Crynodeb

  • Pedwar cais yn yr hanner cyntaf yn sicrhau pwynt bonws i Gymru

  • Jon Davies, Justin Tipuric, Josh Adams, Liam Williams, Tomos Williams a George North yn croesi

  • Paratoadau Cymru wedi cael ergyd ar ôl i Rob Howley gael ei anfon adref; Stephen Jones wedi cymryd ei le fel hyfforddwr yr ymosod

  • Y gwrthwynebwyr, Georgia yn 12fed ar restr detholion rygbi'r byd

  1. Beth sydd o'i le 'da Biggar?wedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    6' Cymru 5-0 Georgia

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Ma' Dan Biggar yn giciwr ardderchog fel arfer, ond roedd y trosiad yna yn chwerthinllyd o wael.

    Falle roedd y dolur yna cyn y gic gyntaf wedi effeithio'r maswr mwy nag oedd unrhywun yn disgwyl.

  2. CAIS I GYMRUwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    2' Cymru 5-0 Georgia

    BBC Cymru Fyw

    Cais cynnar i Jonathan Davies!

    Georgia yn ildio sgrym o gic gyntaf Dan Biggar a Jon Davies yn croesi'n hawdd o'r symudiad yn syth o'r sgrym. Dan Biggar - rhywsut - yn methu'r trosiad! 5-0.

    Jon DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Co ni off!wedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r anthemau wedi'u canu...

    Ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019 ar fin cychwyn! Daliwch yn dynn...

  4. Bloedd enfawr i Alun Wynwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Mae enwau’r chwaraewyr newydd gael eu cyhoeddi ar y sgrin fawr yma yn Toyota.

    'Sdim dwywaith amdani, y Cymry sy’n cael y gymeradwyaeth fwya’. Bloedd enfawr i’r capten Alun Wyn Jones. Mae’n teimlo fel gêm gartre!

  5. Eiliad o bryder i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Dwi ddim isie'ch poeni chi ond roedd rhaid i Dan Biggar dynnu nôl o ymarferiadau Cymru cyn y gêm am ychydig bach.

    Yn ffodus, dim ond triniaeth sydyn oedd angen arno fe am gnoc bach i'w wyneb ac roedd y maswr yn iawn i gerdded oddi ar y cae ac i ymuno â'i gyd-chwaraewyr yn yr ystafell newid.

  6. Y capteiniaid yn barodwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Y dyfarnwr, Luke Pearce - sy'n 31 oed ac o Loegr - yn gwneud y coin toss gyda'r capteiniaid Alun Wyn Jones ac Mikheil Nariashvili.

    captensFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. 'Fel gêm gartref i Gymru'wedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Mae dylanwad Cymru yma yn Toyota yn amlwg yn barod, wrth i’r strydoedd lenwi â chrysau cochion.

    Fel arfer, mae Toyota yn ddinas weddol dawel i gymharu â dinasoedd enfawr eraill Japan, ond heddiw mae yna awyrgylch byrlymus ym mhob man.

    Mae’r crysau cochion i’w gweld bob man yn yr eisteddleoedd cyn y gic gyntaf ac, wrth edrych ar faneri’r Ddraig Goch sydd o gwmpas Stadiwm Toyota, mae rhywun yn tybio bydd hi’n teimlo fel gêm gartref i Gymru ar adegau.

  8. Taith Dewi'r Ddraig i Toyotawedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    Mae Dewi - y ddraig fach o Ysgol y Faenol ym Mhenrhosgarnedd, Bangor - wedi cyrraedd yr holl ffordd i Toyota wei taith hir gyda'r cefnogwyr!

    Byddwn ni'n cael ymateb plant Ysgol y Faenol i'r gêm ar y llif nes ymlaen.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Dewi y Ddraig
  9. Llongyfarchiadau, capten!wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 129 i'w wlad pan fydd yn arwain Cymru allan yn Toyota.

    Mae Alun Wyn, 34, yn dod yn gyfartal â record Gethin Jenkins a bydd yn gobeithio ychwanegu sawl un arall yn y gystadleuaeth!

    Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Prysuro tu allan i'r stadiwmwedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Toyota

    cefnogwyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Cefnogwyr Cymru yn cymysgu gyda'r bobl leol

    cefnogwyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Barod amdani!

  11. 'Dim anafiadau gobeithio'wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Tomos Dafydd fu'n holi cefnogwyr Cymru tu allan i Stadiwm Dinas Toyota cyn y gic gyntaf am 11:15 (amser Cymru)!

    Disgrifiad,

    Cefnogwyr Cymru yn ffyddiog cyn herio Georgia

  12. Awyr las yn Toyotawedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Roedd pryderon ynglŷn â'r tywydd yn Toyota gyda thywydd garw yn cael ei broffwydo. Ond hyd yma mae hi'n sych ac mae'r awyr yn las!

    "Poeth iawn ond sych," meddai ein gohebydd yno, Lowri Roberts.

    tywydd
  13. Tîm Cymru i wynebu Georgiawedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    15. Liam Williams (Saracens) 14. George North (Gweilch), 13. Jonathan Davies (Scarlets), 12. Hadleigh Parkes (Scarlets), 11. Josh Adams (Gleision), 10. Dan Biggar (Northampton Saints), 9. Gareth Davies (Scarlets) 1. Wyn Jones (Scarlets), 2.Ken Owens (Scarlets), 3. Tomas Francis (Caerwysg), 4. Jake Ball (Scarlets), 5. Alun Wyn Jones (capten, Gweilch), 6. Aaron Wainwright (Dreigiau), 7. Justin Tipuric (Gweilch), 8. Josh Navidi (Gleision).

    Eilyddion: 16. Nicky Smith (Gweilch), 17. Elliot Dee (Dreigiau), 18. Dillon Lewis (Gleision), 19. Aaron Shingler (Scarlets), 20. Ross Moriarty (Dreigiau), 21. Tomos Williams (Gleision), 22. Rhys Patchell (Scarlets), 23. Leigh Halfpenny (Scarlets)

    Cyfartaledd oedran y tîm fydd yn dechrau'r gêm yw 28 oed a 331 diwrnod oedFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cyfartaledd oedran y tîm fydd yn dechrau'r gêm yw 28 oed a 331 diwrnod oed

  14. Croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 23 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd - gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd Japan 2019!

    Arhoswch gyda ni i am y diweddaraf o Stadiwm Dinas Toyota, ac am sylwadau arbennig gan ein gohebwyr yno, Dafydd Pritchard a Catrin Heledd.