Crynodeb

  • Gêm olaf Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, a hynny yn erbyn ei famwlad

  • Chwe chais i'r Crysau Duon yn drech na dau gais Cymru

  • Steve Hansen yn gorffen gyda medal efydd yn ei gêm olaf fel hyfforddwr Seland Newydd

  1. Trosiad Mo'ungawedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-21 Seland Newydd

  2. Cais i Seland Newydd!wedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-19 Seland Newydd

    Ben Smith yn croesi wedi i Gymru golli'r meddiant yn eu 22.

    smithFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Noson anodd?wedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-14 Seland Newydd

    Pan aeth Seland Newydd ar y blaen o ddau gais, doedd Keiran Read ddim wedi disgwyl noson mor anodd siawns!

    Mae Cymru yn sicr yn ôl yn y gêm yma.

    readFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-14 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Am gem!

    Y ddau dim yn ymosod, yn chware llawn antur a Chymru nawr dim ond pedwar pwynt tu ol i'r Crysau Duon.

  5. Patchell yn sgorio cic gosbwedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 10-14 Seland Newydd

  6. Cyfnod dawedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 7-14 Seland Newydd

    Garan Evans
    Cyn-gefnwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    "Cymru'n chwarae Rygbi gret ac yn rhoi amddiffyn Seland Newydd dan dipyn o bwysau," medd Garan Evans ar BBC Radio Cymru.

  7. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 7-14 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Pas hyfryd gan Rhys Patchell ar gyfer cais Hallam Amos, a chic da hefyd.

    Dyw maswr y Sgarlets dal heb fethu a chic at y pyst eto yn Nghwpan Rygbi'r Byd.

  8. Trosiad Patchellwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 7-14 Seland Newydd

  9. CAIS I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 5-14 Seland Newydd

    Hallam Amos yn sgorio cais cyntaf Cymru!

    amosFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Cymru'n agos!!wedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-14 Seland Newydd

    Lewis yn croesi'r llinell i Gymru ond yn methu tirio....cic gosb i Gymru, ond maen nhw'n mynd am y cais.

  11. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-14 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Gyda llaw, colled mwya' Cymru yn erbyn y Crysau Duon oedd 55-3 yn 2003.

  12. Trosiad Mo'ungawedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-14 Seland Newydd

  13. Cais arall!wedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-12 Seland Newydd

    Beauden Barrett sy'n croesi am ail gais y Crysau Duon!

    barrettFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-7 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Ma' sgiliau blaenwyr y Crysau Duon yn well na nifer o olwyr rhyngwladol.

    Gwaith arbennig gan Kieran Read a Brodie Retallick i ryddhau Joe Moody ar gyfer y cais agoriadol.

  15. Trosiad Mo'ungawedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-7 Seland Newydd

  16. Cais i Seland Newydd!wedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-5 Seland Newydd

    Cyd-chwarae gwych i lawr canol y cae a'r prop Joe Moody yn croesi'r llinell wedi pas gan Retallick.

    caisFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-0 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Syndod oedd gweld Seland Newydd yn chwarae yn erbyn Lloegr efo'r blaenasgellwr Sam Cane ar y fainc.

    Ar ol munud yn unig yn erbyn Cymru, ma' Cane wedi atgoffa'r Crysau Duon o'r hyn ma' fe'n cynnig wrth adennill meddiant i'w dim.

  18. Seland Newydd yn perfformio'r ddawns ryfel draddodiadolwedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    hakaFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Cyfle cynnar!wedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-0 Seland Newydd

    Josh Adams yn canfod bwlch yn amddiffyn y Crysau Duon ac i mewn i'r 22, ond Cymru'n ildio'r meddiant yn ardal y dacl.

  20. Dechrau'r gêmwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 0-0 Seland Newydd

    Chwiban Wayne Barnes yw'r arwydd i Rhys Patchell ddechrau'r gêm