Gobeithio byddan nhw'n gwenu cymaint ar y diwedd!wedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

Gêm olaf Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, a hynny yn erbyn ei famwlad
Chwe chais i'r Crysau Duon yn drech na dau gais Cymru
Steve Hansen yn gorffen gyda medal efydd yn ei gêm olaf fel hyfforddwr Seland Newydd
Does dim mwy all Warren Gatland ei wneud...
Mae'r tîm yn gwrando'n astud ar eiriau olaf y capten, Alun Wyn Jones, cyn y frwydr olaf yng Nghwpan y Byd 2019.
Yn ei golofn olaf i Cymru Fyw o Japan, y bachwr Ken Owens sy'n edrych yn ôl ar Gwpan Rygbi'r Byd ac yn sôn am ei obeithion cyn y gêm olaf yn erbyn Seland Newydd.
Mae'n dweud bod y chwaraewyr wedi cael ychydig ddyddiau i ffwrdd yr wythnos hon a bod y garfan yn bositif er y golled yn y rownd gynderfynol.
"O ran y chwaraewyr, s'neb 'di siarad am ymddeoliad eto ond dyma fydd Cwpan y Byd ola' lot o'r bois," meddai, gan ychwanegu bod Japan wedi cynnal cystadleuaeth "arbennig".
Mae'r ddau dîm yn cynhesu yn Stadiwm Tokyo, ac mae'r ddau hyfforddwr o Seland Newydd wedi cyfarch ei gilydd ar ddiwrnod anferth i'r ddau ohonyn nhw.
Dyma flas ar yr awyrgylch tu allan i Stadiwm Tokyo...
Cefnogwyr cyn gem Cymru yn erbyn Seland Newydd
Yn ogystal â bod yn gêm olaf fel hyfforddwyr eu gwledydd i Warren Gatland a Steve Hansen, heddiw fydd gêm olaf Wayne Barnes fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol.
Ef oedd yn y canol y tro diwethaf i Gymru geisio am y trydydd safle yng Nghwpan Rygbi'r Byd... fe gollon nhw o 21-18 yn erbyn Awstralia yn Auckland yn 2011.
Gawn ni obeithio am ganlyniad gwahanol y tro hwn Wayne?
Gareth Charles
Gohebydd Rygbi BBC Cymru
Gareth Charles a Garan Evans sy'n edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Seland Newydd...
Bydd y ddau dîm yn awyddus iawn i orffen gyda buddugoliaeth am nifer o resymau, ond pwy fydd yn mynd â hi?
Gareth Charles a Garan Evans
Mae cefnogwyr y ddau dîm wedi gwneud ymdrech gyda'u gwisgoedd yn Tokyo fore Gwener!
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pan gynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd am y tro cyntaf erioed - yn 1987 - fe aeth Cymru i'r rownd gynderfynol cyn colli yno i Seland Newydd.
Y gwrthwynebwyr yn y gêm am y trydydd safle oedd Awstralia, ac fe enillodd Cymru o 22-21 diolch i gais hwyr iawn gan Adrian Hadley a throsiad gwych o'r ystlys gan Paul Thorburn.
Dyddiau da!
Catrin Heledd
Gohebydd chwaraeon yn Tokyo
Mae Dewi Preece yn newyddiadurwr gyda chwmni teledu TVNZ yn Seland Newydd.
Sgwn i a ydi ei gyflogwyr yn gwybod y bydd yn cefnogi Cymru heddiw!
Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru bore 'ma fodd bynnag, fe wnaeth e ddarogan mai ei wlad fabwysiedig fyddai'n ennill y gêm.
Cymru v Seland Newydd (09:00)
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Does dim llawer o hyder ymhlith y Cymry yma yn Stadiwm Tokyo, ac mae'n hawdd gweld pam.
Dyw Cymru heb guro Seland Newydd ers 1953, ac ma' Warren Gatland 'di colli pob un o'i 11 gem wrth y llyw a Chymru yn erbyn y Crysau Duon.
Yn ei gem olaf, bydde Warren Gatland wrth ei fodd yn curo'i famwlad am y tro cyntaf fel hyfforddwr Cymru.
Ond bydd hynny'n anodd yn erbyn tim sydd hefyd yn ffarwelio i'w hyfforddwr.
A beth am record ryfeddol Steve Hansen (yn gynt o Gymru wrth gwrs)? Chwarae 106, ennill 92, pedair gem gyfartal a cholli dim ond 10.
Merched Cilycwm yma i gefnogi Wyn Jones a Chymru!
Bydd y gêm heddiw'n cael sylw fel gêm olaf Warren Gatland gyda Chymru, ond nid ef yw'r unig un sy'n gadael y tîm cenedlaethol.
Bydd hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde hefyd yn gadael am Leinster wedi dros ddegawd gyda'r tîm hyfforddi.
Dywedodd ei fod wedi cael "12 mlynedd arbennig" gyda Chymru, a'i fod yn "falch iawn o edrych 'nôl ar beth ry'n ni wedi'i gyflawni".
Ychwanegodd ei fod yn sicr fod safon y garfan bresennol yn "cynhyrfu" y tîm hyfforddi newydd fydd yn cymryd eu lle.
McBryde wedi cael '12 mlynedd arbennig' gyda Chymru
Mae Seland Newydd wedi gwneud saith newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Loegr yn y rownd gynderfynol.
Hon fydd gêm olaf eu prif hyfforddwr nhw - Steve Hansen - hefyd, yn ogystal â'u capten Kieran Read.
Er y newidiadau, dydy'r enwau sy'n dod i mewn i'r tîm - fel Sonny Bill Williams, Ben Smith a Rieko Ioane - ddim yn chwaraewyr rhy ddrwg chwaith!
Bydd y capten Kieran Read yn ennill ei gap olaf i'r Crysau Duon yn Tokyo
Beauden Barrett; Ben Smith, Ryan Crotty, Sonny Bill Williams, Rieko Ioane; Richie Mo'unga, Aaron Smith; Joe Moody, Dane Coles, Nepo Laulala, Brodie Retallick, Scott Barrett, Shannon Frizell, Sam Cane, Kieran Read (c).
Eilyddion: Liam Coltman, Atu Moli, Angus Ta'avao, Patrick Tuipulotu, Matt Todd, Brad Weber, Anton Lienert-Brown, Jordie Barrett.
Mae Cymru wedi gwneud naw newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Dde Affrica yn y rownd gynderfynol.
Mae'r asgellwr Owen Lane yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Japan, Hallam Amos sy'n cymryd lle Leigh Halfpenny fel cefnwr, gyda Jonathan Davies ac Owen Watkin yn ganolwyr.
Rhys Patchell fydd yn safle'r maswr a Tomos Williams yn fewnwr, Dillon Lewis sy'n dechrau yn lle Tomas Francis fel prop tra mai Adam Beard sy'n cymryd lle Jake Ball yn yr ail reng.
Mae James Davies yn dechrau fel blaenasgellwr yn lle Aaron Wainwright, gyda Justin Tipuric a Ross Moriarty yn ymuno ag ef yn y rheng ôl.
Cafodd Owen Lane ei alw i'r garfan yn hwyr i gymryd lle Josh Navidi
Hallam Amos; Owen Lane, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams; Rhys Patchell, Tomos Williams; Nicky Smith, Ken Owens, Dillon Lewis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Justin Tipuric, James Davies, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Wyn Jones, Jake Ball, Aaron Shingler, Gareth Davies, Dan Biggar, Hadleigh Parkes.
Gareth Charles
Gohebydd Rygbi BBC Cymru
Yn ei golofn olaf o Gwpan Rygbi'r Byd mae Gareth Charles yn rhoi teyrnged i Warren Gatland am ei gyfnod 12 mlynedd wrth y llyw.
"Dyw'r cylch ddim cweit wedi troi'n llawn - fe ddechreuodd ei deyrnasiad gyda buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Lloegr yn Twickenham, fe fyddai gorffen yn yr un modd yn Yokohama wedi bod yn ddiweddglo tylwyth teg.
"Y peth nesa' at hynny fyddai curo'i famwlad am y tro cyntaf ond rwy'n ofni bod hynny'n gofyn am fwy o hud a lledrith na mae'r bodau bach yna hyd yn oed yn meddu arno!
"Ond beth bynnag fydd yn digwydd yn Tokyo fe all Gatland edrych 'nôl ar ei gyfnod yn y swydd gyda balchder mawr - tair Camp Lawn, dwy rownd gynderfynol ac un wyth ola' yng Nghwpan y Byd, a hyd yn oed cyrraedd rhif un y byd am sbel fach."
Mae hi'n bendant yn wir nad oes gan Gymru record dda yn erbyn Seland Newydd yn ddiweddar!
Cafodd Cymru ddechrau da yn eu hanes yn eu herbyn, gan ennill tair o'r pedair gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad.
Ond mae hi wedi mynd tipyn gwaeth ers hynny, gyda Chymru bellach yn disgwyl 66 mlynedd am fuddugoliaeth dros y Crysau Duon.
Fe ddaeth y fuddugoliaeth ddiwethaf ym mis Rhagfyr 1953, ac ers hynny mae Seland Newydd wedi ennill 30 gêm yn olynol, gan gynnwys tair yng Nghwpan y Byd.
Cafodd Cymru eu trechu gan dîm Seland Newydd Jonah Lomu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 1995
Croeso i'n llif byw o'r gêm am y trydydd safle yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan!
Mae rhai wedi dweud nad oes llawer o bwys i gynnal gêm o'r fath, ond bydd y garfan a'r tîm hyfforddi yn bendant yn anghytuno.
Dyma fydd gêm olaf Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, a hynny yn erbyn ei famwlad, ac mae Cymru'n mynd am eu safle gorau yn y gystadleuaeth ers y Cwpan Rygbi'r Byd cyntaf yn 1987.
Arhoswch gyda ni am y cyfan dros yr oriau nesaf!