Crynodeb

  • 5,848 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf positif am Covid-19, gyda 403 o farwolaethau

  • Sioe Môn ymhlith y digwyddiadau diweddaraf i gael eu canslo oherwydd coronafeirws

  • Cyn-aelod seneddol â phryder am brofion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn marwolaeth ei gŵr

  • Newyddiadurwyr yn dweud fod yr argyfwng wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar bapurau newydd lleol

  1. Hwyl fawr am heddiwwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    A dyna'r cyfan gan dîm y llif byw am heddiw. Fe fyddwn ni nol fore Mercher.

    Yn y cyfamser cofiwch edrych ar ein hafan, bbc.co.uk/cymrufyw am y newyddion diweddaraf.

    Hwyl fawr.

  2. Egluro'r pandemig i blantwedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae coronafeirws wedi peri cryn bryder i ni gyd dros yr wythnosau diwethaf, ac i blant mae'r hyn sydd yn digwydd yn y byd o'n cwmpas yn dipyn i'w amgyffred.

    Bellach mae addasiad Cymraeg ar gael o lyfr sydd yn egluro'r pandemig mewn ffordd syml iddyn nhw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Taliadau i weithwyr sydd ar seibiant cyflogwedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Cyn iddo ddod a'r gynhadledd ddyddiol i ben, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y dylai cwmnïau allu gwneud cais am arian i helpu i dalu staff sydd wedi cael seibiant cyflog "ar neu o gwmpas" 20 Ebrill.

    "Dyna'r dybiaeth ar hyn o bryd", meddai, gan ychwanegu bod y system newydd yn cael ei brofi ar hyn o bryd.

    Bydd bwlch o “sawl diwrnod” rhwng ceisio am gymorth a chael yr arian parod, meddai, er mwyn caniatáu amser i wirio rhag twyll a gweithio drwy'r broses dalu BACS.

  4. Cartrefi gofal "heb gael eu anghofio"wedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Wrth ateb cwestiynnau aelodau o'r wasg fe fynnodd y Canghellor Rishi Sunak nad ydyn nhw wedi anghofio am drigolion a gweithwyr mewn cartrefi gofal.

    Yn ystod y gynhadledd ddyddiol dywedodd bod gwaith ar y gweill i gael data cywir o gartrefi gofal ond bod yna "her dechnegol" ar hyn o bryd.

    Yn gynharach dydd Mawrth fe ddaeth hi i'r amlwg bod ffigyrau gwahanol am nifer y marwolaethau am nad yw marwolaethau sy'n digwydd y tu allan i ysbytai, gan gynnwys marwolaethau mewn cartrefi gofal a chartrefi preifat yn cael eu cofnodi.

  5. Rhybudd y gallai ecomoni Prydain grebachu 35%wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Ar ddechrau cynhadledd ddyddiol y Llywodraeth dywedodd y Canghellor Rishi Sunak bod y rhain yn "ddyddiau anodd" a bod y gost o beidio â gwario ar wasanaethau i fynd i'r afael a'r haint llawer yn fwy na'r gost ariannol.

    Daeth rhybudd yn gynharach heddiw y gallai'r economi grebachu 35% yn sgil y pandemig.

    Cafwyd cadarnhad heddiw bod 778 yn ychwanegol o bobl wedi marw mewn ysbytai yng ngwledydd Prydain dros y 24 awr ddiwethaf, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 12,107.

    Mae cyfanswm o 93,873 wedi profi'n bositif i'r haint.

    Dywedodd y Canghellor bod y ffigyrau diweddaraf o ran nifer y marwolaethau yn "neges bwerus" i atgoffa pobl am yr angen i ddilyn cyfarwyddyd ar ymbellhau cymdeithasol.

  6. Cwpl yn marw ar yr un diwrnod o Covid-19wedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae cwpl o'r Rhondda oedd wedi bod yn briod ers 60 mlynedd wedi marw o fewn oriau i'w gilydd o coronafeirws.

    Bu farw Pat Howells, 80, a'i gŵr Bryn, 86, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddydd Llun.

    Dywedodd eu hŵyr, Elliot Howells, wrth BBC Cymru: "Fe dreulion nhw eu bywydau gyda'i gilydd ac roedden nhw wedi dotio gyda'i gilydd.

    "Bydden nhw'n gwneud popeth gyda'i gilydd, ac er ein bod ni wedi'u colli nhw ar yr un diwrnod, mae rhywbeth bron yn heddychlon a rhamantus bod eu bywydau wedi dod i ben ar yr un diwrnod.

    "Efallai nad oedden nhw'n gallu wynebu peidio bod gyda'i gilydd."

    Pat a BrynFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Pat a Bryn ar ddiwrnod eu priodas yn 1959

    Pat a BrynFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Y cwpl yn dathlu eu pen-blwydd priodas yn 60

  7. Teyrngedau i nyrs a fu farw o Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i nyrs fu farw ar ôl iddi gael Covid-19.

    Bu farw Leilani Medel, 41, oedd yn wreiddiol o Ynysoedd y Philipinau, yn Ysbyty Tywysoges Cymru ddydd Iau.

    Wrth siarad â BBC Cymru o Ynysoedd y Philipinau dywedodd ei modryb, Shiela Ancheta: “Nid yw’n ymddangos yn real ei bod wedi mynd oddi wrthym ni. Roedd hi'n llawn bywyd.

    “Rydyn ni eisiau iddi wybod faint y byddwn ni'n ei cholli, a faint mae ei theulu'n brifo."

    Mae gŵr Mrs Medel, Johnny, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl datblygu symptomau coronafirws hefyd.

    Leilani MedelFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Y nyrs Leilani Medel, a fu farw o ganlyniad i Covid-19

  8. Canu'r anthem mewn clodwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Fe fu pobl ar draws Cymru yn canu'r anthem genedlaethol neithiwr i gydnabod ymdrechion ein gweithwyr allweddol - dyma ddetholiad o rai ohonynt.

  9. 89% yn llai o draffig ar brif ffordd y gogleddwedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Lladrad mewn canolfan feddygolwedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad mewn canolfan feddygol yng Nghaerdydd.

    Dywedodd Heddlu'r De fod monitor cyfrifiadur ymhlith yr eitemau gafodd eu dwyn o Ganolfan Feddygol Four Elms yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

    Fe wnaeth hyn achosi cryn drafferthion i'r feddygfa ar beth maen nhw'n ei ddisgrifio fel "un o ddyddiau prysuraf y flwyddyn".

    Canolfan Feddygol Four Elms
  11. Ffigyrau marwolaethau'n amrywiowedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae ffigyrau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod 82 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19 nag a adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru erbyn dechrau mis Ebrill.

    Dangosai ffigyrau'r ONS fod 236 o farwolaethau yng Nghymru hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar ddydd Gwener, 3 Ebrill.

    Ar ddydd Sadwrn, 4 Ebrill roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod nifer y marwolaethau yng Nghymru yn 154.

    Mae ffigyrau ONS yn cynnwys marwolaethau sy'n digwydd y tu allan i ysbytai, gan gynnwys marwolaethau mewn cartrefi gofal a chartrefi preifat.

  12. 'Newyddion ffug' am coronafeirwswedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae'r corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant cyfathrebu, Ofcom, yn dweud bod hanner oedolion y DU wedi darllen rhyw fath o newyddion ffug am yr haint yn yr wythnos ddiwethaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Nifer y profion llawer is na'r targedwedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Yn ei gynhadledd i'r wasg yn gynharach prynhawn 'ma fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fynegi ei rwystredigaeth fod y gwasanaeth iechyd ddim yn gwneud y mwyaf o'r capasiti profi ar gyfer Covid-19.

    Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru wedi addo 5,000 o brofion y dydd erbyn canol y mis, gan gynyddu i tua 9,000 y dydd erbyn diwedd y mis.

    Ond ar hyn o bryd dim ond lle i brofi tua 1,300 sampl y dydd sydd i gael - tipyn is na'r targed.

    Nid dim ond hynny, ond fe wnaeth y data diweddaraf ar gyfer profion ar Ddydd Llun y Pasg ddangos mai ond 678 prawf gafodd ei wneud.

  14. Ben yn bwydo'r boi drws nesa'wedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae amddiffynnwr Cymru, Ben Davies wedi bod yn siarad mewn cyfweliad am y cymorth mae wedi bod yn ei roi i un o'i gymdogion yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws.

    Dywedodd cyn-amddiffynnwr Abertawe, sydd bellach yn chwarae i Tottenham Hotspur, ei fod wedi bod yn siopa a darparu prydau bwyd iddo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Croesawu cerdyn i weithwyr gofalwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae mudiad wedi croesawu cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd yn ei gynhadledd i'r wasg yn gynharach y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol nawr yn cael cerdyn adnabod tebyg i'r hyn sydd gan weithwyr y gwasanaeth iechyd.

    Mae gan nifer o siopau a gwasanaethau gynigion neu oriau agor arbennig ar gyfer gweithwyr allweddol o'r fath, gan olygu bod modd iddyn nhw fynd rhwng eu shifftiau neu ar adegau llai prysur.

    "Gobeithio y bydd yn ei gwneud yn haws i weithwyr gofal cymdeithasol siopa pan fydd angen iddynt wneud hynny, siopa ar ran y bobl y maent yn eu cefnogi heb gael eu cwestiynu, a symud yn ddirwystr rhwng eu cartref a'u gweithle," meddai Sue Evans, prif weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru.

    "Byddai hyn yn caniatáu iddynt ganolbwyntio cymaint ag sy'n bosibl ar ddarparu gofal rhagorol yn ystod y cyfnod ansicr hwn."

  16. Gair o gyngor gan ymwelydd iechydwedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fideo ar Twitter gydag ymwelydd iechyd yn esbonio sut mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Bydd y rhan fwyaf o 'ymweliadau' bellach yn digwydd dros y ffôn, ond bydd staff dal yn medru ymweld â'r cartref os oes angen.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. 'Ymwybodol' o bryderon offer diogelwch personolwedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud eu bod nhw yn "edrych yn fwy manwl" ar faint o offer diogelwch personol sydd ar gael i staff yn sgil honiadau gan rai staff nad oes ganddyn nhw ddigon.

    Dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol y bwrdd, Ruth Walker eu bod yn "ymwybodol" o'r pryderon a'u bod yn "edrych ar ein systemau'n gyson i sicrhau bod stoc yn y lle iawn ar yr adeg iawn".

    "Fel bwrdd iechyd mae gennym ni ddigon o offer PPE ar gael ac mewn stoc, cyn belled â bod y lefel cywir o PPE yn cael ei ddefnyddio yn yr amgylchiadau cywir i gwrdd â'r canllawiau cenedlaethol yn ogystal â'n safonau uchel ni fel bwrdd iechyd," meddai.

    "Os oes gweithiwr wedi canfod nad yw hyn yn wir a'u bod yn teimlo fod prinder, bydden ni'n eu hannog nhw i godi'r mater yn syth."

  18. Carchardai Cymru 'mor llawn ag erioed'wedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Canolfan Llywodraethiant Cymru

    Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, dolen allanol ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud bod poblogaeth carchardai Cymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed ym mis Mawrth 2020.

    Daw hynny er gwaethaf pryderon ar hyn o bryd ynghylch ymlediad coronafeirws o fewn carchardai yng Nghymru a Lloegr - cymaint felly fel bod camau'n cael eu cymryd i ryddhau rhai carcharorion yn gynnar.

    Dywedodd Dr Robert Jones, awdur yr adroddiad: “Mae’n hanfodol bod llywodraethau Cymru a’r DG yn rhoi’r asiantaethau priodol a gwasanaethau cyhoeddus ar waith, er mwyn sicrhau bod carcharorion sydd newydd eu rhyddhau yn gallu ailadeiladu eu bywydau ar adeg pan fod y gymdeithas y byddan nhw’n cael ei ryddhau iddi yn wynebu chwalfa na welwyd mo’i debyg o’r blaen.”

    Carchar BerwynFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Carchar Berwyn - yr un mwyaf yng Nghymru

  19. Cludo bwyd i bobl Môn a Gwyneddwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    North Wales Chronicle

    Mae busnesau yn Ynys Môn a Gwynedd wedi dod at ei gilydd i gludo bwyd i bobl fregus yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Yn ôl y North Wales Chronicle, dolen allanol, fe fydd 'Neges' hefyd yn darparu prydau bwyd i staff yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.

  20. Gwaith yn parhau ar ysbytai maeswedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae pethau'n dechrau siapio yma yng nghanolfan chwaraeon Prifysgol Bangor - un o dri ysbyty maes sy'n cael eu datblygu yn y gogledd i daclo coronafeirws.

    Bydd lle ar gyfer hyd at 250 o gleifion yno, gyda lle i 250 hefyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint, ac 850 yn 'Ysbyty'r Enfys' yn Venue Cymru, Llandudno.

    Y gobaith ar hyn o bryd yw y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn diwedd yr wythnos a bod y safle'n agor erbyn mis Mai.

    ysbyty maes Bangor