Crynodeb

  • 5,848 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf positif am Covid-19, gyda 403 o farwolaethau

  • Sioe Môn ymhlith y digwyddiadau diweddaraf i gael eu canslo oherwydd coronafeirws

  • Cyn-aelod seneddol â phryder am brofion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn marwolaeth ei gŵr

  • Newyddiadurwyr yn dweud fod yr argyfwng wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar bapurau newydd lleol

  1. Ffyrdd yn dawelwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Traffig Cymru

    Mae'r ffyrdd ar draws Cymru wedi parhau i edrych yn gymharol wag dros y penwythnos a'r bore 'ma, wrth i bobl aros adref ac osgoi unrhyw deithio sydd ddim yn angenrheidiol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  2. Cymeradwyo peiriant anadlu gan feddyg o Sir Gârwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Mae math newydd o beiriant anadlu, gafodd ei ddatblygu yn Sir Gâr i drin cleifion coronafeirws, wedi cael ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

    Cafodd y ddyfais ei dylunio gan y Dr Rhys Thomas, sy'n uwch-ymgynghorydd yn Ysbyty Glangwili, gyda chymorth Maurice Clarke o CR Clarke & Co. - cwmni peirianneg yn Rhydaman.

    Mae'r peiriant Covid CPAP yn helpu cleifion i anadlu'n haws, a bydd bellach yn destun treialon clinigol.

    Dywedodd yr Athro Keir Lewis, arweinydd anadlol Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Bellach mae gan y peiriant CPAP addawol hwn y cynlluniau priodol a’r gefnogaeth ledled Cymru i fod yn destun gwerthusiad cyflym a gofalus gyda chleifion, ac rydym yn disgwyl canlyniadau’r treialon hyn yn eiddgar."

    Dyfais
  3. Yr anthem yn atseiniowedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Twitter

    Fe fuodd pobl ar draws Cymru allan neithiwr am 20:00 i ganu Hen Wlad Fy Nhadau er mwyn dangos cefnogaeth i weithwyr allweddol - dyma ymdrech go lew pobl Pontypridd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Teulu nyrs fu farw â Covid-19 hefyd yn yr ysbytywedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Daily Mirror

    Mae'r Mirror yn dweud fod gŵr a merch nyrs o dde Cymru fu farw â coronafeirws hefyd yn yr ysbyty â'r haint, dolen allanol.

    Roedd Leilani Medel, 41, yn gweithio fel nyrs ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi iddi symud yma o ynysoedd y Philippines.

    Cafodd ei marwolaeth ei gadarnhau gan ei theulu ddydd Gwener.

  5. Amddiffyn y penderfyniad i gau canolfan brofiwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i gau canolfan brofi ar gyfer gweithwyr allweddol ar ddydd Llun y Pasg.

    Roedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r penderfyniad i gau'r ganolfan brofi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y feirniadaeth yn dangos "diffyg dealltwriaeth" o sut mae'r system brofi yn gweithio.

    Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw bod y penderfyniad wedi'i wneud oherwydd y "niferoedd isel o weithwyr allweddol" yr oedden nhw'n disgwyl fyddai'n gweithio ddoe.

    Canolfan brofiFfynhonnell y llun, Wales News Service
  6. Arbenigwyr 'props' teledu yn creu offer gwarchod iechydwedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae'r adran bropiau y tu ôl i'r gyfres deledu His Dark Materials wedi dechrau gwneud offer gwarchod personol ar gyfer gweithwyr iechyd.

    Mae'r argraffwyr 3D a greodd yralethiometer- neu'r cwmpawd euraidd - bellach yn cael eu defnyddio i wneud masgiau wyneb plastig ar gyfer meddygon sy'n delio â phandemig Covid-19.

    Cwmni cynhyrchu Bad Wolf yng Nghaerdydd sy'n cynhyrchu'r rhaglen sy'n seiliedig ar lyfrau Syr Philip Pullman.

    Daw hyn yn dilyn y newyddion bod adran wisgoedd y gyfres wedi bod yn cynhyrchu dillad meddygol.

    Fe allwch chi ddarllen mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    His Dark Materials
  7. Cyn-lywydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig 'yn gwella'wedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae cyn-lywydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig "yn gwella" ar ôl iddo orfod mynd i'r ysbyty gyda coronafeirws.

    Mae William Powell, oedd yn AC Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016, yn parhau i gynrychioli ardal Talgarth ar Gyngor Powys.

    Dywedodd y blaid fod ei gyflwr yn gwella, ag yntau wedi bod yn yr ysbyty am dros bythefnos.

    William PowellFfynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  8. Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn galw am brofionwedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    BBC Radio Wales

    Mae gweithwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n amau bod ganddyn nhw Covid-19 yn gwneud apêl i gael eu profi fel eu bod yn gallu dychwelyd i'w gwaith cyn gynted â phosib.

    Dywedodd Cerith Griffiths o Undeb y Brigadau Tân wrth BBC Radio Wales y bore 'ma fod 178 o ddiffoddwyr yng Nghymru yn hunan ynysu ar hyn o bryd.

    "Y pryder yw bod y niferodd am gynyddu. Dyna pam rydyn ni'n galw am y profion," meddai.

    "Dydyn ni ddim eisiau cael ein profi o flaen staff y GIG - nhw ydy'r flaenoriaeth - ond os ydyn ni'n gallu cael profion i staff sy'n hunan ynysu i weld os oes ganddyn nhw'r feirws, fe allan nhw fod yn ôl wrth eu gwaith yn gynt."

    Tân
  9. Gorchmynion yn cael eu llacio yn Ewropwedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Gyda'r gorchymyn i aros gartref yn parhau mewn grym yng Nghymru a gweddill y DU, mae rhannau o Ewrop yn llacio eu gorchmynion nhw.

    Mae Awstria yn ailagor miloedd o siopau heddiw fel rhan o gynllun cam-wrth-gam i ailddechrau'r economi yno.

    Mae Sbaen hefyd wedi gadael i rai busnesau ddychwelyd at eu gwaith, tra bo Denmarc yn ailagor ysgolion i blant iau.

    Bydd Yr Eidal - y wlad sydd wedi'i tharo waethaf yn Ewrop, gyda dros 20,000 o farwolaethau - yn gadael i rai cwmnïau ailddechrau eu gwaith heddiw.

    Ond yn Ffrainc, mae'r Arlywydd Emmanuel Macron wedi ymestyn y gorchymyn i aros adref yno am o leiaf pedair wythnos arall.

    EwropFfynhonnell y llun, AFP
  10. Hen brosiect yn ysbrydoli ymchwil i fywyd dan coronafeirwswedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae gwaith ymchwil o'r Ail Ryfel Byd wedi sbarduno astudiaeth newydd i weld sut mae pobl yn ymdopi o ddydd i ddydd yn ystod argyfwng coronafeirws.

    Bydd y prosiect yn edrych ar wefannau cymdeithasol, dyddiaduron a fideos pobl i gael darlun o fywyd pob dydd.

    Yn yr astudiaeth wreiddiol roedd panel o wirfoddolwyr yn cynnal holiaduron rheolaidd, ac yn ysgrifennu dyddiaduron am fywyd dan gysgod rhyfel.

    Dywedodd Dr Michael Ward o Brifysgol Abertawe, sy'n arwain yr astudiaeth, ei fod eisiau deall sut mae cymdeithas yn ymateb i'r pandemig.

    Mae modd darllen mwy am y stori yma ar ein hafan.

    LluniauFfynhonnell y llun, PRIFYSGOL SUSSEX/THE MASS OBSERVATION ARCHIVE
  11. Teyrnged i nyrs 'hyfryd' fu farw â coronafeirwswedi ei gyhoeddi 08:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    BBC Wales News

    Mae cyfaill nyrs fu farw ar ôl cael coronafeirws wedi rhoi teyrnged i "ddyn hyfryd".

    Roedd Gareth Roberts wedi gweithio fel nyrs ar draws Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ers yr 80au, gan ddychwelyd yn 2015 ar ôl ymddeol.

    Bu farw mewn ysbyty ym Merthyr Tudful yn oriau mân bore Sadwrn.

    Gareth RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu
  12. 'Cyfnod argyfyngus' i bapurau newydd lleolwedi ei gyhoeddi 08:33 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Gareth Pennant
    Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r argyfwng coronafeirws wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar bapurau newydd lleol, meddai rhai newyddiadurwyr.

    Yn ôl, Hywel Trewyn, cyn-ohebydd gyda'r Daily Post, mae'n sefyllfa "argyfyngus" i'r diwydiant.

    Roedd nifer ohonyn nhw yn ei chael hi'n anodd beth bynnag wrth i gylchrediadau ac incwm hysbysebu ddisgyn.

    Cafodd Mr Trewyn yrfa o 30 mlynedd gyda phapurau newydd y Western Mail a'r Daily Post.

    "Mae'r pwysau yn reit drwm i ddweud y gwir," meddai.

    Mae modd darllen mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    Papurau
  13. Prosiect i greu offer PPE yn codi £8,500wedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Pryder am brofion Covid-19 yn Ysbyty Gwyneddwedi ei gyhoeddi 08:19 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae cyn-aelod seneddol Llafur wedi lleisio ei phryderon am brofion coronafeirws yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn marwolaeth ei gŵr.

    Cafodd gŵr Betty Williams, Evan Williams, ei brofi am Covid-19 ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd Bangor.

    48 awr yn ddiweddarach fe ddaeth canlyniadau'r prawf hwnnw'n ôl yn negyddol, ac fe gafodd ei symud i ward gyffredinol.

    Yno fe gafodd ddiagnosis o niwmonia dwys.

    Dywedodd ei bod wedi cael deall wythnos diwethaf fod ei gŵr wedi derbyn ail brawf am coronafeirws ddiwrnod ar ôl y prawf cyntaf, a hynny am fod staff yn credu eu bod wedi colli'r prawf cyntaf.

    Nid dyna oedd yr achos mewn gwirionedd meddai, ac fe ddaeth yr ail brawf yn ôl yn negyddol hefyd. Fe dderbyniodd brawf arall ddiwrnod cyn iddo farw, a'r tro hwn roedd canlyniad y prawf yn un positif.

    Mae modd darllen mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Google
  15. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:17 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw ar ddydd Mawrth, 14 Ebrill.

    Byddwn yn dod â'r diweddaraf i chi am haint coronafeirws fan hyn drwy gydol y dydd.

    Arhoswch gyda ni.