Crynodeb

  • 5,848 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf positif am Covid-19, gyda 403 o farwolaethau

  • Sioe Môn ymhlith y digwyddiadau diweddaraf i gael eu canslo oherwydd coronafeirws

  • Cyn-aelod seneddol â phryder am brofion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn marwolaeth ei gŵr

  • Newyddiadurwyr yn dweud fod yr argyfwng wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar bapurau newydd lleol

  1. 19 yn fwy wedi marwwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 19 yn fwy o bobl wedi marw gyda COVID-19 yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 403.

    Fe gafodd 238 o achosion newydd eu cadarnhau gan fynd â'r cyfanswm i 5,848 yma.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod bod y gwir ffigwr yn llawer uwch.

  2. 'Aros adref yn gwneud gwahaniaeth'wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Bwrdd Iechyd yn 'addasu'n wych'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Ar ei flog mae canolwr Cymru a'r Llewod, Jamie Roberts, dolen allanol, yn disgrifio sut mae Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, 'wedi addasu'n wych' i'r her o drefnu systemau penderfyniadau newydd sydd yn cynorthwyo staff wrth iddyn nhw ymateb i'r her o drin Covid-19.

    Mae'r meddyg wedi gwirfoddoli ei wasanaeth i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ar ôl dychwelyd o Dde Affrica lle'r oedd yn chwarae gyda'r Stormers yn Cape Town.

    Jamie Roberts
  4. Nifer yr achosion taflu sbwriel 'ar gynnydd'wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae nifer yr adroddiadau yng Nghymru o bobl yn taflu sbwriel ers y cyfyngiadau coronafeirws wedi cynyddu 88%, yn ôl gwefan ClearWaste.com.

    Dywedodd pennaeth y wefan, sydd yn cadw cofnod o adroddiadau, bod nifer o safleoedd ailgylchu ar hyn o bryd ar gau ac felly bod pobl yn taflu eu sbwriel yn anghyfreithlon.

    Ychwanegodd y dylai pobl adrodd os ydyn nhw'n gweld cerbydau yn ymddwyn yn amheus, yn enwedig gan ei bod hi'n dawelach ar y ffyrdd ar hyn o bryd.

  5. Chwilio am weithgareddau i'r plant lleiaf?wedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Diwedd y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dyna ni o'r gynhadledd i'r wasg heddiw, gydag offer diogelwch personol a phrofion Covid-19 ymhlith y prif bynciau trafod.

    Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd gydnabod ei fod yn "bryderus nad ydyn ni wastad yn defnyddio'r holl brofion sydd ar gael".

  7. Coronafeirws mewn traean o gartrefi gofal?wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething bod cyfanswm o 1,073 o gartrefi gofal yng Nghymru, a bod achosion o coronafeirws wedi'u cadarnhau mewn 75 o'r rheiny.

    Ychwanegodd bod 217 cartref gofal arall ble mae amheuon fod 'na achosion o Covid-19.

  8. 'Angen gwneud y mwyaf o'r capasiti'wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gael ei holi ar brofion Covid-19, dywedodd Vaughan Gething bod "angen gwneud llawer mwy i wneud y mwyaf o'r capasiti sydd eisoes yn bodoli".

    Ychwanegodd ei fod yn "rhwystredig" nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd, a'i fod wedi codi hyn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo tua 9,000 o brofion y dydd erbyn diwedd Ebrill, ond ar hyn o bryd dim ond tua 1,000 o bobl y dydd sy'n cael eu profi.

    Dywedodd Mr Gething fod mwy o gapasiti ar gael, ond bod angen i fwy o'r gweithwyr sydd angen y profion hynny gael eu cyfeirio gan eu gweithle.

    Vaughan Gething
  9. Mwy o offer diogelwchwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ar offer diogelwch personol, mae Mr Gething yn dweud eu bod yn ceisio prynu mwy "lle bynnag allen nhw", gan weithio gyda Llywodraeth y DU i gael rhagor.

    Dywedodd bod Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda chwmnïau o Gymru i geisio cynhyrchu mwy.

    Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darparwyr yn cyflenwi gwasanaethau yn Lloegr yn unig, fe wnaeth Mr Gething gydnabod fod y farchnad yn un "gorlawn".

    Ond mynnodd mai bod yn "system ar draws y DU rydyn ni i gyd yn rhan ohono" oedd y peth iawn, ac y byddai'n parhau i bwyso er mwyn sicrhau "tegwch wrth weithredu'r broses yna".

  10. Cerdyn i weithwyr gofal cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething sy'n siarad yn y gynhadledd heddiw.

    Mae'n dechrau drwy dalu teyrnged i'r gweithwyr iechyd yng Nghymru fu farw dros y penwythnos oherwydd coronafeirws.

    Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gofal cymdeithasol yn ystod cyfnod "llawer anoddach" yr argyfwng yma.

    Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael cerdyn tebyg i staff y GIG, meddai, er mwyn iddyn nhw allu ei ddangos wrth fynd at wasanaethau.

  11. Y gynhadledd ddyddiol i ddod cyn hirwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae cynhadledd i'r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru ar fin dechrau - gallwch wylio ar-lein neu ar BBC One Wales, ac mi ddown ni â'r prif bwyntiau i chi ar y llif byw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Angen lot mwy na £40m ar y sector gofal'wedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae cadeirydd Fforwm Gofal Cymru wedi croesawu'r £40m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal.

    Ond rhybuddiodd Mario Kreft nad gofyn i awdurdodau lleol ddosbarthu'r arian oedd y syniad gorau, ac y dylai'r gronfa gael ei rhedeg yn ganolog.

    Ychwanegodd y byddai angen "lot mwy na £40m" ar y sector a'i fod yn gobeithio mai cam cychwynnol yn unig oedd hwn.

  13. O Benbedw i Ben y Passwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Twitter

    Er gwaetha'r gwaharddiad ar deithio mae'r heddlu'n parhau i ddod ar draws gyrrwyr sy'n anwybyddu'r rhybuddion.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 406 marwolaeth Covid-19 y tu allan i ysbytaiwedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    golwg360

    Mae Swyddfa Ystadegau wedi datgelu nifer y marwolaethau Covid-19 y tu allan i ysbytai gwledydd Prydain.

    Yn ol Golwg360 mae'r ffigwr o 406 yn cyfateb i ryw 10% o’r cyfanswm i gyd, dolen allanol.

    Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau bod y coronafeirws wedi cyrraedd mwy na 2,000 o gartrefi gofal yn Lloegr.

  15. Rhedeg (a cherdded a beicio) i Bariswedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru

    Llongyfarchiadau i'r criw yma o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian gyda llaw, yn eu hymdrechion i godi arian i'r gwasanaeth iechyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Teithio'r pellter rhwng Caerdydd a Chaergybi oedd y bwriad - heb adael eu cartrefi wrth gwrs - ond fe lwyddon nhw i wneud dros BUM GWAITH y pellter yna yn y diwedd!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Gwerthwyr y Big Issue mewn trafferthionwedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Wales Online

    Mae gwaith llawer o bobl wedi cael ei effeithio gan y cyfyngiadau coronafeirws - gyda rhai yn enwedig yn gweld colled fawr o'r diffyg cwsmeriaid sydd allan ar y strydoedd.

    Mae WalesOnline wedi bod yn siarad â rhai o werthwyr y Big Issue, dolen allanol, sy'n ei chael hi'n anodd iawn nawr heb yr incwm hwnnw.

    "Heb gwsmeriaid doed dim byd allai 'neud," meddai Mark Richards, sy'n gwerthu'r cylchgrawn yng Nghaerdydd.

  17. Y Tour de France yn debygol o gael ei gohiriowedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Ym myd y campau, mae'n edrych yn debygol y bydd ras seiclo'r Tour de France yn cael ei gohirio yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Ffrainc i ymestyn eu mesurau i atal Covid-19.

    Dywedodd yr Arlywydd Emmanuel Macron hefyd y byddai unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael eu hatal nes canol mis Gorffennaf ar y cynharaf.

    Roedd y ras i fod i ddechrau ar 27 Mehefin.

    Roedd bwriad yn wreiddiol i gynnal y ras heb unrhyw gefnogwyr - ond doedd dim gwybodaeth am sut y byddai'r heddlu'n gallu cadw cefnogwyr draw am fod y ras yn cael ei chynnal ar ffyrdd cyhoeddus.

    Daeth y Cymro Geraint Thomas yn ail yn y ras y llynedd, wedi iddo ei hennill yn 2018.

    TourFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Rhybudd am dwyll coronafeirwswedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. £40m ychwanegol i wasanaethau gofal cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £40m ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Dywedodd y llywodraeth y bydd y cyllid yn helpu i dalu costau cynyddol offer diogelu personol, bwyd, costau staff a TGCh sy’n rhan o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

    Daw'r arian o'r gronfa gwerth £1.1bn sydd wedi’i chreu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r pandemig.

    Bydd y £40m yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol drwy "gronfa galedi" Covid-19 newydd llywodraeth leol.

    Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol i wneud defnydd o’r cyllid ychwanegol yn seiliedig ar y costau newydd sy’n dod i’r amlwg.

  20. Sioe Môn wedi ei chanslowedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 14 Ebrill 2020

    Mae trefnwyr Sioe Môn bellach wedi cadarnhau na fydd y digwyddiad yn mynd yn ei blaen eleni oherwydd y pandemig coronafeirws.

    Roedd y sioe i fod i gael ei chynnal ar 11-12 Awst, ond fe fydd hi nawr yn dychwelyd yn 2021.

    "Gyda mesurau llym bellach mewn lle gan y llywodraeth, yn sicr dyma'r penderfyniad gorau er mwyn sicrhau iechyd, lles a diogelwch ein haelodau, ymwelwyr, arddangoswyr, gwirfoddolwyr a staff," meddai'r trefnwyr mewn datganiad.