Crynodeb

  • Pryder bod rhieni yn peidio â gofyn am gymorth meddygol i'w plant

  • 17 yn rhagor wedi marw yng Nghymru ddydd Iau gan ddod â'r nifer i 641 a chofnodwyd 234 o achosion newydd

  • Nyrsys dan hyfforddiant yn gorfod dewis rhwng gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn coronafeirws, neu wynebu saib yn eu hyfforddiant

  • Cymunedau fel yr un yn Hendy-gwyn ar Daf yn profi daioni a charedigrwydd yn ystod yr haint

  1. Neges i bobl Aberystwythwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae plismyn yn Aberystwyth wedi annog pobl i aros adref yn sgil cynnydd yn nifer y bobl a thraffig yn y dre.

    Ar eu cyfrif trydar fe anfonodd plismyn lleol neges yn atgoffa pobl bod y cyfyngiadau yn parhau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Pryderon y sector addysg bellachwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae na bryderon fod argyfwng Covid-19 yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol ar ein prifysgolion.

    Yn ôl astudiaeth newydd, fe allai'r pandemig gostio 98 miliwn i'r sector addysg bellach yng Nghymru, gan beryglu dyfodol mil dau gant o swyddi.

    Mae rhai prifysgolion ym Mhrydain yn dweud y bydd angen cymorth ariannol gan y llywodraeth er mwyn goroesi.

  3. Arlwy Dros Ginio am 1wedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Digon i'w drafod yn Dros Ginio yng nghwmni Catrin Haf Jones am 13:00.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Pêl-droed i ailddechrau yn Yr Almaen fis nesaf?wedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae cynghrair bêl-droed Yr Almaen yn edrych yn debygol o fod y prif gynghrair gyntaf yn Ewrop i ailddechrau gemau fis nesaf.

    Mae'r gynghrair, y Bundesliga, yn cwrdd heddiw i drafod ailddechrau'r ddwy brif gynghrair yn y wlad un ai ar 8 neu 16 Mai.

    Byddai angen caniatâd terfynol gan y Canghellor Angela Merkel.

    Uwchgynghrair Belarws yw'r unig gynghrair yn Ewrop sydd ddim wedi cael ei atal oherwydd Covid-19.

    Mae tri aelod o garfan Cymru yn chwarae yn Yr Almaen ar hyn o bryd, gyda Rabbi Matondo yn cynrychioli Schalke, James Lawrence yn chwarae i St Pauli ac Ethan Ampadu ar fenthyg yn Leipzig.

    MatondoFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Galw am ymchwiliad i rasys Cheltenhamwedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    BBC News

    Mae 'na alwadau am gynnal ymchwiliad i'r penderfyniad i gynnal rasys ceffylau Cheltenham, gyda phryder ei fod wedi achosi nifer uchel o achosion yn yr ardal honno.

    Fe wnaeth tua 150,000 o bobl fynychu'r ŵyl dros bedwar diwrnod ym mis Mawrth, ddaeth i ben 10 diwrnod cyn y cyfyngiadau llym ar adael gartref.

    Dywedodd cyn-gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus yr ardal, yr Athro Gabriel Scally, bod nifer uchel o achosion yn Sir Gaerloyw, gan awgrymu mai'r digwyddiad yma sydd o bosib yn gyfrifol.

    Mae Llywodraeth y DU wedi amddiffyn ei benderfyniad i beidio â chanslo'r digwyddiad.

    CheltenhamFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Codiad cyflog i weithwyr allweddol Bro Morgannwgwedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Cyngor Bro Morgannwg

    Bydd oddeutu 500 o staff rheng flaen a gweithwyr allweddol Cyngor Sir Bro Morgannwg yn derbyn codiad cyflog o 10% am 5 mis.

    Nhw ydi’r cyngor cyntaf yng Nghymru i roi codiad cyflog o’r fath fel cydnabyddiaeth o ymdrechion y staff yn ystod y pandemig.

    Yn ôl Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor, staff mewn meysydd gofal cymdeithasol a gwasanaethau amgylcheddol fydd yn elwa.

    Dywedodd: "Mi fydd hyn yn rhedeg o ganol mis Mawrth tan ddiwedd mis Awst - felly rhyw 5 mis o godiad cyflog fydd o.

    "Ar ddiwedd mis Awst bydd y trefniadau yn cael eu hailystyried. Mae’n mynd i gostio tua £600,000 ac mae’r arian yn dod oherwydd bod y cyngor wedi bod yn effeithiol dros ben yn rheoli cyllid dros y blynyddoedd.

    "Ni’n gwerthfawrogi holl ymdrechion pawb yn ystod y cyfnod yma a mae gwaith pawb yn cael ei werthfawrogi. Mae’r camau yma wedi ei seilio wrth siarad efo staff a’r undebau."

    Pencadlys Cyngor Bro MorgannwgFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Pencadlys Cyngor Bro Morgannwg

  7. Siopau B&Q yn agor er y cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae B&Q wedi ailagor dwsinau o siopau ar draws y DU wrth i'r cyfyngiadau ar adael adref barhau mewn grym.

    Wedi cyfnod o dreialu sut y byddai'n gweithio, mae 61 o siopau, gan gynnwys yng Nghaerdydd wedi cael caniatâd i ailagor.

    Dywedodd y cwmni ei fod wedi cyflwyno "rheoliadau ymbellhau cymdeithasol", fel cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn yr adeilad ar yr un pryd.

    Roedd pob siop B&Q yn y DU wedi cau am gyfnod wedi i'r llywodraeth gyflwyno'r cyfyngiadau ar ba siopau fyddai'n cael agor yn sgil cyfyngiadau Covid-19.

    B&Q CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. 'Rhywbeth i edrych ymlaen ato flwyddyn nesaf'wedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    A hithau'n fis ers i gyfyngiadau coronafeirws ddod i rym, y bore 'ma ar y Post Cynta bu Garry Owen yn clywed am sut mae bywyd pobl wedi newid.

    Mae nifer wedi gorfod newid trefniadau mawr - fel priodasau. Yn eu plith mae Eirlys Myfanwy Davies. Roedd hi a’i dyweddi Gareth fod i briodi ym Mis Hydref.

    Wrth siarad â'r Post Cyntaf, dywedodd Eirlys: “Fe wnaethom ni eistedd lawr a phenderfynu gohirio oherwydd y sefyllfa.

    "Yn naturiol ry'n ni'n siomedig ond fe fydd yn rhywbeth i edrych 'mlaen ato y flwyddyn nesa.

    "Y peth mwyaf oedd yn fy mhoeni oedd y cyfyngiadau o rhan rheolau pellhau yn gymdeithasol.

    "Doeddwn ni ddim eisiau rhoi fy nheulu a fy ffrindiau o dan unrhyw bwysau ychwanegol.

    "Ni yn lwcus iawn mae pawb oedd ynghlwm â'r briodas - o’r ffotograffydd i’r cofrestrydd - yn gefnogol ac ar gael ar y dyddiad ym mis Hydref y flwyddyn nesa.”

    Eirlys Myfanwy DaviesFfynhonnell y llun, Eirlys Myfanwy Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Eirlys Myfanwy Davies a'i dyweddi Gareth wedi gohirio eu priodas tan fis Hydref 2021

  9. Manylion am grantiau pysgotawedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ddiwedd Mawrth fe glywon ni rybudd am "effaith ddifrifol" coronafeirws ar bysgotwyr.

    Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi grant newydd i gefnogi busnesau pysgota.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'Cynnydd na welwyd mo’i debyg' yn nifer y sgamiauwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Gyda mwy o bobl yn gweithio adref ac yn cymdeithasu ar-lein yn ystod argyfwng coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi gweld "cynnydd na welwyd mo’i debyg" yn nifer y sgamiau e-bost a seiberdroseddu.

    Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol eisoes wedi mynd i’r afael â dros 2,000 o sgamiau ar-lein, meddai'r llywodraeth.

    "Mae’r sgamiau hynny’n amrywio o wefannau sy’n honni eu bod yn gwmnïau dilys ac yn gofyn am wybodaeth bersonol, fel cyfrineiriau neu fanylion cardiau credyd, i siopau ar-lein ffug sy’n gwerthu eitemau twyllodrus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws," meddai llefarydd.

    Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r nifer cynyddol o sgamiau yng Nghymru, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn annog pawb i ddefnyddio gwasanaeth cenedlaethol newydd, dolen allanol i adrodd am negeseuon e-bost amheus a dilyn cyngor ac arweiniad y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

    SgamFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Cwmni Castell Howell - 'Colli 75-80% o'r busnes'wedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    BBC Radio Wales

    Wrth siarad ar Radio Wales dywedodd Edward Morgan sy'n rhedeg cwmni bwyd Castell Howell eu bod wedi colli 75-80% o'u busnesau yn sgil cau ysgolion , tafarndai a thai bwyta.

    "Mae 450 o'n cydweithwyr ar gyfnod ffyrlo ond rwyf i fy hun yn eitha ffodus a nifer o'r tîm rheoli gan bod digon o waith i ni wneud," meddai.

    "Roedd clywed Michael Gove yn dweud y diwrnod o'r blaen mai tafarndai fyddai'r diwethaf i agor ac o bosib y byddent ar gau tan fis Rhagfyr yn newyddion ofnadwy i'r gadwyn gyflenwi gan gynnwys ni'n hunain.

    "Mae cau siopau coffi yn cael effaith ar ffermwyr llaeth - os nag oes normalrwydd yn dychwelyd yn ystod y misoedd nesaf mae hynna'n bwysau arwyddocaol.

    "Ry'n yn hyderus y byddwn yn gallu goroesi - mae'n gwaith wedi newid yn sylweddol.

    "Ry'n bellach yn wasanaeth 'cash and carry' ac yn drist mae yna alw cynyddol wedi bod yng ngofynion y banc bwyd ac felly ry'n yn eu cyflenwi nhw hefyd," ychwanegodd.

    cwmni Castell HowellFfynhonnell y llun, Castell Howell
  12. Bale yn rhoi £500,000 i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Frowedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae Gareth Bale a'i wraig Emma wedi rhoi £500,000 i gangen elusennol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

    Dywedodd Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro bod y cwpl yn dymuno i'r arian gael ei wario "ar yr ymateb i Covid-19".

    Cafodd Bale ei eni yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a'i fagu yng ngogledd y ddinas.

    Mae cyd-chwaraewr Bale gyda Chymru, Aaron Ramsey, hefyd wedi rhoi dau rodd o £10,000 i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Ysbyty maes i barhau 'am faint bynnag y bydd ei angen'wedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn parhau fel ysbyty maes "am faint bynnag y bydd ei angen", medd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

    Fe ddaeth yr undeb a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ynghyd i drawsnewid y stadiwm ar gyfer cleifion yn sgîl argyfwng coronafeirws.

    Mae gan Ysbyty Calon y Ddraig le ar gyfer hyd at 2,000 o welyau.

    "Y realiti yw os bydd angen ysbyty o'r maint yma mae hi'n annhebygol iawn y bydd rygbi yn cael ei chwarae o flaen torf o 74,000," meddai Martyn Phillips.

    "Doeddwn erioed wedi disgwyl y byddai'r stadiwm yn cael ei ddefnyddio fel hyn ac felly mae'n teimlo braidd yn swreal."

    Disgrifiad,

    Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality

  14. Bore braf a distaw gobeithio!wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Traffig Cymru

    Yr un yw'r cyngor - arhoswch adre.

    Mae Traffig Cymru yn gobeithio gweld lluniau fel hyn weddill y dydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Ramadan gwahanol i Fwslemiaid Cymru eleniwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Bydd mis sanctaidd Ramadan "yn wahanol iawn i Fwslemiaid yng Nghymru" oherwydd y pandemig Covid-19, yn ôl arweinwyr cymunedol.

    Mae mosgiau wedi cau ac mae'r rheolau ynglŷn ag ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod yn rhaid addasu i drefn newydd.

    Ramadan yw mis mwyaf sanctaidd crefydd Islam, pan fydd ffyddloniaid yn ymprydio rhwng toriad gwawr a machlud haul bob dydd cyn torri'r ympryd a phryd iftar wedi iddi dywyllu.

    defod iftarFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae defod Iftar yn gyfle i deulu a ffrindiau fwyta ar ddiwedd ympryd yn ystod Ramadan

  16. Ymddygiad gwrth-gymdeithasol ym Mônwedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae saith cartref ym Mhorthaethwy yn Sir Fôn wedi cael gwybod bod eu hymddygiad yn annerbyniol.

    Dywedodd Heddlu'r Gogledd y byddant yn "addysgu y bobl dan sylw ar effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol".

    Dywedont hefyd y byddai modd iddyn ddefnyddio pwerau arbennig petai'r ymddygiad yn parhau.

    "Ond yn amlwg," ychwanegont, "dyna fydd y dewis ola ond does dim modd goddef ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn ystod cyfyngiadau Covid-19."

  17. Eisteddfodau yn croesawu arian Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Byddai wedi bod yn "anodd tu hwnt" i'r Eisteddfod Genedlaethol barhau y tu hwnt i'r pandemig coronafeirws heb gymorth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl prif weithredwr yr ŵyl.

    Dywedodd Betsan Moses na fyddai "newidiadau ysgubol" yn debygol o fod wedi bod yn ddigon i'w hachub yn sgil yr argyfwng presennol.

    Fe wnaeth Ms Moses ei sylwadau ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi addo dros £800,000 i'w rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar ôl iddyn nhw orfod gohirio eu digwyddiadau eleni.

    Betsan MosesFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Betsan Moses na fydd pethau fyth yr un peth i wyliau poblogaidd Cymru wedi'r pandemig

  18. Darllen am bla yn boblogaidd!wedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae ymchwil newydd yn awgrymu fod traean ohonom ni yn darllen mwy yn ystod y cyfyngiadau - gyda nifer yn gweld hyn fel difyrrwch neu ddihangfa.

    Yn ôl yr Asiantaeth Ddarllen, mae nifer y bobl ifanc sy'n troi at lyfr hyd yn oed yn uwch, gyda theitlau yn ymwneud â heintiau neu bla byd-eang yn arbennig o boblogaidd.

    plaFfynhonnell y llun, Barddas
  19. Colli'ch ffrindiau?wedi ei gyhoeddi 08:37 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ddim wedi gweld eich ffrindiau ers tro? Mae'n anodd ond y neges yw bod cwrdd â phobl y tu allan i'ch cartref yn peryglu bywydau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Arestio pobl ym Mhowyswedi ei gyhoeddi 08:26 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Dros nos mae plismyn ym Mhowys wedi dirwyo pedwar o bobl am deithio'n ddi-angen.

    Cafodd un person ei arestio am yfed a gyrru wedi gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd.