Crynodeb

  • Cadarnhau 110 o farwolaethau pellach - 84 ohonynt yn dyddio yn ôl dros gyfnod o fis

  • 751 bellach wedi marw yng Nghymru o Covid-19, ac 8,601 o achosion wedi'u cadarnhau'n swyddogol

  • Rhai o'r cyfyngiadau coronafeirws i gael eu cryfhau yng Nghymru erbyn y penwythnos

  • Mark Drakeford yn cyhoeddi 'saith cwestiwn' cyn bod modd llacio mesurau

  1. Mwy o staff yn sâl na nifer yr achosion swyddogolwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Penfro

    Mae prif weithredwr Cyngor Sir Penfro wedi dweud mewn neges ar YouTube fod 20 o bobl yn y sir wedi marw o Covid-19, a 170 o achosion wedi'u cadarnhau.

    Ond mewn arwydd pellach y gallai'r niferoedd sydd wedi'u heintio fod llawer yn uwch na'r ffigyrau swyddogol, dywedod Ian Westley fod bron i 390 o weithwyr yr awdurdod yn sâl o'r gwaith mewn gwirionedd.

    Ychwanegodd bod 280 hefyd yn hunan ynysu.

  2. Chwaraewyr Caerdydd yn cytuno i ohirio rhan o'u tâlwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dod i gytundeb gyda'u chwaraewyr i ohirio talu rhan o'u cyflog am dri mis oherwydd yr argyfwng.

    Dywedodd y clwb y bydd y cytundeb yn "sicrhau sefydlogrwydd ariannol" yn ystod cyfnod ansicr.

    Roedd y rheolwr, Neil Harris, a'r prif weithredwr, Ken Choo, eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n derbyn cyflog llai yn ystod y pandemig.

    Mae'r clwb wedi rhoi rhan o'i staff ar gynllun saib o'r gwaith Llywodraeth y DU.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Drakeford yn beirniadu Trumpwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Ar ddiwedd ei gynhadledd i'r wasg fe gafodd Mark Drakeford gwestiwn am sylwadau diweddaraf Donald Trump, wnaeth awgrymu y gallai hylif diheintio gael ei ddefnyddio i drin coronafeirws.

    Dywedodd Mr Drakeford ei bod hi'n "eithriadol" fod Arlywydd yr UDA wedi awgrymu syniadau "heb unrhyw sail wyddonol na gwyddoniaeth feddygol y tu ôl iddynt".

    "Mae pobl mas yna sydd yn mynd i ddibynnu ar air arlywydd, ac efallai am weithredu ar sail yr hyn gafodd ei ddweud," meddai.

    hylif diheintioFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Cynllunio ar gyfer profion cymunedolwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe fydd swyddogion iechyd yn llunio cynlluniau yn y pythefnos nesaf ar gyfer sut i gynnal profion Covid-19 yn y gymuned.

    Y bwriad, meddai Mark Drakeford, fydd gallu profi pobl ac yna'u hynysu os oes ganddyn nhw'r feirws, er mwyn galluogi'r cyfyngiadau presennol i gael eu llacio.

    Ond dydy'r Prif Weinidog ddim wedi dweud faint o bobl fyddai angen eu recriwtio er mwyn cynnal y profion a chadw cofnod o'r data, na faint o brofion fydd eu hangen.

    canolfan brofi Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Fframwaith Cymru 'ddim yn tanseilio'r ymateb ledled y DU'wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn y gynhadledd fe wnaeth y Prif Weinidog wadu awgrym y gallai cynllun Llywodraeth Cymru i adael y cyfyngiadau danseilio'r cynllun ar gyfer y DU cyfan.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth heddiw, tra bod Llywodraeth Yr Alban wedi datgelu dogfen debyg ddoe.

    Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn parhau i gydweithio â llywodraethau eraill y DU, a'i fod yn credu y bydd y fframwaith ar gyfer Cymru yn cryfhau'r ymateb ar lefel ehangach.

    "Wrth rannu'n ffordd o feddwl gyda'n gilydd a bod yn agored am y materion ry'n ni'n credu fydd o bwys mewn rhannau gwahanol o'r DU, rwy'n credu y bydd yn ein helpu i ganfod y ffordd ymlaen," meddai.

    "Y nod wrth gyhoeddi ein fframwaith ydy cryfhau'r ymateb ledled y DU - yn bendant nid ei danseilio."

  6. 'Cyngor gwyddonol, ond ni fydd yn dyfarnu'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd yn rhaid i wleidyddion "ddyfarnu" yn y bôn pryd oedd yr adeg orau i lacio'r cyfyngiadau.

    Daw hynny wedi i'r llywodraeth gyhoeddi 'saith cwestiwn' y bydd yn rhaid eu hateb cyn i hynny ddigwydd,

    "Fe fydd hwnnw dal yn benderfyniad fydd yn dibynnu ar gyngor meddygol neu gyngor gwyddonol," meddai.

  7. 'Ffordd hir o'n blaenau' cyn mynd 'nôl i'r arferwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford bod "ffordd hir o'n blaenau" cyn dychwelyd i fywyd arferol fel cyn y pandemig.

    "Ni fydd hyn yn digwydd nes y bydd triniaeth effeithiol a brechlyn ar gael," meddai.

    "Os ydyn ni'n parhau i gydweithio rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud newidiadau i'r cyfyngiadau a gweld newid graddol i rywbeth agosach at fywyd arferol."

  8. 'Elfennau wedi'u cryfhau ac eraill wedi'u llacio'wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Pwysleisiodd y Prif Weinidog fodd bynnag nad yw'r cyfyngiadau yn cael eu codi ar hyn o bryd, gan gadarnhau bod "newidiadau bychan" yn cael eu gwneud iddynt yn dilyn arolwg.

    Dywedodd Mark Drakeford bod "rhai elfennau wedi'u cryfhau ac eraill yn cael eu llacio".

    "Rydw i eisiau bod yn gwbl glir fod y rheolau ar aros gartref yn parhau mewn grym, hyd yn oed wrth i ni edrych i'r dyfodol," meddai.

    Drakeford
  9. 'Saith cwestiwn' cyn llacio cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford wedi dechrau ei gynhadledd drwy drafod y camau ar gyfer llacio'r cyfyngiadau coronafeirws yn raddol.

    Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer arwain y wlad allan o'r pandemig.

    Bydd y fframwaith yn cynnwys saith cwestiwn i benderfynu pryd yw’r amser priodol i lacio rhai o’r rheoliadau:

    • A fyddai llacio’r cyfyngiadau’n cael effaith negyddol ar reoli’r feirws?
    • A yw mesur penodol yn creu risg isel o haint pellach?
    • Sut gellir ei fonitro a’i orfodi?
    • A oes modd ei wyrdroi’n gyflym os bydd yn creu canlyniadau anfwriadol?
    • A oes mantais economaidd bositif?
    • A yw’n cael effaith bositif ar les pobl?
    • A yw’n cael effaith bositif ar gydraddoldeb?
  10. Cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru mewn pum munudwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cestyll Cymru'n goleuowedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Cadw

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Marwolaethau yn Sbaen ar ei lefel isaf ers miswedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae newyddion addawol o Sbaen, ble mae nifer y bobl sydd wedi marw â coronafeirws wedi gostwng i'w lefel isaf ers dros fis.

    367 o bobl fu farw â'r feirws yn y 24 awr ddiwethaf, sy'n dod â'r cyfanswm i 22,524.

    Dim ond yr Unol Daleithiau a'r Eidal sydd wedi cael mwy o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19.

    SbaenFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Mynwentydd Caerdydd i ailagorwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Cyngor Caerdydd

    Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd pedair mynwent yn y ddinas yn ailagor i'r cyhoedd o yfory ymlaen.

    Cafodd y mynwentydd eu cau ddechrau mis Ebrill wedi i'r cyngor ddweud bod "nifer anarferol o uchel o ymwelwyr â'r safleoedd ac adroddiadau y bu pobl yn cynnal picnics, gemau pêl a chriwiau mawr yn ymgynnull yn gymdeithasol yn y tiroedd".

    Dywedodd y cyngor y bydd "timau newydd eu hadleoli i sicrhau bod y broses o ymbellhau cymdeithasol yn cael ei chynnal ac na chaiff y gofodau eu defnyddio'n amhriodol yn ystod argyfwng Covid-19".

    "Mae'r Cyngor yn galw ar y cyhoedd i ymweld â'r mynwentydd os ydynt yn ymweld â bedd neu ar gyfer angladd yn unig er mwyn parhau i arfer ymbellhau cymdeithasol," meddai llefarydd.

    Y mynwentydd fydd yn ailagor ydy rhai Cathays, y Gorllewin, Draenen Pen-y-Graig a Phantmawr.

    Mynwent y GorllewinFfynhonnell y llun, Geograph
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd Mynwent y Gorllewin yn un o'r rhai fydd yn ailagor yfory

  14. Dim criced domestig nes Gorffennaf ar y cynharafwedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi dweud na fydd unrhyw griced domestig y cael ei chwarae nes mis Gorffennaf ar y cynharaf.

    Ym Mhencampwriaeth y Siroedd, sydd fel arfer yn dechrau fis Ebrill, bydd o leiaf naw rownd o gemau yn cael eu torri oddi ar y tymor.

    Dywedodd prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Tom Harrison: "Rydyn ni'n parhau'n obeithiol y gallwn ni gael criced dros yr haf, ond ni fydd unrhyw chwarae nes y bydd hi'n ddiogel i wneud hynny."

    CricedFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Staff ar saib o'r gwaith yn cael eu tâl cyntafwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Bydd miliynau o weithwyr ledled yn DU yn derbyn eu tâl cyntaf heddiw ers i'r cyfyngiadau coronafeirws ddod i rym.

    Mae nifer wedi colli eu swyddi ac yn gorfod hawlio credyd cynhwysol, ond mae llawer mwy wedi cael eu rhoi ar y cynllun saib o'r gwaith - wedi'u gyrru gartref ond yn derbyn 80% o'u tâl.

    Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod 27% o holl weithlu'r DU wedi eu rhoi ar y cynllun.

  16. Cwmni dillad yn recriwtio yn ystod yr argyfwngwedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Gyda nifer o fusnesau'n ei chael hi'n anodd goroesi yn ystod y pandemig, mae nifer o fusnesau'n troi at helpu'r gwasanaeth iechyd.

    Dyna mae cwmni Brodwaith yn Llangefni wedi'i wneud, gan sicrhau cytundeb i ddarparu dillad i staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

    Dywedodd y perchennog, Dafydd Roberts: "Roedd rhaid gwneud y penderfyniad anodd o stopio gwaith y ffatri am gyfnod byr.

    "Yr ofn oedd bod cytundebau yn dod i ben a dim arall yn dod mewn.

    "Ond yn ystod y cyfnod byr yma rydyn ni wedi bod yn gweithio ar brosiect yn gwneud scrubs ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

    "Erbyn hyn rydyn ni yn cychwyn ar gynhyrchu 400 yr wythnos yn Llangefni a rhwng y tair ffatri rydyn ni'n targedu cael 2,000 yr wythnos.

    "Rydyn ni wedi rhoi galwad allan ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o weithwyr i weld a oes yna rywun allan yna sydd wedi defnyddio'r peiriannau gwnïo yma."

    BrodwaithFfynhonnell y llun, Google
  17. Pwyllgorau Cynulliad i ailddechrauwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Gyda chyfarfodydd llawn y Senedd eisoes wedi ailddechrau ar-lein, mae'r Cynulliad wedi cyhoeddi y bydd rhai pwyllgorau hefyd yn dechrau cwrdd yn yr un modd o'r wythnos nesaf ymlaen.

    Dywedodd y Llywydd, Elin Jones y bydd y pwyllgorau'n gwneud “gwaith hollbwysig fydd yn sicrhau fod olwynion democratiaeth Cymru’n parhau i droi mewn cyfnod eithriadol".

    Bydd y pwyllgorau cyntaf i gwrdd yn canolbwyntio ar iechyd, yr economi, plant, pobl ifanc ac addysg.

    pwyllgor Cynulliad
  18. Gŵyl y Gelli'n troi'n ddigidolwedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Wedi i Ŵyl y Gelli orfod cael ei chanslo yn sgil argyfwng coronafeirws, mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl yn mynd yn ei blaen ar-lein.

    Bydd awduron, haneswyr a llawer mwy yn cynnal sesiynau cwestiwn ac ateb mewn darllediadau am ddim rhwng 18 a 31 Mai - yr un pryd ag yr oedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal yn wreiddiol.

    Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi ar 1 Mai.

    Gŵyl y Gelli
  19. 24 awr heb unrhyw farwolaethau yn Ne Coreawedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Does yr un person wedi marw gyda Covid-19 yn y 24 awr ddiwethaf yn Ne Corea - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers mis.

    Dywedodd llywodraeth y wlad hefyd mai dim ond chwe achos newydd gafodd ei gadarnhau ddoe - y lleiaf mewn un diwrnod yno ers 18 Chwefror.

    Mae hynny'n newid sylweddol, mewn gwlad welodd nifer fawr o achosion ddiwedd Chwefror wrth i'r feirws ddechrau lledaenu ledled y byd.

    Hyd yn hyn 240 o bobl sydd wedi marw yno - a dydy'r llywodraeth ddim wedi cyflwyno unrhyw gyfyngiadau ar symudiadau pobl.

    De CoreaFfynhonnell y llun, Reuters