Crynodeb

  • 609 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael yr haint, a 7,850 wedi cael prawf positif bellach

  • Coronafeirws wedi ymledu ar raddfa lai na'r disgwyl pan osodwyd targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill, medd y Gweinidog Iechyd

  • Galw am gynnal pob dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ar-lein yn ystod argyfwng coronafeirws

  • Elusen anhwylderau bwyta yn gweld cynnydd o 35% yn nifer y bobl sy'n gofyn am gefnogaeth ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Dyna'r cyfan gan dîm y llif byw am heddiw - fe fyddwn ni nôl bore fory gyda'r diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru unwaith eto, ond cofiwch y bydd y newyddion diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro!

  2. Gweithwyr Laura Ashley yn troi at wneud dillad i'r GIGwedi ei gyhoeddi 18:27 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae gweithwyr mewn ffatri Laura Ashley ym Mhowys wedi troi at gynhyrchu dillad i staff y gwasanaeth iechyd tra bo dyfodol y cwmni'n parhau'n ansicr.

    Aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth, gan roi 2,700 o swyddi mewn perygl mewn siopau a ffatrïoedd.

    Er y cefndir tywyll, dywedodd y prif weithredwr, Katharine Poulter y byddai'r gweithwyr nawr yn creu scrubs i'r gwasanaeth iechyd er mwyn helpu yn yr ymdrech yn erbyn Covid-19.

    Y gobaith yw y bydd y ffatri yn Y Drenewydd yn gallu cynhyrchu 3,000 set o ddillad yr wythnos erbyn diwedd y mis.

    DrenewyddFfynhonnell y llun, Google
  3. Llanc o Lanelli'n pledio'n euog i anwybyddu'r canllawiauwedi ei gyhoeddi 18:11 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae dyn ifanc o Lanelli wedi pledio'n euog i dorri canllawiau coronafeirws, a hynny ar ôl derbyn chwe dirwy am anwybyddu'r rheolau presennol.

    Fe wnaeth Owain Rhys Worgan bledio'n euog i dorri'r canllawiau yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.

    Bydd yn cael ei ddedfrydu ddechrau mis Mehefin.

    Mae Mr Worgan hefyd wedi'i gyhuddo o ddau achos o ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys - cyhuddiadau mae'n eu gwadu.

  4. Sylwadau Syr Martin Evans 'wedi synnu' Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ymateb i sylwadau'r Athro Syr Martin Evans yn gynharach yn beirniadu ymateb llywodraethau Cymru a'r DU i'r argyfwng, mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "wedi synnu" gan ei sylw.

    "Mae Prifysgol Caerdydd yn profi offer PPE i ni yn ogystal a'n cynhgori ar PPE," meddai llefarydd.

    "Maen nhw hefyd yn cefnogi ein gwaith diogelwch seibr mewn cysylltiad â coronafeirws.

    "Mae academyddion o'r brifysgol hefyd yn darparu cyngor gwyddonol ac yn gweithio ar ein cynllun profi am Covid-19."

  5. Ymlediad coronafeirws yn 'llai na'r disgwyl'wedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Swyddogion wedi disgwyl ymlediad ehangach o Covid-19 pan osodwyd targedau profi, medd gweinidog.

    Read More
  6. Wfftio'r galwadau am ymchwiliad cyhoedduswedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae galwad gan arweinydd Plaid Cymru am ymchwiliad cyhoeddus i'r ymateb i argyfwng coronafeirws yng Nghymru wedi cael ei wfftio gan weinidogion.

    Dywedodd Adam Price yn gynharach y dylid cael adroddiad cychwynnol yn barod erbyn diwedd yr haf.

    Ond dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw "achub bywydau a sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus yr adnoddau maen nhw eu hangen".

    "Mae gan y Senedd rôl bwysig yn craffu ar benderfyniadau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru," meddai.

    "Fe ddaw amser pan rydyn ni wedi adfer o'r argyfwng am ymchwiliad mwy trylwyr i'r pandemig ac ymateb y llywodraeth."

    Mark Drakeford
  7. Profion ar frechlyn yn dechrau'r wythnos honwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Garry Owen
    Gohebydd arbennig BBC Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Llywodraethau Cymru a'r DU wedi 'esgeuluso'u dyletswyddau'wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae'r gwyddonydd Nobel, yr Athro Syr Martin Evans wedi cyhuddo llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).

    Dywedodd Syr Martin ei fod hefyd yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd ac eraill wedi cynnig cymorth i Lywodraeth Cymru, ond bod y cynigion heb eu derbyn hyd yma "oherwydd y dull ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England".

    Ychwanegodd: "Rwy'n bryderus iawn bod yr agwedd yma yn un o fiwrocratiaeth bitw... llenwi ffurflenni ac ati.

    "Yn fy marn i, mae'r sefyllfa yn debyg i ryfel. Mae pobl yn marw.

    "Mae gennym elyn anweledig yn 'sgubo drwy'r wlad ac mae angen defnyddio pob adnodd sydd gennym yn ei erbyn, ac eto dyw ein llywodraethau ddim yn gwneud hyn."

    Aeth Syr Martin ymlaen i ddweud ei fod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ond na chafodd ateb heblaw cydnabyddiaeth eu bod wedi derbyn ei lythyr.

    Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi cael cais i ymateb i sylwadau Syr Martin.

    Syr Martin EvansFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Yr Athro Syr Martin Evans Wobr Nobel am Feddygaeth yn 2007

  9. Hapus i fod nôl adrefwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae diffoddwr tân o Wrecsam oedd mewn uned gofal dwys gyda coronafeirws wedi cael mynd nôl adref at ei deulu.

    Fe wnaeth Steve Landon, ynghyd â'i wraig Becky sy'n nyrs yn Ysbyty Maelor y dref, gael eu heintio gyda'r feirws.

    Aeth i'r ysbyty ar 28 Mawrth, a bu'n rhaid cael gofal yn yr uned gofal dwys ar dri achlysur cyn gwella.

    DiffoddwrFfynhonnell y llun, Llun teulu
  10. Mwy o ddata am Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Merched canol oed yw'r grŵp sy'n cynrychioli'r nifer uchaf o bobl sydd wedi eu heintio gyda Covid-19 yng Nghymru, yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Mae'r grŵp sy'n cynnwys menywod 50-59 yn cynrychioli 13.8% o'r achosion positif.

    Mae merched 40-49 yn cynrychioli 12.8% o'r cyfanswm, tra'r canran lleiaf yw plant dan 10 oed, sef 0.4%.

  11. Gwyl Gomedi Machynlleth yn dychwelyd ar y radiowedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Bydd Gŵyl Gomedi Machynlleth yn mynd yn ei blaen ar y radio wedi i'r ŵyl wreiddiol orfod cael ei chanslo oherwydd coronafeirws.

    Fe fydd yr ŵyl yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales a BBC Sounds ar benwythnos 1-3 Mai.

    Bydd yn cynnwys yr un sêr oedd i fod yn perfformio ym Machynlleth, gan gynnwys nifer o Gymry.

    Kiri Pritchard-McLeanFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Kiri Pritchard-McLean fydd yn cyflwyno’r ŵyl ar y radio

  12. Gohirio Euros y merched nes 2022wedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae disgwyl i gorff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd, UEFA gyhoeddi'n ddiweddarach y bydd Pencampwriaeth Euro 2021 y merched yn cael ei gynnal yn haf 2022 bellach.

    Mae'r twrnament, fydd yn cael ei gynnal yn Lloegr, wedi cael ei ohirio am flwyddyn er mwyn peidio bod yr un flwyddyn â phencampwriaeth y dynion, a Gemau Olympaidd Tokyo.

    Mae tîm merched Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol, bedwar pwynt y tu ôl i Norwy.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Nifer yr achosion yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae yna 7,850 o achosion coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru.

    Ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan sydd â'r nifer uchaf o achosion, gyda 61 o achosion newydd yn cael eu cofnodi dydd Mawrth.

    Mae'n golygu cyfanswm o 1,835 ar gyfer yr ardal sy'n cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy.

    Cafodd 304 o achosion newydd eu cadarnhau ar gyfer Cymru ddydd Mawrth.

    Ond dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y ffigwr yn uwch mewn gwirionedd, gan fod y data ond yn cynnwys marwolaehau mewn ysbytai a rhai mewn cartrefi gofal.

  14. Heddlu ar y bîtwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Sylwadau'r Gweinidog Iechyd yn 'anghyfrifol'wedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi dweud fod sylwadau'r Gweinidog Iechyd yn gynharach heddiw fod y feirws yn lledaenu "llai na'r disgwyl" yn "anghyfrifol".

    Dywedodd Vaughan Gething mai dyma'r rheswm pam fod Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar eu targed o gael 5,000 o brofion pob dydd.

    Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth wedi dweud nad oes modd bod yn sicr ynglŷn ag ymlediad yr haint os nad ydy pobl yn cael eu profi.

    Ychwanegodd AC Ynys Môn bod cael gwared ar y targedau yn ymgais i "ailysgrifennu hanes" ac mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd ddim â tharged am nifer y profion dyddiol.

    PrawfFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Rhybudd i gadw at y ffeithiauwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Croesawu datganiad ar offer PPEwedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae'r corff sy'n cynrychioli byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru wedi dweud eu bod yn croesawu sylwadau gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething, fod digon offer diogelu PPE ar gyfer gweithwyr a gofalwyr iechyd rheng flaen.

    Dywedodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, eu bod hefyd yn falch o glywed nad oedd unrhyw fwriad i newid y canllawiau presennol ynglŷn â'r defnydd o ynau diogelwch.

    "Mae angen i Lywodraeth Cymru barhau i drin cyflenwad PPE fel eu prif flaenoriaeth os ydym am sicrhau fod gan y gwasanaeth iechyd y capasiti angenrheidiol, ac i gadw staff wrth eu gwaith," meddai.

    Offer ppe
  18. Lluniau: Am dro yng Nghaernarfonwedi ei gyhoeddi 14:57 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Cip ar dro hamddenol i un o lecynnau hanesyddol Caernarfon yn ystod y coronafeirws

    Read More
  19. Gair i gallwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. 'Pwysigrwydd cadw agwedd bositif'wedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae elusen anhwylderau bwyta Beat wedi gweld cynnydd o 35% yn nifer y bobl sy'n gofyn am gefnogaeth ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym fis diwethaf.

    I Sioned Martha Davies, sy'n fyfyriwr 22 oed o Sir Gaerfyrddin, dyw'r ystadegau ddim yn syndod.

    Bedair blynedd yn ôl, ag hithau yn ei harddegau, roedd Sioned yn dioddef o anhwylder bwyta.

    Mae hi bellach wedi gwella ond yn cydnabod bod y cyfyngiadau presennol yn heriol iawn.

    Disgrifiad,

    'Mae'n rhaid i ni gadw'n brysur ac yn bositif'