Radio Cymru'n rhyngwaldolwedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019
BBC Cymru Fyw
Mae banneri Radio Cymru i'w gweld ar draws y byd. Hyd yn oed yn Kumamoto.
Warren Gatland yn gwneud 13 newid i'r tîm drechodd Fiji
Y blaenasgellwr Justin Tipuric yn arwain Cymruwrth i Alun Wyn Jones gael seibiant
Cymru'n ennill ac yn sicrhau eu lle ar frig Grwp D
Cymru i wynebu Ffrainc yn wyth olaf y gystadleuaeth ddydd Sul nesaf
BBC Cymru Fyw
Mae banneri Radio Cymru i'w gweld ar draws y byd. Hyd yn oed yn Kumamoto.
Emyr Lewis
Cyn wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru
"Rydym wedi tangyflawni yn yr hanner cyntaf.
"Mae'r dyfarnwr wedi bod yn rhwystredig iawn.
"Mae gormod o gamgymeriadau gan Gymru. Mae angen gwelliant enfawr yn yr ail hanner."
Cymru 7-6 Uruguay
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Kumamoto
Mae Uruguay wedi colli pob un o'u hwyth gem yn erbyn timau 'Tier 1' yng Nghwpan y Byd.
Maen nhw wedi ildio 54 pwynt ar gyfartaledd yn y gemau yna.
Un ffordd neu'r llall, maen nhw'n debyg o wella'r record yna heddiw.
BBC Cymru Fyw
Cais cynnar Nicky Smith a throsiad Leigh Halfpenny yw'r unig bwyntiau mae Cymru wedi'i llwyddo i gael yn yr hanner cyntaf.
Ciciau cosb Felipe Berchesi yn sicrhau mai pwynt o wahaniaeth sydd rhwng y ddau dîm ar hyn o bryd.
Gareth Charles
Gohebydd Rygbi BBC Cymru
"Dim ond pwynt o fantais. Doedd neb yn disgwyl hyn, ond dyna fel mae hi ar hyn o bryd."
Cymru 7-6 Uruguay
BBC Cymru Fyw
Dim ond pwynt sydd ynddi bellach ar ôl i Felipe Berchesi gicio cic gosb yn gywir o 20m gyda munud yn weddill o'r hanner cyntaf.
Derwyn Jones
Cyn glo Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru
"Mae angen yr ail gais i setlo pethe. Mae camgymeriadau Cymru yn ei gwneud hi'n hanner cyntaf eithaf rhwystredig," medd Derwyn Jones.
Cymru 7-3 Uruguay
BBC Cymru Fyw
Hallam Amos yn croesi yn dilyn pasio hyfryd gan Gymru, ond roedd y bas olaf ymlaen, felly er gwaethaf dathliadau chwaraewyr Cymru, ni fydd y cais yn cael ei chaniatáu.
Cymru 7-3 Uruguay
BBC Cymru Fyw
Felipe Berchesi yn cicio'n gywir i ychwanegu tri phwynt i Uruguay
Cymru 7-0 Uruguay
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Kumamoto
Chwarae amyneddgar gan Gymru.
Ma' nhw wedi rheoli'r chwarae trwy'r gêm ond, wrth i Uruguay amddiffyn yn ystyfnig, roedd angen i Gymru fod yn amyneddgar.
Dyna gais cyntaf Nicky Smith dros ei wlad.
Cymru 7-0 Uruguay
BBC Cymru Fyw
O'r diwedd, mae Cymru wedi tirio a Nicky Smith sy'n croesi ar ôl cyfnod o bwyso di-baid gan y cochion.
Roedd y cais yn anochel ac mae wedi dod yn haeddiannol wedi 16 munud.
Leigh Halfpenny yn cicio'n gywir ac mae Cymru ar y blaen.
Cymru 0-0 Uruguay
BBC Cymru Fyw
Y dyfarnwr yn rhybuddio capten Uruguay y byddai'n dangos cerdyn melyn y tro nesaf bydd Uruguay yn troseddu o flaen y pyst.
Mae Cymru yn pwyso ac yn agos iawn at y linell gais.
Cymru 0-0 Uruguay
BBC Cymru Fyw
Aaron Shingler yn croesi ond roedd ei ben glin wedi croesi'r llinell ochr cyn iddo dirio'r bêl.
Shingler mor agos i sgorio pwyntiau cyntaf y gêm wedi 11 munud.
Cymru 0-0 Uruguay
Derwyn Jones
Cyn glo Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru
"Mae angen cadw'r bêl yn well yn ardal y dacl.
"Mae Cymru wedi colli dau gyfle'n barod i sgorio cais. Mae angen bod yn amyneddgar, a bod yn wyliadwrus yn amddiffynnol,
"Yn enwedig Rhys Patchell.
"Mae'n cynnig cymaint yn ymosodol ond mae wedi colli ei hyder yn amddiffynnol ar ôl dioddef sawl anaf i'w ben."
Cymru 0-0 Uruguay
BBC Cymru Fyw
Wedi pum munud, Cymru yn croesi am gais ond dyw hi ddim yn cael ei chaniatau ar ôl i'r dyfarnwr ddweud fod Tipuric wedi pasio'r bêl ymlaen.
Cymru 0-0 Uruguay
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Kumamoto
Mae hwn yn stadiwm hyfryd. Mae'n atgoffa rhywun o Thomond Park, cartref Munster.
Ma'r haul yn dechre machlud, mae'n gynnes ac mae yna awel fach ddymunol hefyd.
Tywydd perffaith am gêm agored.
BBC Cymru Fyw
Rhys Patchell sydd a'r gic gyntaf ac i ffwrdd a ni yn Kumamoto
BBC Cymru Fyw
Mae anthem y ddwy wlad yn cael eu canu wrth i ni nesáu at y gic gyntaf
BBC Cymru Fyw
Mae munud o dawelwch cyn y gêm i gofio am y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn sgil teiffŵn Hagibis.
Emyr Lewis
Cyn wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru
"Mae'n bwysig i chwaraewyr Cymru chwarae fel tîm a pheidio â mynd allan i drio profi pwynt," meddai Emyr