Crynodeb

  • Gêm olaf Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, a hynny yn erbyn ei famwlad

  • Chwe chais i'r Crysau Duon yn drech na dau gais Cymru

  • Steve Hansen yn gorffen gyda medal efydd yn ei gêm olaf fel hyfforddwr Seland Newydd

  1. Ffarwel Alun Wyn!wedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Jake Ball sy'n dod i'r maes yn lle'r capten.

    aolunFfynhonnell y llun, get
  2. Cymru'n ymosodwedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-35 Seland Newydd

    Cyfnod gwych i Gymru, ond taclo anhygoel gan y Crysau Duon yn atal Shingler, Tipuric a Biggar. Cic gosb i Gymru....

  3. Dal i greduwedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    fansFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Hat-tric i Ben Smith?wedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-35 Seland Newydd

    Y dyfarnwr Wayne Barnes yn gwrthod chweched cais ar ôl ymgynghori gyda'r dyfarnwr fideo - y bas wedi mynd ymlaen felly dim hat-tric i Ben Smith....wel dim eto.

    no tryFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-35 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Mae anafiadau yn barod wedi difetha ymgyrch Cymru, ac mae'n edrych fel bod pethau am waethygu eto nawr bod Rhys Patchell yn derbyn triniaeth gan y tim meddygol.

  6. Eilyddion cyntaf i Gymruwedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Dan Biggar, Gareth Davies ac Aaron Shingler ymlaen yn lle Rhys Patchell, Tomos Williams a Ross Moriarty

  7. Amhosib?wedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    "Mae tasg oedd eisoes yn edrych yn anodd nawr yn edrych yn amhosib!"

  8. Trosiad Mo'unga'n llwyddowedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-35 Seland Newydd

  9. Cais arall i'r Crysau Duonwedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-33 Seland Newydd

    Gwaith gwyrthiol Sonny Bill Williams yn rhyddhau Ryan Crotty i sgorio pumed cais i'r Crysau Duon.

    caisFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Ail hanner wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-28 Seland Newydd

    Beauden Barrett sy'n dechrau'r ail hanner i'r Crysau Duon

  11. Ydych chi'n adnabod y ffisegydd?wedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Gair i gall?wedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Os all unrhyw un godi tîm Cymru ar gyfer yr ail hanner anodd sydd o'u blaenau, Alun Wyn Jones yw'r dyn!

    alunFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Ail hanner anferth i ddodwedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-28 Seland Newydd

    Er gwaetha' cyfnodau da i Gymru, mae'n bedwar cais yn erbyn un i'r Crysau Duon gyda Ben Smith yn sgorio dau ohonyn nhw.

    Mae'n rhaid i Gymru sgorio gyntaf wedi'r egwyl yma.

    smith etoFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. A oes gobaith?wedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-28 Seland Newydd

    Pum pwynt yr un gan Hallam Amos (cais) a Rhys Patchell (trosiad a chic gosb) sydd wedi ei gwneud hi'n ddifyr yn yr hanner cyntaf.

    Ond mae angen llawer mwy yn yr ail hanner os oes gobaith o fuddugoliaeth annisgwyl.

    AMOSFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Cefnogwyr Cymru yn dal i ganu!wedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Er gwaethaf y sgôr, nid yw cefnogwyr Cymru sydd yn y stadiwm yn torri eu calonau!

    cefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Gwers i Gymruwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-28 Seland Newydd

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    "Er bod Cymru wedi gwneud yn dda o safbwynt meddiant, ac wedi dangos chwarae da ar brydiau, maen nhw wedi cael gwers gan Seland Newydd ar sut i sgorio ceisiau!"

  17. Trosiad Mo'unga yn llwyddowedi ei gyhoeddi 09:47 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-28 Seland Newydd

  18. Ben Smith eto - diwedd siomedigwedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-26

    Cais arall i Ben Smith wedi i'r cloc droi'n goch ar ddiwedd yr hanner cyntaf!

    smithFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Dadansoddiad sylwebydd Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Er bod Seland Newydd yn edrych yn beryglus, mae’r diriogaeth a’r meddiant o blaid Cymru. Mae’n rhaid i Gymru gario eu cadw nhw ar y droed ôl o hyd.

    gemFfynhonnell y llun, getty
  20. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-21 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Roedd amddiffyn Cymru yn wan ar gyfer cais Ben Smith.

    Er bod Cymru wedi cystadlu'n dda yn yr hanner cyntaf, ma'r Crysau Duon wedi cymryd eu cyfleon yn effeithlon iawn.