Apêl am wirfoddolwyr ar gyfer brechlynwedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Mae 'na apêl am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn treialon i geisio dod o hyd i frechlyn i Covid 19. Mae gwyddonwyr ym mhrifysgol Rhydychen a Choleg Imperial yn Llundain wedi cael ugain miliwn o bunnau o arian cyhoeddus ar ôl gwneud cynnydd mawr yn y gwaith. Ma nhw yn awgrymu y gallan nhw fod wedi cynhyrchu'r brechlyn erbyn mis Medi.
Ar y Post Cyntaf dywedodd yr Athro Arwyn Thomas Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd:
"Mae'n arwyddocaol iawn, ond yn bwysig pwysleisio mai gwirfoddolwyr iach ydy'r bobl fydd yn dechrau derbyn y brechlyn heddiw nid y rhai sydd â Covid 19.
"Yn aml brechlyn ydy firws sydd wedi ei 'neud yn ddiniwed, mae hwnnw wedyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn cael ei roi mewn i'r corff, ar ôl iddo sefyll profion cyn-glinigol mewn labordy.
"Y prawf cyntaf clinigol ydy'r un yr ydyn ni yn sôn amdano heddiw. Bydd y brechlyn yn cael ei roi mewn i nifer fechan o unigolion iach. Y rheswm am hyn yn syml iawn yw gwneud yn siŵr bod y brechlyn yn ddiogel rhag ofn y bydd yna ryw sgil effaith all ddigwydd yn sydyn iawn.
"Efo'r brechlyn sy'n cael ei brofi heddiw fe fyddan nhw yn medru gweld a ydy'r system imiwnedd yn cael ei hysgogi yn y ffordd gywir.
"Felly mae yna ddau reswm am wneud y treial yma.
"Mewn rhai wythnosau fe fydd yn cael ei brofi ar gleifion Covid 19."
Ond am yr honiad y bydd yn barod erbyn Medi, efallai y bydd e'n barod, ond nid ar y raddfa sydd ei angen. Mae angen ei gynhyrchu ar raddfa enfawr sy'n golygu y bydd yn rhaid cyfuno cwmnïau fferyllol mwya’r byd i gynhyrchu hwn. Maen broses hir iawn ac felly rydw i yn fwy ffyddiog y bydd yna frechlyn mewn 12 mis.