Crynodeb

  • 609 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael yr haint, a 7,850 wedi cael prawf positif bellach

  • Coronafeirws wedi ymledu ar raddfa lai na'r disgwyl pan osodwyd targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill, medd y Gweinidog Iechyd

  • Galw am gynnal pob dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ar-lein yn ystod argyfwng coronafeirws

  • Elusen anhwylderau bwyta yn gweld cynnydd o 35% yn nifer y bobl sy'n gofyn am gefnogaeth ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym

  1. 'Ewch â'ch sbwriel adref'wedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Cyngor Torfaen

    Mae Cyngor Torfaen wedi gwneud apêl wrth i bobl wneud ymarfer corff yn ystod yr argyfwng presennol i gymryd unrhyw sbwriel adref.

    Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr aelod gweithredol dros yr amgylchedd: "Rydym yn ceisio cynnal gwasanaethau hanfodol cystal medrwn ni, gan edrych ar yr un pryd ar ôl iechyd a diogelwch ein staff.

    "Trwy fynd â sbwriel adref gyda chi a defnyddio'ch gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd cymaint ag y medrwch chi, rydych yn rhyddhau staff fel y gallan nhw sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn parhau."

  2. 25 yn rhagor o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod 25 yn rhagor o bobl wedi marw wedi iddyn nhw gael Covid-19.

    Golygai hyn fod 609 bellach wedi marw yng Nghymru ar ôl cael yr haint.

    Mae 304 yn rhagor o bobl wedi cael prawf positif, sy'n golygu bod 7,850 o achosion o coronafeirws bellach wedi'u cofnodi yma.

  3. Gôl i godi'r to!wedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Parciau Pen-y-bont yn parhau ar gauwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

    Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu y bydd parciau a mynwentydd y sir yn parhau ar gau am y tro.

    Dywed y cyngor y byddan nhw'n adolygu'r sefyllfa yn gyson.

    Mae'r mynwentydd yn cynnwys mynwent amlosgfa Llangrallo.

    Golygai'r penderfyniad y bydd parc y Welfare, Maesteg, a Pharc Griffin, Porthcawl, hefyd yn parhau ar gau.

  5. Llywodraeth yn blaenoriaethu PPEwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl Mr Gething roedd sicrhau PPE yn "fwy o flaenoriaeth" nawr na'r heriau sy'n wynebu'r llywodraeth wrth gynnal profion ar gyfer Covid-19.

    Dywedodd fod digon o stoc i bara am "ychydig ddyddiau".

    "Ond jest oherwydd nad ydym yn yr un sefyllfa ag oedd yn bodoli yn Lloegr dros y penwythnos, dyw hynny ddim yn golygu nad oes yna bryderon yma - ac mae yna bryderon o fewn y llywodraeth.

    "Dyna pam i fi gyfeirio yn benodol at fasgiau a gynau fel eitemau rydym yn ceisio ei sicrhau, ac i sicrhau stoc er mwyn bod gan ein staff ddigon o gyflenwadau i barhau i wneud eu gwaith."

  6. Gweithio gydag Amazonwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y gweinidog iechyd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chwmni Amazon ar wefan newydd i brofi coronafeirws.

    Byddai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, meddai, yn gallu archebu slot ar-lein a'i fod yn gobeithio y byddai opsiwn i'w brofi mewn canolfan brawf gyrru i mewn neu becyn prawf cartref.

    Dywedodd y gweinidog fod "gwiriadau terfynol yn cael eu gwneud" ond "dylai fod ar gael yr wythnos nesaf".

    Dywedodd Mr Gething y byddai'n rhoi diweddariad pellach yn ddiweddarach yr wythnos hon.

  7. 'Digon o offer PPE am y tro'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyfeirio at offer diogelu PPE ar gyfer gweithwyr rheng flaen dywedodd Mr Gething fod yna ddigon o'r rhain ar gael am y tro.

    Ond ychwanegodd fod hyn yn ddibynnol ar "waith caled nifer o bobl er mwyn sicrhau fod cyflenwadau yn parhau, ac wrth gwrs mae llinellau cyflenwi dan fygythiad".

    "Y ddwy eitem sydd dan fwyaf o fygythiad yw masgiau a gynau sy'n atal hylifoedd, ond rydym yn hyderus fod gennym ddigon o'r rhain ar hyn o bryd," meddai.

    Ychwanegodd nad oedd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu'r un problemau ag sy'n bodoli mewn rhannau o Loegr ar hyn o bryd.

  8. Llywodraeth i gasglu tystiolaethwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y gweinidog iechyd fod dros draean o gleifion yn ysbytai'r DU o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifol o'i gymharu â 18% o boblogaeth y DU.

    Dywedodd Mr Gething y byddai tîm o Lywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gasglu tystiolaeth a data er mwyn canfod unrhyw ffeithiau neu risg posib.

  9. Ymchwiliad i ffigyrau Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad ar frys i'r niferoedd uchel o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sy'n cael eu heffeithio gan Covid-19.

    Wrth siarad yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething fod yna "dystiolaeth gynyddol" fod pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn cael eu heffeithio yn anghyfartal.

  10. Gwyliwch yn fywwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Apêl gwastraff Powyswedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Cyngor Powys

    Mae Cyngor Powys wedi atgoffa pobl i ddal gafael ar wastraff ailgylchu tra bod y cyfyngiadau presennol yn parhau mewn grym.

    Dywed y cyngor eu bod yn parhau i gasglu sbwriel o garreg y drws ond fod canolfannau ailgylchu wedi cau am y tro.

    Mae trigolion yn cael eu hannog i beidio â theithio i safleoedd ailgylchu cymunedol oherwydd "nid yw hyn yn deithio angenrheidiol".

    Mae'r cyngor yn rhybuddio pobl rhag gadael gwastraff ar y llawr pe bai biniau yn y safleoedd hyn yn llawn.

    Dywedodd llefarydd: "Nid oes esgus dros achosi'r fath llanast a thipio ar y slei mewn safleoedd ailgylchu cymunedol.

    "Ar adeg pan mae pawb yn gwneud eu gorau glas i gadw'n ddiogel a pheidio ymledu'r coronafeirws, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol fel hyn yn annerbyniol."

    GwastraffFfynhonnell y llun, Cyngor Powys
  12. Beth ddylwn i ei wneud?wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Dyma grynodeb o'r rheolau sydd mewn grym yng Nghymru a'r cyngor i'r cyhoedd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng coronafeirws.

    Cliciwch yma i ddarllen mwy.

    cyngor
  13. Canu er mwyn codi arianwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae'r canwr West End adnabyddus John Owen Jones o Borth Tywyn yn Sir Gâr wedi rhyddhau deuawd arbennig gyda'r diddanwr Matt Lucas er mwyn codi arian i'r gwasanaeth iechyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Ad-daliad cwmni yswiriantwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae'r cwmni yswiriant Cymreig, Admiral wedi cyhoeddi eu bod nhw'n ad-dalu £110 miliwn i gydnabod bod cwsmeriaid yswiriant car a fan wedi bod yn gyrru llai yn ddiweddar i helpu i arafu lledaeniad coronafeirws.

    Bydd pob cwsmer modur yn derbyn ad-daliad o £25 cyn diwedd mis Mai.

  15. Terynged i'r parafeddyg Gerallt Davieswedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae mudiad Urdd Sant Ioan wedi bod yn rhoi teyrnged i Gerallt Davies, y parafeddyg o Abertawe.

    Roedd Mr Davies yn aelod o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ond hefyd yn wirfoddolwr gyda Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan.

    Bu farw'r parafeddyg, a oedd yn gweithio yng ngorsaf Cwmbwrla yn Abertawe, wedi iddo brofi'n positif i Covid-19.

    Yn aelod o Urdd Sant Ioan ers 40 mlynedd fe dderbyniodd MBE am ei waith gyda'r mudiad.

    "Roedd yn un o arwyr Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Bydd o byth yn angof," meddai teyrnged ar safle we'r mudiad.

    "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i deulu Gerallt, ei gyfeillion agos a'i gyd wirfoddolwyr yn ystod yr amser anodd yma."

    Gerallt DaviesFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Gerallt Davies

  16. Economi Cymru i ddioddef yn fwy na'r gweddill?wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae Dylan Jones-Evans, Athro Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, wedi rhybuddio y gall economi Cymru gael ei daro'n waeth na gweddill y DU yn sgil y pandemig.

    Wrth edrych ar ffigyrau canolfan ymchwil ERC, mae'n pryderu am dynged busnesau yma, ac yn benodol y rhai newydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Carchar am beswch ar yr heddluwedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Heddlu De Cymru

    Mae dyn o Aberdâr wnaeth beswch yn wynebau dau blismon wedi ei garcharu am wyth mis.

    Wrth gael ei arestio roedd Christopher Davies, 40 oed, wedi troi at y ddau swyddog a dweud "bydd yn rhaid i chi fy nghymryd i'r ysbyty oherwydd bod gennyf-" ac yna peswch arnyn nhw.

    Plediodd yn euog i gyhuddiadau o ymosod, torri gorchymyn llys a chyfathrebu maleisus.

    Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod y weithred yn un gywilyddus gan achosi pryder mawr i'r swyddogion.

    Christopher DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
  18. Fideo: Batman Y Balawedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    (Nid Bruce) Wayne a Ceri yn dod â gwên i wynebau pobl Y Bala...

  19. Galw am ymchwiliad bryswedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad “heb anwybyddu dim” i’r ymateb i bandemig Covid-19 yng Nghymru.

    Dywedodd arweinydd Plaid, Adam Price, y dylai ymchwiliad Cymreig gael ei gynnal dan arweiniad barnwr gydag adroddiad interim erbyn diwedd yr haf.

    Byddai’r ymchwiliad barnwrol yn rhedeg ar y cyd ag ymchwiliad gan farnwr yn y DU, meddai'r blaid.

    Dywedodd Mr Price: "Mae dysgu gwersi i fod â gwybodaeth well er mwyn ymateb yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau gwell yn bwysicach na dweud pwy sydd ar fai.

    “Fe all Covid-19 fod gyda ni am beth amser – felly gall aros nes bydd yr argyfwng ar ben nes i ni ddysgu gwersi wthio’r adroddiad terfynol ymlaen lawer blwyddyn i’r dyfodol.

    “Mae angen i ni ddysgu gwersi nawr."

  20. 'Iechyd da', diolch i fragdywedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae bragdy ym Magwyr Sir Fynwy wedi newid cyfeiriad dros dro gan gynhyrchu nwyddau hylendid yn lle alcohol ar gyfer gweithwyr y rhengflaen.

    Yr wythnos hon fe wnaeth Magor Brewery roi 1,000 litr o hylif golchi dwylo i dimau gofal cymdeithasol y cyngor sir lleol.

    BradgyFfynhonnell y llun, Magor Brewery