Crynodeb

  • Pryder bod rhieni yn peidio â gofyn am gymorth meddygol i'w plant

  • 17 yn rhagor wedi marw yng Nghymru ddydd Iau gan ddod â'r nifer i 641 a chofnodwyd 234 o achosion newydd

  • Nyrsys dan hyfforddiant yn gorfod dewis rhwng gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn coronafeirws, neu wynebu saib yn eu hyfforddiant

  • Cymunedau fel yr un yn Hendy-gwyn ar Daf yn profi daioni a charedigrwydd yn ystod yr haint

  1. 'Trasiedi ddynol sy'n anodd i'w dirnad'wedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae bron i hanner y bobl yn Ewrop sydd wedi marw o Covid-19 hyd yma wedi bod yn byw mewn cartrefi gofal.

    Mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma, dywedodd cyfarwyddwr y sefydliad yn Ewrop, Dr Hans Kluge fod yna ddarlun pryderus iawn yn datblygu am y sefyllfa, gan ei ddisgrifio fel trasiedi ddynol sy'n anodd i'w dirnad.

  2. Castell Gwrych yn las henowedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Twitter

    Ymhlith yr adeiladau a fydd yn cael eu goleuo yn las heno i nodi cyfraniad gweithwyr allweddol y GIG bydd Castell Gwrych ger Abergele.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Ffigyrau Lloegrwedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae GIG Lloegr wedi cyhoeddi bod 514 arall wedi marw o haint coronafeirws gan ddod â nifer y marwolaethau mewn ysbytai yn Lloegr i 16,786.

    Roedd y cleifion rhwng 31 a 100 oed. Doedd un deg chwech o'r 514 claf (o oed rhwng 37 a 92) ddim yn dioddef o gyflwr iechyd arall.

  4. Cymru wedi'i tharo waethaf yn economaiddwedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Sky News

    Mae Sky News yn adrodd , dolen allanolbod ymchwil gan gorff y Centre For Towns a Phrifysgol Southampton yn awgrymu mai Cymru fydd yn cael ei tharo waethaf yn economaidd gan y pandemig.

    Trefi arfordirol a chyn-drefi diwydiannol sy'n debygol o gael eu taro waethaf, yn ôl yr ymchwil.

    Dywedodd yr adroddiad bod 43% o drefi Cymru yn y 10% gwaethaf o ran effaith economaidd Covid-19.

    De-ddwyrain Lloegr sy'n cael ei effeithio leiaf gan effaith economaidd y feirws, gyda dim ond 3% o drefi'r ardal yma yn y 10% sydd wedi'u heffeithio waethaf.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Graff o'r marwolaethau yng Nghymru hyd ymawedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Yn gynharach nodwyd bod 17 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru a dyma graff o'r marwolaethau hyd yma.

    Mae 213 marwolaeth wedi'u cofnodi yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, 147 yng Nghwm Taf, 146 yng Nghaerdydd a'r Fro a 122 ym Mae Abertawe.

    Nifer y marwolaethau o Covid-19 yng Nghymru hyd yma
    Disgrifiad o’r llun,

    Nifer y marwolaethau o Covid-19 yng Nghymru hyd yma

  6. Gwirfoddoli i elusen yn y cyfnod clowedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae hi'n fis ers i'r cyfyngiadau ddod i rym a mae bywyd pawb wedi newid rhywsut.

    Mae Garry Owen, gohebydd arbennig y Post Cyntaf, wedi bod yn siarad â rhai sydd wedi profi newid mawr.

    Mae Ben Palit yn astudio cwrs MA mewn darlledu newyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.

    Ers y cyfnod dan glo mae wedi dechrau gwirfoddoli yng nghanolfan Oasis yng Nghaerdydd - canolfan sydd yn helpu ffoaduriaid.

    Wrth siarad â Garry Owen dywedodd Ben Palit: "Mae wedi bod yn od mynd o ruthro o gwmpas i wneud dim byd. Er bod hi yn eithaf neis gwneud pethau fel coginio a cherdded dwi ddim yn hoffi peidio gweithio.

    "Rwy'n teimlo fod y cynlluniau oedd gyda fi ar gyfer y dyfodol wedi rhewi i raddau felly fe wnes i benderfynu gwirfoddoli gydag elusen Oasis yng Nghaerdydd - elusen sydd yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

    "Fi’n helpu yn y gegin a mae'n neis teimlo fel fy mod i yn rhoi rhywbeth yn ôl."

    Ben Palit
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ben Palit yn gwirfoddoli i elusen yn y cyfnod clo

  7. Cymuned Hendy-gwyn yn closio wrth gadw ar wahânwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Yn Hendy-gwyn ar Daf yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, mae'r gymuned wedi profi fod yna ddaioni a charedigrwydd yng nghanol y cyfnod pryderus presennol.

    Mae ffactorau cadarnhaol, yn ôl Elonwy Phillips.

    "Dwi 'di dod i 'nabod pobl o'n i ddim yn 'nabod o'r blaen," meddai.

    "Os y'n nhw'n gweld chi'n cerdded ar yr hewl, ma' nhw'n dod i'r drws, ac os y'n nhw'n byw ar eu pen eu hunain, ma' nhw'n hoffi cael sgwrs.

    "A dwi 'di siarad 'da phobl am y tro cynta' ers blynydde."

    Ar gyrion y dref, mae Eryl Rosser a Meryl James yn brysur gyda'u menter newydd.

    Dechreuodd y cyfan yng Nghapel Y Tabernacl yn y dref pan gynigiwyd bwydo pobl fregus yr ardal.

    Deintydd yw Eryl, a chyn ymddeol roedd Meryl yn rheolwraig banc. Mae'r ddwy bellach yn darparu cawl a chinio dydd Sul i dros 20 o gartrefi.

    meryl ac erylFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Meryl James ac Eryl Rosser wedi bod yn paratoi a dosbarthu prydau bwyd i bobl yr ardal

  8. 17 yn rhagor wedi marw yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud eu bod wedi cael gwybod am 17 yn rhagor o farwolaethau ymysg pobl oedd wedi cael prawf positif am yr haint. Cyfanswm y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru bellach yw 641.

    Nid yw'r ffigwr yma o reidrwydd yn cynnwys marwolaethau coronafeirws yn y gymuned neu mewn cartrefi gofal, felly mae nifer y meirw'n debyg o fod yn fwy.

    Maen nhw hefyd wedi cadarnhau 234 o achosion newydd o'r haint. Mae 8,358 o achosion wedi eu cofnodi yng Nghymru erbyn hyn ond mae'r gwir nifer yn debygol o fod yn llawer uwch.

  9. 1,900 o gleifion Covid-19 wedi gadael yr ysbytywedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Hefyd yn ei gynhadledd i'r wasg yn gynharach dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall bod tua 1,900 o gleifion yng Nghymru oedd yn cael eu hamau o fod â Covid-19 wedi gadael yr ysbyty.

    Dywedodd y dylid "cydnabod a dathlu" hynny, gan ychwanegu bod y ffigwr yn dangos fod "pobl yn gallu gwella o'r feirws ofnadwy yma".

    Ond ychwanegodd Dr Goodall bod y data llawn ar nifer y cleifion Covid-19 sydd wedi gadael yr ysbyty "eto i'w gadarnhau".

  10. Gohirio Euros y merched nes 2022wedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae corff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd, UEFA wedi cyhoeddi y bydd Pencampwriaeth Euro 2021 y merched yn cael ei gynnal yn haf 2022 bellach.

    Mae'r twrnament, fydd yn cael ei gynnal yn Lloegr, wedi cael ei ohirio am flwyddyn er mwyn peidio bod yr un flwyddyn â phencampwriaeth y dynion, a Gemau Olympaidd Tokyo.

    Mae tîm merched Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol, bedwar pwynt y tu ôl i Norwy.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. 'Problemau profi' ond y sefyllfa wedi gwellawedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nododd Andrew Goodall hefyd bod "rhai problemau wedi bod wrth brofi ond yr wythnos hon bod 1,800 o brofion y dydd wedi bod ar gael".

    "Bydd y niferoedd profi," meddai," yn codi o wythnos i wythnos".

    Yn gynharach yr wythnos hon cafodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei feirniadu wedi i'r llywodraeth gael gwared â'r targed o 5,000 prawf y dydd erbyn canol Ebrill.

  12. 'Ysbytai maes wedi bod yn bwysig'wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn y gynhadledd i'r wasg dywedodd y prif weithredwr, Dr Andrew Goodall, hefyd bod yr "ysbytai maes" wedi bod yn rhan bwysig o waith paratoi y GIG a'i bod yn "arwydd da" na fu'n rhaid anfon y staff ychwanegol i gyd i'r ysbytai hynny".

    Roedd Dr Goodall yn ateb cwestiwn ar a oedd angen yr holl ysbytai maes a dywedodd efallai y "bydd y GIG eto angen yr holl gapasiti wrth i'r feirws ddatblygu" ond dywedodd bod y GIG hefyd yn dechrau "adfer rhai o'r gwasanaethau arferol".

    Andrew GoodallFfynhonnell y llun, bbc
  13. Swyddog carchar yng Nghymru wedi marwwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae swyddog 33 oed yng ngharchar Brynbuga wedi marw wedi iddi brofi'n bositif am Covid-19.

    Roedd Rachael Yates wedi bod yn gweithio yn y carchar am oddeutu 18 mis.

    Dywedodd Mark Fairhurst, cadeirydd Cymdeithas y Swyddogion Carchar: "Dyma farwolaeth drasig arall sy'n dangos y risg sy'n wynebu ein swyddogion carchar dewr bob dydd."

    Bu farw Ms Yates ar 21 Ebrill. Hi yw'r swyddog carchar cyntaf i farw yng Nghymru gyda coronafeirws.

    CarcharFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Angen i'r cyfyngiadau presennol barhau'wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gael ei holi a oedd Cymru wedi cyrraedd anterth yr haint, dywedodd y prif weithredwr Dr Andrew Goodall bod yna sefydlogi wedi digwydd.

    "Ry'n hefyd," meddai, "wedi gweld nifer yr achosion positif mewn unedau gofal dwys, a marwolaethau yn gostwng felly mae yna arwyddion gobeithiol."

    Ond ychwanegodd bod pryderon am ail don neu hyd yn oed trydedd ton o achosion a bod angen felly i'r cyfyngiadau presennol barhau er mwyn atal hynny.

  15. Pryder am effaith anghymesur ar bobl BAMEwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Andrew Goodall yn y gynhadledd hefyd bod ganddo bryder am y dystiolaeth sy'n awgrymu bod coronafeirws yn cael effaith anghymesur ar bobl ddu, Asiaidd, neu leiafrifoedd ethnig eraill (BAME).

    "Ry'n ni'n credu bod angen ymchwiliad brys i ddeall y ffactorau sy'n rhan o'r ffigyrau," meddai.

    "Mae gennym bolisïau cadarn mewn lle i gefnogi'r holl weithlu a diogelu eu hiechyd a lles yn y gwaith."

    Cynhadledd
  16. Cyfradd salwch staff y GIG yn 'is na'r disgwyl'wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Dr Andrew Goodall bod cyfraddau salwch ac absenoldeb o'r gwaith i weithwyr iechyd yn "is na'r disgwyl".

    "Mae lefelau salwch ac absenoldeb tua 7.2%, o'i gymharu â'r lefel arferol o tua 5% ar yr adeg yma o'r flwyddyn," meddai.

    "Mae hyn yn is na'r hyn roedden ni wedi'i ddisgwyl ond rydyn ni'n parhau i ganolbwyntio ar weithredu er mwyn cefnogi ein staff iechyd a gofal i ddychwelyd i'r gwaith, gan gynnwys ffocws ar brofi.

    "Iechyd a lles ein staff ymroddedig yng ngwasanaeth iechyd Cymru yw'r flaenoriaeth."

  17. 'Niferoedd cleifion coronafeirws yn sefydlogi'wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad yng nghynadledd y wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd prif weithredwr y GIG yng Nghymru, Dr Andrew Goodall, bod llai o bobl â coronafeirws mewn unedau gofal dwys ysbytai.

    Dywedodd mai un o bob tri gwely sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl sydd wedi cael prawf positif neu a amheuir o fod â'r haint.

    "Yn ystod yr wythnos ddiwethaf," meddai, "rydym wedi cael adroddiadau fod pobl ar draws Cymru yn gwella yn ddigon da i adael unedau gofal dwys."

    Dywedodd hefyd bod nifer o achosion positif wedi sefydlogi yn ystod y pythefnos diwethaf a bod y nifer ar gyfartaledd rhwng 300 a 400 y dydd.

    "Mae'r nifer yn amrywio ar draws Cymru," meddai, "gyda'r nifer uchaf yn ardaloedd byrddau iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Bae Abertawe."

    Dywedodd hefyd bod un o bob tri prawf coronafeirws yn positif a bod nifer y marwolaethau yn gostwng.

  18. Trawsnewid ffatri Airbus i gynhyrchu offer anadlu i'r GIGwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae ffatri Airbus yn Sir y Fflint wedi trawsnewid ei chanolfan ymchwil er mwyn cynhyrchu peiriannau anadlu - ventilators - i'w defnyddio gan gleifion Covid-19.

    Mae dros 550 o staff yn gweithio i gynhyrchu o leiaf 15,000 o'r offer ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

    Mae llywodraethau ar draws y byd yn ceisio sicrhau mwy o offer sy'n gallu helpu cleifion bregus i anadlu - rhywbeth hanfodol i'r rheiny sydd wedi'u taro'n wael gan coronafeirws.

    AirbusFfynhonnell y llun, Airbus
    AirbusFfynhonnell y llun, Airbus
  19. Carys Eleri: Caru yng nghyfnod coronawedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae'r gwanwyn wedi dod... tymor rhamantus gyda'r blagur ar y coed, yr haul yn tywynnu - a chyfarwyddiadau pendant i beidio mynd yn agos at unrhyw berson tu hwnt i'ch teulu agos.

    Her felly ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gariad.

    Mae'r actores Carys Eleri - sy'n hen law ar siarad am gariad ers ei sioe gomedi Cer i Grafu...Sori...Garu! - wedi bod yn siarad â Chylchgrawn Cymru Fyw am y sialens o ffeindio cymar mewn lockdown.

    Carys EleriFfynhonnell y llun, Carys Eleri
  20. Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru cyn hirwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter