Crynodeb

  • 609 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael yr haint, a 7,850 wedi cael prawf positif bellach

  • Coronafeirws wedi ymledu ar raddfa lai na'r disgwyl pan osodwyd targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill, medd y Gweinidog Iechyd

  • Galw am gynnal pob dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ar-lein yn ystod argyfwng coronafeirws

  • Elusen anhwylderau bwyta yn gweld cynnydd o 35% yn nifer y bobl sy'n gofyn am gefnogaeth ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym

  1. Cymorth i ddod nôl adrefwedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    golwg360

    Mae Golwg360 yn sôn am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r Swyddfa Dramor wrth i ddinasyddion geisio dychwelyd o dramor yn ystod argyfwng coronafeirws.

    Dywedodd y Farwnes Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, wrth Golwg360: "Mae ein rhwydwaith o 21 o swyddfeydd tramor yn gweithio gyda'r Swyddfa Dramor ac yn chwarae eu rhan yn ailwladoli dinasyddion o Gymru ledled y byd, gan gynnwys o Beriw, India, Fietnam, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd."

    AwyrenFfynhonnell y llun, Reuters
  2. Gohirio Ras yr Wyddfawedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae trefnwyr Ras Ryngwladol yr Wyddfa wedi cyhoeddi fod y digwyddiad eleni, a oedd fod i ddigwydd ym mis Gorffennaf, wedi ei ohirio.

    Maen nhw'n gobeithio dychwelyd yn 2021.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  3. Cartrefi gofal wedi'u 'gadael yn ddiamddiffyn'wedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    BBC Radio Wales

    Mae gofalwyr yn cael eu "gadael yn ddiamddiffyn" a heb unrhyw gefnogaeth, yn ôl perchennog cartref gofal o Sir Fôn.

    Dywedodd Glyn Williams, sy'n berchen Cartrefi Gwyddfor ym Modedern, ei bod yn gywilydd ei bod wedi gorfod dechau apêl i godi arian i ddelio gydag argyfwng coronafeirws - ac y dylai'r arian wedi dod o Lywodraeth Cymru.

    "Mae'r gymuned leol wedi bod yn ffantastig ond ni ddylem orfod dibynnu ar elusen, mae'n gywilyddus beth mae awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'r sector gofal - ein bod yn ddibynnol ar elusen," meddai wrth Radio Wales.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi yn ddiweddar y byddai £40m yn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau gofal i oedolion, gan gynnwys cartrefi gofal, yn ystod argyfwng coronafeirws.

    Glyn Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Glyn Williams, perchennog Cartrefi Gwyddfor

  4. Os nad ydych chi'n siŵr...wedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Anodd amgyffred' ymdrechwedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    BBC Radio Wales

    Yn dilyn ei agoriad swyddogol ddoe, mae Victoria Le Grys, Cyfarwyddwr Rhaglen Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality Caerdydd, wedi bod yn siarad â BBC Radio Wales Breakfast gyda Claire Summers.

    Dywedodd: "Mae'n anodd credu mewn gwirionedd bod y cae yn dal i fod i lawr dair wythnos yn ôl ac roedd ein tîm gweithredol yn edrych drosto gyda'r realiti ofnadwy hwn y gallai fod angen i ni ddefnyddio'r stadiwm i gefnogi ein hysbytai yma yng Nghaerdydd.

    "Mae cyflymder a graddfa hyn yn rhywbeth sy'n anodd iawn ei amgyffred.

    "Mae dros 600 o staff wedi rhoi 100,000 awr o lafur i'w gael ar agor.

    "Mae'n rhoi syniad i chi o'r raddfa, a'r cyflymder trylwyr rydyn ni wedi gorfod gweithio er mwyn cwrdd â'r deadline."

    Cafodd yr ysbyty ei agor gan y Tywysog Charles ddydd Llun.

    stadiwmFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Dysgu plant digartref mewn argyfwngwedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae nifer o'r bobl ifanc sydd ar gyrsiau elusen digartrefedd Llamau yn dod o gefndiroedd anodd ac wedi methu ymdopi gyda'r ysgol.

    Dydy pob un ddim yn ddigartref ond mae rhai wedi bod mewn trafferth gyda'r heddlu, wedi cael problemau iechyd meddwl neu wedi camddefnyddio sylweddau.

    Mae cyrsiau addysg yr elusen i bobl ifanc 16 i 24 oed fel arfer yn cael eu cynnal mewn canolfannau ar draws Cymru ond rhaid dysgu o bell ers iddyn nhw gau o ganlyniad i'r pandemig.

    O ystyried y rhwystrau sydd eisoes yn wynebu'r bobl ifanc yma, mae gwneud hynny yn "heriol tu hwnt".

    Darllenwch ymlaen yma.

  7. Cefnogaeth anhwylderau bwytawedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Mae elusen anhwylderau bwyta Beat wedi gweld cynnydd o 35% yn nifer y bobl sy'n gofyn am gefnogaeth ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym fis diwethaf.

    Mae'r elusen wedi cynyddu'r lefel o gymorth mewn ymateb i'r galw drwy sefydlu mwy o grwpiau ar-lein i bobl sy'n dioddef.

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    pwysauFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Cyn-asgellwr Cymru yn diolchwedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Pwt o newyddion da i ddechrau! Asgellwr y Scarlets, Tom James yn rhannu fideo o'i fam yn gadael yr ysbyty ar ôl tair wythnos o driniaeth.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 21 Ebrill 2020

    Diolch i chi am ymuno efo ni wrth i ni ddeffro i ddiwrnod arall o newyddion am y pandemig coronafeirws.