Crynodeb

  • Warren Gatland yn gwneud 13 newid i'r tîm drechodd Fiji

  • Y blaenasgellwr Justin Tipuric yn arwain Cymruwrth i Alun Wyn Jones gael seibiant

  • Cymru'n ennill ac yn sicrhau eu lle ar frig Grwp D

  • Cymru i wynebu Ffrainc yn wyth olaf y gystadleuaeth ddydd Sul nesaf

  1. 'Crasfa i Uruguay'wedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019

    Derwyn Jones
    Cyn glo Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Yn ôl Derwyn Jones "Fe allai fod yn brynhawn hir i Uruguay."

    "Er y newidiadau fe allai fod yn grasfa i Uruguay os yw chwaraewyr Cymru ar eu gêm.

    "Eu cryfder yw blaenwyr trwm. Ond fe ddylai Cymru ennill yn gyfforddus." meddai

  2. Tîm Cymru'n llawnwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Warren Gatland yn gwneud 13 newid i'r tîm drechodd Fiji

    Tîm Cymru

    Leigh Halfpenny; Josh Adams, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Hallam Amos; Rhys Patchell, Aled Davies; Nicky Smith, Ryan Elias, Dillon Lewis, Bradley Davies, Adam Beard, Aaron Shingler, Justin Tipuric (C), Aaron Wainwright.

    Eilyddion :Elliott Dee, Rhys Carre, Wyn Jones, Jake Ball, Ross Moriarty, James Davies, Tomos Williams, Gareth Davies.

  3. Dadansoddiad Gareth Charleswedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    Disgrifiad,

    Edrych ymlaen i gêm Uruguay

  4. 13 newid i Gymruwedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Y blaenasgellwr Justin Tipuric sy'n gapten wrth i Alun Wyn Jones gael seibiant.

    Mae'r clo Adam Beard wedi ei gynnwys ar ôl gwella wedi llawdriniaeth i dynnu ei bendics.

    Rhys Patchell sydd yn dechrau yn safle'r maswr.

    Mae Hallam Amos yn cael ei gyfle cyntaf yn y gystadleuaeth a hynny ar yr asgell chwith, tra bod Bradley Davies, y bachwr Ryan Elias a'r mewnwr Aled Davies hefyd yn dechrau am y tro cyntaf yn Japan.

    Rhys PatchellFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Heulog yn Kimamotowedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Wrth i deiffŵn Hagibis arwain at ganslo gemau rhwng Lloegr a Ffrainc a Seland Newydd a'r Eidal, diolch byth am haul yn Kimamoto gan fod hanner y stadiwm yn ddi-do.

    KimamotoFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Cefnogwyr Cymru'n hyderuswedi ei gyhoeddi 08:46 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Disgrifiad,

    cefnogwyr

  7. Croesowedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1 13 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i lif byw arbennig gêm Cymru v Uruguay yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan.

    Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Kumamoto am 09:15.

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images