêmwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    79' Cymru 43-14 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Na, nid unrhyw un o'r olwyr llachar, ond y clo barfog, Jake Ball, sydd wedi cael ei enwi'n seren y gêm!

  3. Am gais!wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    78' Cymru 43-14 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Rhediad gwych gan Tomos Williams, yn llwyddo i blygu o dan afael un taclwr cyn pasio i George North, sy'n gorffen y symudiad yn daclus.

  4. CAIS ARALL I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    76' Cymru 43-14 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Pwy arall ond George North?! Tro yma, Tomos Williams yn gwneud gwaith gwych lawr yr asgell dde, ac yn rhoi pas pêl-fasged yn ôl tu fewn i North, sy'n torri ambell dacl i groesi'r llinell gais.

    Halfpenny, fel yr hen ddyddiau, yn llwyddiannus gyda'r trosiad.

    George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    George North yn benderfynol o gyrraedd y linell wen

  5. Newidiadau wedi cael effaithwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Nifer o newidiadau ar y cae i Gymru, a hyn yn anochel yn effeithio rhywfaint ar lif y chwarae.

    Mae’r gêm eisioes wedi ei hennill ond i fod yn deg â Georgia, dydyn nhw ddim yn rhoi lan.

  6. CAIS I GEORGIAwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    70' Cymru 36-14 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Wel mae hi wedi bod yn ymdrech ddewr iawn gan Georgia yn yr ail hanner. (Nawddoglyd?!)

    Cais arall i'r tîm mewn porffor/piws/marŵn.

    A throsiad hefyd. Trosgais, felly.

  7. Mwy o bwyntiau i Biggarwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    66' Cymru 36-7 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Biggar yn cicio'r trosiad.

    A dyna fydd ei gyfraniad olaf heddiw, wrth i Rhys Patchell gymryd ei le yn safle'r maswr.

  8. CAIS I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    65' Cymru 34-7 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Tomos Williams yn tirio wedi gwaith gwych gan George North lawr yr asgell dde.

    Y cawr o Fôn yn cicio'r bêl yn ei blaen, yr eilydd, Williams, yn carlamu ar ei hôl ac yn tirio'n ddiogel.

    TomoS williamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Gornest gorfforolwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    64' Cymru 29-7 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Yn yr ail hanner, mae'r gêm wedi bod mwy fel yr ornest gorfforol roedd pawb yn disgwyl cyn y gic gyntaf.

    Ma' Georgia yn amddiffyn yn benderfynol ac yn gorfodi Cymru i weithio'n galed am eu meddiant a'u tir.

  10. Eilyddio i Gymruwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    62' Cymru 29-7 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Leigh Halfpenny yn dod ymlaen fel cefnwr yn lle Liam Williams.

    Bydd yn rhaid gorchuddio Liam mewn gwlân cotwm cyn y gêm fawr ddydd Sul yn erbyn Awstralia!

  11. Dim ffordd drwoddwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    60' Cymru 29-7 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Awr wedi mynd. Mae Cymru eto i sgorio yn yr ail hanner, yn rhannol o achos amddiffyn dewr Georgia, sydd wedi ymdopi'n dda iawn gyda 14 dyn ar y cae.

    Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dan Biggar yn ceisio torri trwy'r amddiffyn cadarn

  12. Georgia'n gryfwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    57' Cymru 29-7 Georgia

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Bydd Georgia'n hapus iawn gyda'u perfformiad yn yr ail hanner. Mae nhw'n edrych yn gryf.

  13. Taclo ffyrnigwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    56' Cymru 29-7 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Ma' taclo Georgia yn yr ail hanner wedi bod yn ffyrnig.

    Dyw hi ddim yn hawdd taro Alun Wyn Jones yn ôl - ond ma' amddiffynwyr Georgia wedi gwneud hynny ar fwy nag un achlysur.

  14. Georgia'n gwellawedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    55' Cymru 29-7 Georgia

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Mae Georgia yn tyfu fewn i'r gêm. Yn edrych lot gwell yn amddiffynnol ac yn lledaenu'r bêl.

  15. Eilyddio i Gymruwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    50' Cymru 29-7 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Mae Tomos Williams ymlaen am Gareth Davies yn safle'r mewnwr; Dillon Lewis ymlaen yn lle'r prop Tomas Francis; Ross Moriarty ymlaen hefyd.

  16. Cerdyn melyn i Georgiawedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    48' Cymru 29-7 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Cerdyn melyn i Georgia ar ôl iddyn nhw ddymchwel sgarmes symudol y Cymry reit ar y linell gais.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Llygedyn o obaith?wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Cymru 29-7 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Roedd y cais yna i Georgia yn boblogaidd yn Stadiwm Toyota.

    Er bod y trigolion lleol wedi rhoi croeso cynnes i chwaraewyr Cymru, ma' nhw'n awyddus i wylio gêm gystadleuol heno - ac ma'r cais yna'n rhoi llygedyn o obaith i Georgia.

  18. Trosiad i Georgiawedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    44' Cymru 29-7 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Cic wych gan y maswr Tedo Abzhandadze i ychwanegu'r pwyntiau.

    Georgia ar eu ffordd yn ôl o bosib??

  19. CAIS I GEORGIAwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    43' Cymru 29-5 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Dechrau gwych i'r ail hanner i Georgia.

    Y bachwr Shalva Mamukashvili sy'n taflu o'r lein, ac yna'n dilyn y bêl cyn tirio ar ôl sgarmes symudol.

    Shalva MamukashviliFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Shalva Mamukashvili ar garlam!