Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MorePrif swyddog meddygol Cymru wedi galw am fwy o ddealltwriaeth am sut mae'r coronafeirws wedi effeithio ar wledydd eraill
Rhybudd arbenigwyr y bydd angen darparu cymorth hirdymor i gleifion wedi iddyn nhw wella o'r feirws
Mwyafrif o blaid cyfyngiadau Covid-19, medd arolwg
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreDr Ifan Morgan Jones sy'n trafod datganoli, democratiaeth a'r wasg
Read MorePrif swyddog meddygol Cymru yn galw am system fwy gwyddonol i ddeall effaith coronafeirws ar wledydd eraill.
Read MoreBBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd ben bore fory wrth gwrs, ac fe allwch weld unrhyw straeon perthnasol ar ein hafan yn y cyfamser.
Diolch o galon am ddarllen, a hwyl fawr i chi am y tro.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth ymateb i'r llythyr gan 12 AS Ceidwadol am y gwahaniaethau mewn profi rhwng Cymru a Lloegr yn gynharach, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y polisi yng Nghymru wedi ei seilio ar dystiolaeth wyddonol.
Dywedodd y llywodraeth bod llythyr yr ASau yn cynnwys "camgymeriadau ffeithiol" a "chamliwiad".
Wrth ateb cwestiwn tua diwedd y gynhadledd, fe ddywedodd Boris Johnson y gallai gwisgo mygydau "brofi'n ddefnyddiol" wrth i'r DU ddechrau gweld llacio'r cyfyngiadau.
Mae hyn yn groes i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei ddweud hyd yma.
Mae 12 o Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru wedi datgan eu "pryder" am yr "anghyfartaledd" mewn profion Covid-19 yng Nghymru a Lloegr.
Nid yw Cymru wedi dilyn trywydd Lloegr drwy brofi pawb dros 65 oed, staff a phreswylwyr cartrefi gofal a phobl sy'n gorfod gadael eu cartrefi i weithio.
Yn ôl yr aelodau, bydd y gwahaniaethau'n golygu y bydd pobl "yn dal haint Covid yn ddiangen".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw, ond yn gynharach heddiw fe ddywedodd prif swyddog meddygol Cymru mai'r ffordd i fynd i'r afael â coronafeirws yw "dilyn y wyddoniaeth".
Wrth siarad yn y gynhadledd newyddion, dywedodd prif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, bod angen ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd cyn ystyried llacio'r cyfyngiadau.
Dywedodd fod llawer o bobl wedi marw, nid yn unig oherwydd coronafeirws ond oherwydd nad yw'r gallu gan y GIG i gynnal gwasanaethau arferol.
Cyn llacio mesurau, bydd angen sicrhau bod y GIG yn gallu ymdopi gyda nifer y cleifion Covid-19, ond hefyd yn medru ailgychwyn gwasanaethau pwysig eraill.
Yn ôl Mr Johnson, y ffigwr R yw'r un pwysig wrth ystyried y ffordd ymlaen, sef y nifer o bobl sy'n cael eu heintio gan berson sydd â'r feirws.
Pan ddechreuodd y pandemig, roedd R = 3 mwy neu lai - sef bod un person gyda coronafeirws yn heintio tri pherson arall.
Bellach mae R yn llai nag un - tua 0.9 oherwydd y cyfyngiadau yn bennaf - ond mae angen cael y ffigwr yna i lawr eto.
Eglurodd Mr Johnson fod llawer o waith wedi ei wneud i ystyried sut i ailagor pethau fel ysgolion ac ati, ond ei bod yn bwysig nad oedd risg o gael "ail sbigyn" o'r haint drwy wneud hynny.
Dywedodd Mr Johnson fod y DU wedi mynd "heibio'r copa Covid-19", ac y byddai'n amlinellu cynlluniau yr wythnos nesaf o sut y mae'n bwriadu dechrau llacio'r cyfyngiadau.
Mae'r prif weinidog Boris Johnson yn arwain y gynhadledd newyddion ddyddiol am y tro cyntaf ers ei salwch.
Ei dasg gyntaf oedd cyhoeddi bod 674 o farwolaethau ychwanegol wedi eu cofnodi ar draws y DU oherwydd coronafeirws.
Mae aelodau Côr Orpheus Treforys wedi cynnal perfformiad arbennig yn ddiweddar i nodi 85 mlynedd o'r grŵp.
Fe wnaeth 59 o aelodau wisgo yn eu siwtiau gwyn i nodi'r garreg filltir yn hanes y côr, a hynny dros y we gan nad ydyn nhw'n gallu cyfarfod yn gorfforol ar hyn o bryd.
Ymhlith yr aelodau mae Wynford John, wnaeth ymuno yn 1959 yn 19 oed - sy'n golygu ei fod wedi canu dan arweiniad pob un o'r cyfarwyddwyr yn hanes y grŵp.
Cystadleuaeth griced newydd The Hundred, fydd yn cynnwys Tân Cymreig, wedi ei ohirio tan 2021.
Read MoreHeddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud bod dyn 39 oed wedi ei garcharu heddiw am ymosod ar heddwas drwy dagu a phoeri.
Dywedodd yr heddlu bod Ricky Jeffs o Fae Colwyn wedi ei ddedfrydu i 26 wythnos, gan ddweud bod "tagu a phoeri yn fwriadol yn warthus".
Mae'n ddydd Iau, ac felly am 20:00 heno fe fydd llawer yn cymeradwyo i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr iechyd a gofal.
Ond mae'n ymddangos fod rhai wedi defnyddio tân gwyllt yn y dathliad wythnosol, ac mae'r Gwasanaeth Tân yn gofyn yn garedig i bobl beidio gwneud hynny.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Hefyd fel rhan o'r arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dywedodd:
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae tua dwy ran o dair o bobl yn meddwl bod y cyfyngiadau ynysu sydd mewn grym ar hyn o bryd yn deg, yn ôl arolwg Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Yn ogystal â rheoli a monitro lledaeniad y feirws, mae ICC wedi bod yn cynnal arolygon wythnosol.
Dywedodd 67% o bobl bod y cyfyngiadau "yn iawn fwy neu lai" rhwng Ebrill 20-26.
Roedd lefelau uchel o gefnogaeth a hyder yn y gwasanaeth iechyd, ond dywedodd 19% eu bod yn pryderu am eu hiechyd meddwl.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod bron i 300 o ddirwyon wedi cael eu rhoi gan yr heddlu yng Nghymru rhwng 27 Mawrth a 27 Ebrill am dorri'r rheolau sy'n ein cyfyngau ar hyn o bryd.
Dyma'r ffigyrau fesul ardal: