Crynodeb

  • Pedwar cais yn yr hanner cyntaf yn sicrhau pwynt bonws i Gymru

  • Jon Davies, Justin Tipuric, Josh Adams, Liam Williams, Tomos Williams a George North yn croesi

  • Paratoadau Cymru wedi cael ergyd ar ôl i Rob Howley gael ei anfon adref; Stephen Jones wedi cymryd ei le fel hyfforddwr yr ymosod

  • Y gwrthwynebwyr, Georgia yn 12fed ar restr detholion rygbi'r byd

  1. Ail hanner!wedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    41' Cymru 29-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Yr ail hanner wedi cychwyn. Georgia'n sicrhau meddiant yn gynnar...

  2. Sgrym yn gryfwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Mae sylfaen y blaenwyr wedi bod yn wych... mae'n hollbwysig ein bod ni'n cael y sylfaen yna.

    Mae'r sgrym wedi bod yn bositif iawn.

  3. Colofn Ken: Y wasg, Georgia a thoiledau Japanwedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Chwilio am rhywbeth i'w ddarllen cyn yr ail hanner?

    Yn ei ail golofn i BBC Cymru Fyw mae bachwr y Scarlets a Chymru, Ken Owens, yn trafod digwyddiadau diweddar o fewn y garfan a beth mae'n ei feddwl o ddiwylliant Japan.

    Cliciwch yma i ddarllen y golofn.

    Ken Owens
  4. Gwaith cartrefwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Tactegau deallus, ac mae'n amlwg bod Cymru wedi gwneud eu gwaith cartref ar sut mae Georgia'n amddiffyn gan ymosod o gefn y llinell.

  5. Shakin' Stevens a Tom Jones!wedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Bob tro mae’r crysau cochion yn sgorio mae 'na chydig o Gymru yn atseinio o gwmpas y stadiwm.

    Ni ‘di cael Shakin’ Stevens, ond Tom Jones o’dd hi ar ôl cais Liam Williams yn y gornel, sy’n sicrhau y pwynt bonws cyn yr hanner.

  6. Hanner cyntaf campuswedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Cymru 29-0 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Dyna ni felly, hanner cyntaf delfrydol a phwynt bonws yn barod i Gymru.

    Amser i Gymru ddechre defnyddio'r fainc er mwyn gorffwys rhai o'u chwaraewyr pwysig cyn wynebu Awstralia ddydd Sul?

  7. Trosiad cyn yr hannerwedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    40' Cymru 29-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Dan Biggar, wedi siom y gic gyntaf un, yn trosi'n wych unwaith eto.

    Mae Cymru ymhell ar y blaen ar yr hanner. Pwynt bonws yn y bag. Allen nhw gadw llechen lân hyd yn oed??

  8. CAIS I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    40' Cymru 27-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Pwynt bonws i Gymru cyn hanner amser! Liam Williams yn croesi ar ôl bylchiad gan Jon Davies unwaith eto.

  9. Pŵer Georgia yn y pacwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Cymru 22-0 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Ma' 'na ddigon o sôn 'di bod am gryfder Georgia yn y sgrym, a ni'n dechre gweld hynny nawr.

    Am y tro cyntaf yn y gêm, ma' Cymru dan dipyn o bwysau ond ma' nhw'n amddiffyn yn gadarn ar hyn o bryd.

  10. Dathlu yn yr ysgolwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n siwr bod addysg wedi dod i stop yng Nghymru am sbelan fach bore 'ma...

    Dyma glip o ddisgbylion blwyddyn 5 a 6 Ysgol y Faenol, Bangor yn dathlu cais Cymru yn erbyn Georgia.

  11. Disgwyl mwy gan Georgiawedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    35' Cymru 22-0 Georgia

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Dyw Georgia ddim yn cystadlu am y bêl yn y sgrym. Chi'n disgwyl iddyn nhw weithio'n fwy caled i wneud pethau'n anoddach i Gymru.

  12. Cefnogwyr cwrtaiswedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Mae cefnogwyr Japan mor gwrtais.

    Ar adegau mae yna fonllefau mawr wrth i ni weld sbarc ar y cae, ac ar adegau eraill does 'na ddim smic.

    Dwi’n eistedd i fyny yn yr entrychion a ma’ modd clywed y chwaraewyr yn gweiddi ar ei gilydd!

  13. Hawdd i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Cymru 22-0 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Ma' hyn yn hawdd i Gymru.

    Symudiad arall oddi ar y cymal cyntaf, pas tu fewn arall, ac yna cais arall.

    Syml.

  14. Yr anthemwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ross Moriarty (dde) ddim yn rhy hapus i fod ar y fainc heddiw mae'n amlwg...

    Alun Wyn, Ken Owens a Ross MoriartyFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Trosiadwedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    21' Cymru 22-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Dan Biggar yn trosi'n wych. Y gnoc i'w ben yn hen hanes erbyn hyn!

  16. CAIS I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    20' Cymru 20-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Pumed cais rhyngwladol i'r asgellwr Josh Adams.

    Un arall ac mae'n bwynt bonws!

    Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Rhediad campus Adamswedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    19' Cymru 15-0 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Wel, am ddechreuad i Gymru.

    Mae'r sgrym wedi bod yn gadarn yn erbyn blaenwyr mawr Georgia, ac ma' tîm Warren Gatland wedi disgleirio ymhlith yr olwyr hefyd.

    Roeddi'n rediad campus gan yr asgellwr Josh Adams cyn i Justin Tipuric sgorio'r ail gais.

  18. Trosiad i Biggarwedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    14' Cymru 15-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Un hawdd arall i Biggar - y gic yn llwyddiannus y tro yma.

    Cymru'n gyfforddus iawn ar hyn o bryd.

  19. CAIS I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    13' Cymru 13-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Justin Tipuric yn deifio dros y linell wen!

    TipuricFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ma' Wyn Jones wedi joio honna!

  20. Cic gosb i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    6' Cymru 8-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Dan Biggar yn llwyddo'r tro yma. Cic o flaen y pyst yn mynd syth lawr y canol.

    Wpsi. Georgia yn cicio'n syth allan o'r gic ailgychwyn...