Crynodeb

  • Cadarnhau 110 o farwolaethau pellach - 84 ohonynt yn dyddio yn ôl dros gyfnod o fis

  • 751 bellach wedi marw yng Nghymru o Covid-19, ac 8,601 o achosion wedi'u cadarnhau'n swyddogol

  • Rhai o'r cyfyngiadau coronafeirws i gael eu cryfhau yng Nghymru erbyn y penwythnos

  • Mark Drakeford yn cyhoeddi 'saith cwestiwn' cyn bod modd llacio mesurau

  1. Yr Urdd i gynnal 'Eisteddfod T'wedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Eisteddfod yr Urdd

    Gydag Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych wedi ei gohirio eleni, mae'r mudiad wedi cyhoeddi y bydd cystadleuaeth newydd yn cael ei chynnal er mwyn rhoi llwyfan amgen i dalentau plant Cymru.

    Rhwng 25 a 29 Mai bydd 'Eisteddfod T' yn cael ei chynnal, gyda chystadleuwyr yn cystadlu yn ddigidol, trwy uwchlwytho fideos, clipiau a lluniau o'u perfformiadau a chynnyrch.

    Bydd y rowndiau terfynol yn cael eu darlledu mewn rhaglenni arbennig ar S4C, yn ogystal â gwefan S4C ac ar BBC Radio Cymru.

    Mae modd gweld y rhestr testunau - gan gynnwys cystadlaethau traddodiadol yn ogystal a rhai newydd - ar wefan S4C, dolen allanol.

    “Roedd yr Urdd yn benderfynol o gael Eisteddfod mewn ryw ffurf a darparu cyfle i blant a phobl ifanc lle mae’r Eisteddfod yn gymaint o ran o’u calendr," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Sian Eirian.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. 'Y ffigyrau diweddaraf yn bositif iawn'wedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Radio Cymru y bore 'ma ei bod yn falch bod canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn fwy eglur.

    "Rwy'n credu bod y ffigyrau'n dangos bod y cyfyngiadau yn gweithio ac felly rwy'n croesawu bod y cyfyngiadau yn cael eu cryfhau dros y penwythnos er mwyn eu gwneud hi'n gliriach i bobl beth ddylid ei wneud am y defnydd o ail gartrefi er enghraifft, a theithio ymhell i ymarfer corff," meddai.

    "Mae'n help i wneud yn glir beth sydd angen ei wneud, ond hefyd mae pobl yn gyffredinol yn dilyn y cyfarwyddiadau ac ry'n ni'n gweld bod y ffigyrau yn gwella.

    "Mae'n gynnar i ddweud yn sicr ond mae'r ffigyrau diweddara' yn bositif iawn ac mae'r ffaith bod pobl yn gwella - yn symud nôl mewn i'r gymuned - yn dechrau rhoi arwydd i ni fod pethau'n mynd i lacio yn y pen draw.

    "Ond mae'n rhy gynnar eto i lacio'n llwyr yn anffodus, ac hefyd yn rhy gynnar i fod yn hollol siŵr ein bod ni dros y gwaethaf."

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Pobl Porthmadog yn mynd ati i gefnogi ei gilyddwedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Golwg ar effeithiau'r pandemig byd-eang ar fywyd bob dydd pobl Porthmadog.

    Read More
  4. Rhiant plentyn awtistig yn croesawu'r canllawiau newyddwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Bydd canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i rai pobl - fel plant awtistig a'u rhieni - adael eu cartrefi ddwywaith y dydd.

    Dywedodd yr actores Catrin Powell, sy'n fam i Jaco, sy'n awtistig, bod hynny'n "mynd i wneud newid".

    "Erbyn hyn efo'r sefyllfa mae mynd am dro wedi dod yn highlight i Jaco felly dwi'n meddwl y bydd o wrth ei fodd," meddai.

    "Achos ei fod o yn trio dygymod â'r holl sefyllfa mae'n anodd iawn esbonio, a dwi'n trio peidio codi ofn, ond mae'n licio mynd am dro a gweld yr holl siopau wedi cau a dwi'n deud eu bod nhw ynghau oherwydd coronafeirws.

    "Be' oedd Jaco yn hoffi 'neud o'r blaen oedd mynd am dro yn y car, mynd am sbin i lefydd gwahanol fel y maes awyr - yn amlwg dydy o methu 'neud hynny rŵan, ond mae o'n dygymod yn dda iawn."

    Catrin Powell a'i mab, Jaco
    Disgrifiad o’r llun,

    Catrin Powell a'i mab, Jaco

  5. Croesawu profion Covid-19 i athrawonwedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae'r canllawiau ar bwy sy'n gallu cael eu profi am Covid-19 yn cael eu hymestyn yng Nghymru, gyda gweithwyr allweddol yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw symptomau.

    Mae hynny'n cynnwys gweithwyr gofal plant ac athrawon, a dywedodd Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC ar y Post Cyntaf eu bod "wedi bod yn galw am hyn ers tro".

    "Mae athrawon a gweithwyr addysg eraill wedi bod yn mynd i ganolfannau bob dydd i edrych ar ôl plant y gweithwyr allweddol, felly maen nhw'n wynebu risgiau ychydig yn uwch na'r rhan fwyaf o'r boblogaeth, sy'n gallu hunan ynysu," meddai.

    "Mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n gallu cael mynediad at y profion er tawelwch meddwl iddyn nhw'u hunain a'u teuluoedd, ac er diogelwch y plant sydd yn eu gofal er mwyn atal lledaeniad y feirws."

    AthrawesFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Goleuo a chofiowedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Cyngor Abertawe

    Cafodd adeilad y Guildhall yn Abertawe, fel eraill ar draws Cymru, ei oleuo'n las unwaith eto neithiwr i gydnabod gwaith gweithwyr iechyd yn ystod y pandemig.

    Ond fe wnaethon nhw hefyd oleuo'r adeilad yn wyrdd, a hynny i gofio'r parafeddyg Gerallt Davies fu farw'r wythnos hon o'r haint.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Llacio mesurau o fewn tair wythnos?wedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    BBC Radio Wales

    Mwy gan Mark Drakeford ar BBC Radio Wales y bore 'ma, gan gynnwys pryd allen ni ddechrau gweld y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio.

    Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu tynhau'r mesurau mewn rhai mannau, fe allai rhai busnesau a gwasanaethau hefyd gael ailagor ymhen rhai wythnosau.

    Dywedodd y prif weinidog y gallai rhai cyfyngiadau gael eu codi erbyn diwedd y cyfnod diweddaraf o dair wythnos.

    Ond fe fyddai hynny'n digwydd yn raddol, "fel goleuadau traffig am yn ôl", gan symud o gyfnod 'coch' mwy llym i gyfnod 'oren' ac yna 'gwyrdd'.

    Byddai'r cyfnod 'gwyrdd', meddai, "yn edrych yn llawer tebycach i sut oedd ein bywydau ni cyn i'r argyfwng daro".

    Gorsaf Canol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae canol Caerdydd, fel y rhan fwyaf o lefydd, wedi bod yn llawer tawelach dros yr wythnosau diwethaf

  8. Drakeford 'ddim am ddiswyddo' Gethingwedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    BBC Radio Wales

    Mae'r Prif Weinidog wedi mynnu na fydd yn diswyddo'r Gweinidog Iechyd wedi iddo gael ei ddal yn rhegi wrth gyfeirio at gyd-Aelod Cynulliad.

    Bu'n rhaid i Vaughan Gething ymddiheuro wedi iddo gael ei ddal yn siarad dan ei wynt am Jenny Rathbone mewn cyfarfod o'r Senedd ar-lein.

    Fe wnaeth Plaid Cymru ysgrifennu at Mr Drakeford yn dweud bod angen diswyddo Mr Gething er mwyn "adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd".

    Ond wrth siarad ar BBC Radio Wales y bore 'ma dywedodd y Prif Weinidog mai ymddiheuriad y gweinidog oedd "diwedd y mater".

    "Rydyn ni angen i'n gweinidog iechyd ni fod yn canolbwyntio'n llwyr ar y gwaith hanfodol mae e wedi bod yn ei wneud i'n helpu ni i gyd drwy'r argyfwng yma," meddai.

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Doedd Mr Gething heb sylweddoli fod ei feicroffon dal ymlaen pan wnaeth y sylwadau

  9. 'Mae'n drysau ni dal ar agor, ni moyn estyn llaw'wedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Elusen gyffuriau yn gweld cwymp o 71% yn y nifer sydd yn dod atyn nhw am gymorth.

    Read More
  10. Coleg nyrsio'n galw am fwy o brofionwedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    BBC Radio Wales

    Mae cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru wedi dweud nad yw nifer y profion Covid-19 yng Nghymru "unrhyw le'n agos i ble rydyn ni eisiau iddyn nhw fod".

    Wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Helen Whyley mai "nifer gymharol fechan" o staff cartrefi gofal oedd yn cael eu profi mewn gwirionedd.

    Ychwanegod y byddai'n "anodd iawn" llacio'r cyfyngiadau presennol os nad oedd y llywodraeth yn deall "darlun o'r feirws o fewn ein cymunedau".

  11. 'Dwi wedi bod i'r banc bwyd am y tro cyntaf...'wedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Miloedd yn teimlo cost ariannol coronafeirws wrth iddynt weld llai yn eu tâl misol am y tro cyntaf.

    Read More
  12. Ergyd i werthiant siopauwedi ei gyhoeddi 08:18 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Fe wnaeth gwerthiant mewn siopau ddisgyn 5.1% fis diwethaf wrth i'r cyfyngiadau Covid-19 frathu, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau.

    Dydy hi ddim syndod efallai i weld mai siopau dillad oedd ymhlith y rhai gafodd eu taro waethaf, gyda chwymp o 34.8% o'i gymharu â mis Chwefror.

    Ar y llaw arall roedd cynnydd o 10.4% yng ngwerthiant archfarchnadoedd bwyd - yr uchaf ar gyfnod.

    strydoedd gwagFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Cartref nyrsio: Nifer 'trychinebus' o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 08:08 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Roedd 14 o breswylwyr oedrannus y cartref yn ardal Casnewydd yn dioddef o symptomau Covid-19.

    Read More
  14. Cryfhau rhai cyfyngiadau Covid-19wedi ei gyhoeddi 08:03 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Bydd rhai o'r cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu cryfhau i "fynd i'r afael â heriau sy'n cael eu hwynebu mewn rhannau o'r wlad", yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

    Dywedodd y bydd y rheoliadau newydd yn ei gwneud hi'n amlwg na all pobl aros i ffwrdd o'r man lle maen nhw'n byw.

    Y bwriad yw atal y defnydd o ail gartrefi a darbwyllo pobl rhag gwneud ymarfer corff y tu allan i'w hardal leol.

    Ond fe fydd y llywodraeth hefyd yn cyhoeddi fframwaith yn ddiweddarach ar gyfer llacio'r cyfyngiadau.

    Mark Drakeford
  15. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da i chi, a chroeso i'r llif byw ble byddwn ni unwaith eto'n dod â'r newyddion diweddaraf am coronafeirws i chi o Gymru a thu hwnt.

    Fe ddown ni â phrif benawdau'r bore i chi yn y man.