Crynodeb

  • Prif swyddog meddygol Cymru wedi galw am fwy o ddealltwriaeth am sut mae'r coronafeirws wedi effeithio ar wledydd eraill

  • Rhybudd arbenigwyr y bydd angen darparu cymorth hirdymor i gleifion wedi iddyn nhw wella o'r feirws

  • Mwyafrif o blaid cyfyngiadau Covid-19, medd arolwg

  1. Rheithgorau llai yn bosibwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Today Programme
    BBC Radio 4

    Efallai y bydd rheithgorau llai ac achosion rhithwir yn angenrheidiol wedi Covid-19 er mwyn i achosion llys cyfreithiol allu ail ddechrau, medd yr Arglwydd Brif Ustus.

    Wrth siarad ar raglen Today Radio 4, dywedodd yr Arglwydd Burnett bod angen edrych ar “fesurau radical” ac y byddai'n cefnogi unrhyw fesurau fyddai'n golygu y byddai achosion yn gallu digwydd yn saff.

    Yr awgrym yw bod angen ail gychwyn achosion cyn gynted â phosib am fod yna filoedd sydd heb eu clywed eto yng Nghymru a Lloegr.

    Cafodd achosion lle mae rheithgor yn bresennol eu hoedi ar 23 Mawrth.

  2. Ailddechrau rygbi 'ddim yn fater syml' medd Pivacwedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Lles chwaraewyr fydd y flaenoriaeth unwaith y bydd rygbi'n gallu aildechrau, medd hyfforddwr Cymru.

    Read More
  3. Mesurau newydd i siopwyrwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Wales Online

    Mae'r ffordd rydym ni yn siopa am fwyd wedi gweddnewid ers y pandemig.

    Ym mhob archfarchnad mae yna fesurau wedi eu cyflwyno er mwyn ceisio cadw cwsmeriaid yn saff.

    Ymhlith y mesurau newydd mae:

    • Sainsbury's wedi newid eu horiau agor;
    • Lidl wedi cyflwyno system lle mae modd gwybod pryd yw'r adeg tawelaf i siopa;
    • Tesco wedi dweud os yw hi yn oer iawn neu yn glawio efallai y bydd yna ofyn i bobl aros yn eu ceir tra mewn ciw.
    Bag o fwydFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Bywyd dan y cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    BBC Wales News

    Mae dau ffotograffydd wedi bod wrthi yn tynnu lluniau o bobl yn ystod y pandemig.

    Mae'r lluniau yn adlewyrchu sut mae bywyd wedi newid i bob un ohonom ni.

    Phoebe ac Anest sydd yn ffrindiau gorau ac yn byw drws nesaf i'w gilyddFfynhonnell y llun, KATIE BARRETT
  5. Galw am ailagor canolfannau ailgylchuwedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Daily Post

    Dyw hi ddim yn debygol y bydd canolfannau ailgylchu yn ailagor, dolen allanol tan fod y cyfyngiadau sydd yn eu lle yn cael eu codi.

    Mae cynnydd wedi bod mewn tipio anghyfreithlon yn y gogledd.

    Yn sgil hynny mae rhai wedi bod yn gofyn i gynghorau agor canolfannau lle mae modd ailgylchu gwastraff a thipio fel sydd ar fin digwydd mewn rhai ardaloedd yn Lloegr.

    Ond dyw cynghorau ddim yn ystyried gwneud hyn, medd y Daily Post, nes bod canllawiau presennol Llywodraeth Cymru yn newid.

  6. Gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf ar y 'trywydd iawn'wedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Flwyddyn ers adroddiad damniol, mae gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd yn gwella yn ôl arbenigwyr.

    Read More
  7. 'Rhai prifysgolion mewn sefyllfa gwell nag eraill'wedi ei gyhoeddi 09:47 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    "Mae yna awydd gan fyfyrwyr i fynd i brifysgol ond y cwestiwn mawr fydd i ble byddan nhw'n mynd? Does dim unrhyw uchafswm gan unrhyw brifysgol felly fe all rhai prifysgolion ddenu myfyrwyr na fyddai'n dod atyn nhw fel arfer a phrifysgolion eraill wedyn ar eu colled," ychwanegodd Syr Deian.

    "Mae cronfeydd ariannol prifysgolion Cymru yn amrywio yn enfawr.

    "Mae Caerdydd, fel mae'r is-ganghellor Colin Riordan yn ei ddweud, yn debygol o golli lot o arian y flwyddyn nesa.

    "Ond yn ôl yr ystadegau mae ganddyn nhw tua £400m o adnoddau y gellir eu hariannu dros gyfnod - mae hynny yn wahanol iawn i sefyllfa prifysgolion eraill yng Nghymru fel Glyndŵr, Met Caerdydd neu Aberystwyth ac yn y blaen. Mae ganddyn nhw dipyn llai o arian wrth gefn felly mae gan rai prifysgolion y gallu i wynebu hyn yn well nag eraill."

  8. Sefyllfa bryderus i brifysgolion Cymruwedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd adroddiad y gallai prifysgolion Cymru wynebu gostyngiad o bron i £100m yn eu hincwm o ganlyniad i bandemig coronafeirws.

    Mae astudiaeth Undeb Prifysgol a Choleg Cymru hefyd yn rhybuddio y gall prifysgolion weld gostyngiad o 13,000 yn niferoedd eu myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

    Ar y Post Cyntaf heddiw, dywedodd yr Athro Syr Deian Hopkin, cyn is-ganghellor Prifysgol y South Bank yn Llundain ac ymgynghorydd addysg uwch, nad yw'r ffigyrau yn ei synnu.

    "Mae llawer ohonom ni wedi bod yn archwilio i hyn ers dechrau'r cyfnod yma. Mae'r ystadegau yn eithaf dirfawr," meddai.

    "Ar un olwg mae yna ddigon o arian yn y sector addysg uwch, £20m o adnoddau ar gael dros gyfnod o flwyddyn neu flwyddyn a hanner. Ond mae'n amrywio yn enfawr ac mae'r adroddiad yma yn darogan y bydd nifer fawr o fyfyrwyr o Brydain yn ogystal â thramor yn penderfynu gohirio neu beidio dod o gwbl i brifysgol."

  9. Covid-19: Tarfu ar waith codi arian clwb pêl-droedwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Mae clwb pêl-droed Llanuwchllyn yn brin o £10,000 ar gyfer gwelliannau hanfodol.

    Read More
  10. Captain Tom yn 100 oedwedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Mae Captain Tom Moore - sydd wedi cyffwrdd calonnau miliynau o bobl wedi iddo godi £29m i'r gwasanaeth iechyd drwy gerdded o gwmpas ei ardd nifer o weithiau - yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed heddiw.

    Mae wedi cael ei wneud yn gyrnol anrhydeddus, wedi derbyn miloedd o gardiau pen-blwydd - gan gynnwys un gan y Frenhines - ac mae wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau Prydeinig gyda'i fersiwn o 'You'll Never Walk Alone' gyda'r canwr Michael Ball. Ddim yn ddrwg o gwbl!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Pum enghraifft o dorri cyfyngiadau teithio yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae swyddogion Heddlu'r Gogledd yn ardaloedd Bangor a Bethesda wedi rhoi enghreifftiau pellach ar eu tudalen Facebook o bobl yn torri'r cyfyngiadau teithio presennol.

    Maen nhw'n cynnwys "dynes o Fanceinion a deithiodd i Ddyffryn Ogwen gyda'i phlant 'i leddfu diflastod'".

    Cafodd dyn o Lerpwl "a ddywedodd wrth geidwad parc yn Eryri nad oedd yn hidio am y cyfyngiadau a'i fod am fynd am dro yn y parc cenedlaethol" ei stopio gan y llu ym Modelwyddan.

    Bu'n rhaid i'r heddlu hefyd "gael gair gyda dyn o Fangor am wneud sawl taith ddiangen ar yr un diwrnod".

    "Rydan ni hefyd wedi stopio tacsi oedd, yn ddiarwybod, wedi codi dau deithiwr sy'n byw mewn cyfeiriadau gwahanol. Roeddan nhw wedi penderfynu eu bod yn colli'i gilydd gormod ac am dorri'r cyfyngiadau er mwyn bod gyda'i gilydd."

  12. Huw Edwards 'wedi cael Covid-19'wedi ei gyhoeddi 08:39 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Mae'r newyddiadurwr a darlledwr Huw Edwards wedi datgelu ei fod wedi dioddef cyfnod o salwch o'r gwaith am dair wythnos ar ôl dioddef yr hyn y mae'n ei amau oedd coronafeirws.

    Wrth ysgrifennu yng nghylchgrawn Barn, dolen allanol, dywedodd ei fod wedi datblygu symptomau tra'n cerdded yng Nghaint ganol fis Mawrth, cyn i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym.

    Er na chafodd ei brofi am yr haint, dywedodd fod meddyg oedd yn ei drin ar y pryd "yn gwbl argyhoeddedig mai Covid-19 oedd wrth wraidd y peth".

    Darllenwch y stori yma.

    Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Anfonwch eich cwestiynauwedi ei gyhoeddi 08:24 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Ein prif stori ni y bore 'ma...wedi ei gyhoeddi 08:17 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Bydd disgyblion yng Nghymru sydd heb declynnau i fynd ar y we o adref yn cael gliniaduron a wi-fi symudol 4G dan gynllun newydd gwerth £3m.

    Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams mai'r bwriad oedd cynorthwyo'r rheiny sydd "dan anfantais digidol" yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Fe fydd cynghorau'n cael defnyddio'r arian i ddarparu teclynnau fel gliniaduron a thabledi i ddisgyblion.

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    gliniadurFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020

    Diolch am ymuno efo ni bore 'ma, ar ddiwrnod olaf mis Ebrill.

    Arhoswch efo ni drwy gydol y dydd - neu dewch yn ôl atom ni bob hyn a hyn - wrth i ni ddod â'r newyddion diweddaraf i chi fel mae pethau'n datblygu.