Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020
Dyna ni am heddiw, ond fe fydd y llif byw yn ôl 'fory gyda'r diweddara' yn ystod y dydd.
Diolch am ddilyn a hwyl am y tro.
Cadarnhau 110 o farwolaethau pellach - 84 ohonynt yn dyddio yn ôl dros gyfnod o fis
751 bellach wedi marw yng Nghymru o Covid-19, ac 8,601 o achosion wedi'u cadarnhau'n swyddogol
Rhai o'r cyfyngiadau coronafeirws i gael eu cryfhau yng Nghymru erbyn y penwythnos
Mark Drakeford yn cyhoeddi 'saith cwestiwn' cyn bod modd llacio mesurau
Dyna ni am heddiw, ond fe fydd y llif byw yn ôl 'fory gyda'r diweddara' yn ystod y dydd.
Diolch am ddilyn a hwyl am y tro.
Cyn i ni orffen heno, rhywbeth bach i godi calon.
Mewn cyfnod lle nad oes chwaraeon, does dim bwrlwm sy’n dod law yn llaw â’r gemau mawr chwaith.
Felly mae’r dyfarnwr pêl-droed Aled Rhys Williams wedi bod yn cynnal cyngerdd i rai o drigolion Llanrug yng Ngwynedd bob nos Iau, gan chwarae rhai o anthemau sy’n aml i’w clywed mewn caeau pêl-droed a rygbi ar ei utgorn.
Clwb Pêl-droed Abertawe
Pwt o newyddion o'r byd chwaraeon, lle mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi bod chwaraewyr ac uwch-swyddogion wedi cytuno i leihau eu cyflogau o 20% am dri mis, ar yr amod bod y clwb yn ad-dalu'r swm pan fydd y byd chwaraeon yn ôl fel yr arfer.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r ddau glaf Covid-19 cyntaf fuodd yn derbyn cymorth anadlu yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cael gadael yr ysbyty.
Dywedodd Danny Egan, 73, (isod) mai'r peth cyntaf y byddai'n ei wneud oedd rhoi cusan i'w wraig ar ôl derbyn cymeradwyaeth staff Ysbyty Treforys.
Dywedodd y nyrs Kirsty Hopkins bod Mr Egan a chlaf arall, David Courtney-Williams, 48, wedi bod yn wael iawn ac felly ei fod yn wych gweld y ddau'n gwella.
Mae cwmni Debenhams wedi rhybuddio y bydd rhaid iddo gau ei brif siopau yng Nghymru oni bai fod y llywodraeth yn gwneud tro pedol ar ei benderfyniad i beidio lleihau cyfraddau busnes i'r busnesau mwyaf.
Mae Canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak wedi lleihau cyfraddau i bob busnes ym meysydd masnach, hamdden a lletygarwch yn Lloegr am flwyddyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru'n wreiddiol y bydden nhw'n defnyddio'r un cynllun, cyn penderfynu na fyddai busnesau gwerth dros £500,000 yn cael cymorth.
Mae'r BBC wedi gofyn am sylw gan Lywodraeth Cymru am bryderon Debenhams.
Heddlu Gogledd Cymru
Mae prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod defnydd o ail gartrefi yn fater "cymhleth" cyn cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru i drafod y mater.
Dywedodd Carl Foulkes bod y llu yn derbyn llawer o alwadau: "Mae ein pwerau fel yr heddlu yn glir os ydy pobl yn gyrru i ail gartrefi - gallwn ni eu troi yn ôl gan nad yw'n daith hanfodol."
"Ond os ydyn nhw yna'n barod, mae'n fwy cymhleth." Ychwanegodd bod y ffaith bod rhai ail gartrefi'n cael eu defnyddio i roi llety i weithwyr allweddol yn cymhlethu'r mater ymhellach.
"Mae angen ymdriniaeth ofalus, yn cynnwys nifer o asiantaethau."
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud mai "problemau sydd wedi eu canfod yn ein system adrodd" ydy'r rheswm dros gynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau yn yr ardal yn gysylltiedig â Covid-19.
Roedd nifer y marwolaethau gafodd eu cyhoeddi heddiw yn cynnwys 84 oedd yn dyddio 'nôl rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill, gan ddod â'r cyfanswm yno i 88.
Dywedodd llefarydd bod diweddariad heddiw "yn cynnwys croniad o achosion ble mae claf wedi marw ac wedi cael prawf positif am Covid-19".
Ychwanegodd: "Mae'r holl ddata ar achosion Covid-19 a marwolaethau wedi ei gasglu'n gywir ac mae'r broblem yn ymwneud â'r modd mae'r data yn cael ei rannu."
Mae'r broblem wedi ei datrys yn ôl y bwrdd iechyd.
Ni chafodd system ceisio am brawf coronafeirws ar y we, sydd wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth y DU, ei drafod "yn fanwl" dros bedair gwlad y DU.
Wrth ateb cwestiwn ar pam nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r system, dywedodd prif swyddog meddygol Cymru bod "adegau pan hoffwn ni, yng Nghymru, fod wedi cael mwy o wybodaeth am rai manylion ymarferol".
Dywedodd Dr Frank Atherton bod y syniad wedi ei gytuno'n fras, ond bod "sawl esiampl pan mae cytundeb bras wedi golygu cymryd camau gwahanol" dros wledydd y DU.
Dywedodd Dr Atherton bod profi, rhannu offer diogelwch a gadael y cyfnod o ynysu yn esiamplau.
Mae tair o farchnadoedd ffermwyr y gorllewin wedi dod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth 'rhith' yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws gan nad ydy pobl yn gallu ymgynnull bellach.
Eisoes mae 25 o gynhyrchwyr lleol wedi ymuno yn yr hwb, sy'n bartneriaeth rhwng marchnadoedd Aberystwyth, Aberaeron a Hwlffordd.
Maen nhw'n cynnig gwasanaeth clicio-a-chasglu ar-lein, gyda chwsmeriaid wedyn yn cael amser penodol i ddod i 'nôl eu cynnyrch.
Mae Prifysgol John Hopkins, sy'n casglu data ar Covid-19 yn yr Unol Daleithiau, yn dweud bod dros 50,000 o bobl wedi marw yno bellach.
Yr Unol Daleithiau yw'r wlad sydd â'r nifer uchaf o farwolaethau o bellffordd, ac yno mae'r nifer uchaf o achosion hefyd - dros 869,000.
YouTube
Mae cyfansoddwr adnabyddus wedi canmol côr o Gaerdydd am eu perfformiad rhithwir nhw o un o'i ddarnau mwyaf poblogaidd.
Mae perfformiad Côr CF1 o 'Baba Yetu' gan Christopher Tin bellach wedi cael ei wylio degau o filoedd o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaeth y cyfansoddwr rannu'r fideo ar-lein, gan ddisgrifio'r perfformiad fel un “anhygoel".
Dywedodd arweinydd CF1, Eilir Owen Griffiths fod y darn yn "ffefryn y côr ers talwm" a bod gan y geiriau "ystyr newydd o obaith yn ystod yr amseroedd caled hyn".
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim wedi cynnig esboniad eto ynglŷn â pham y bu oedi sylweddol cyn cadarnhau'r 84 o farwolaethau ychwanegol yn y gogledd.
Roedd y ffigyrau Covid-19 diweddaraf gafodd eu cyhoeddi'r prynhawn 'ma yn cynnwys nifer o farwolaethau ychwanegol yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd heb eu cynnwys yn y ffigyrau gynt.
Wrth feio "oedi yn y broses adrodd", dywedodd llefarydd: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni'n darparu'r data fwyaf cywir a diweddar â phosib i'r cyhoedd am Covid-19."
Heddlu Dyfed Powys
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai'r cyfyngiadau coronafeirws aros yn eu lle nes o leiaf ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc ym mis Mai.
Dywedodd Dafydd Llywelyn y byddai hynny'n atal pobl rhag llifo mewn i ogledd a gorllewin Cymru fel ffordd o "ddathlu" llacio'r rheolau.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi awgrymu y gallai'r mesurau gael eu llacio'n raddol yng Nghymru ymhen ychydig wythnosau.
Yn ôl canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru dylai pobl ymarfer corff "mor agos â phosib" at eu cartrefi.
Y canllaw i seiclwyr ydy na ddylen nhw deithio'n bellach na "phellter cerdded rhesymol o'u cartrefi".
Mae'r rheolau newydd hefyd yn ei gwneud yn glir na ddylai unrhyw un yrru i unrhyw leoliad i wneud ymarfer corff oni bai fod hynny'n hanfodol - fel pobl mewn cadair olwyn.
Mae 'na rybudd hefyd na ddylai pobl ddefnyddio ymarfer corff fel "esgus" i wneud pethau eraill fel cael picnic neu ymlacio mewn parc.
Mae clybiau a sefydliadau ar draws y wlad wedi bod yn codi arian tuag at y frwydr yn erbyn coronafeirws dros yr wythnosau diwethaf - gan gynnwys y rhodd hael yma o £3,100 gan Glwb Cymric i Uned Gofal Dwys Ysbyty Athrofaol Cymru.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Chwaraeon BBC Cymru
Mae ymosodwr Cymru, Natasha Harding wedi bod yn rhoi ei hymateb hi i'r newyddion fod Pencampwriaeth Euros y Menywod wedi ei symud o 2021 i 2022.
Er bod y penderfyniad yn gwneud synnwyr o ystyried y byddai fel arall yn digwydd yr un haf ag Euros y dynion a'r Gemau Olympaidd, meddai, dydy o ddim yn newyddion cystal i chwaraewyr fel hi fydd flwyddyn yn hŷn erbyn dyddiad newydd y gystadleuaeth!
Ar hyn o bryd mae Cymru'n ail yn eu grŵp rhagbrofol y tu ôl i Norwy, gyda'r enillwyr yn cyrraedd y gystadleuaeth a'r tîm sy'n ail yn cael lle yn y gemau ail gyfle o leiaf.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi rhybuddio unwaith eto am dwyll yn ymwneud â coronafeirws, gyda dros £2m wedi ei golli i sgamiau o'r fath hyd yn hyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod 84 o'r marwolaethau sydd wedi'u cynnwys am y tro cyntaf yn y ffigyrau heddiw yn dyddio yn ôl dros fis.
Fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi digwydd rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill, a hynny ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ond bod oedi wedi bod cyn adrodd hynny.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 110 o farwolaethau pellach o ganlyniad i Covid-19, a 243 o achosion newydd.
Dyma'r nifer uchaf o farwolaethau i gael eu cyhoeddi mewn un diwrnod yng Nghymru o bell ffordd.
Ond mae Iechyd cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau mai 26 marwolaeth newydd sydd wedi'u hadrodd iddyn nhw heddiw, a bod yr 84 arall yn dod o oedi yn y broses o adrodd.
Mae'n golygu bod y nifer sydd wedi marw o'r haint yng Nghymru wedi cyrraedd 751, gyda chyfanswm o 8,601 achos wedi ei gadarnhau.
Ond mae'r gwir nifer yn debygol o fod llawer yn uwch, gyda nifer y marwolaethau ddim yn cynnwys pobl sydd marw mewn cartrefi gofal.