Hufen iâ am ddim i weithwyr hanfodol yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill 2020
Yn lle gwastraffu'r cynnyrch, penderfynodd y cwmni mai'r peth gorau fyddai dosbarthu'r hufen iâ i weithwyr.
Read MorePrif swyddog meddygol Cymru wedi galw am fwy o ddealltwriaeth am sut mae'r coronafeirws wedi effeithio ar wledydd eraill
Rhybudd arbenigwyr y bydd angen darparu cymorth hirdymor i gleifion wedi iddyn nhw wella o'r feirws
Mwyafrif o blaid cyfyngiadau Covid-19, medd arolwg
Yn lle gwastraffu'r cynnyrch, penderfynodd y cwmni mai'r peth gorau fyddai dosbarthu'r hufen iâ i weithwyr.
Read MoreUrdd Gobaith Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae 22 o bobl gyda Covid-19 wedi marw yn y 24 awr diwethaf yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae cyfanswm y marwolaethau, meddai ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, bellach yn 908.
Ond yn ôl ffigyrau y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae'r ffigwr yna eisoes wedi mynd heibio 1,000.
Roedd cyfanswm o 1,016 marwolaeth yn gysylltiedig â'r haint wedi digwydd erbyn 17 Ebrill a'u cofnodi erbyn 25 Ebrill.
Mae hynny'n uwch na ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei fod yn cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, gan gynnwys adref neu mewn cartrefi gofal.
BBC Sport Wales
Mae cyn-amddiffynnwr Cymru wedi dweud ei fod yn "ffodus" o fod wedi gwella ar ôl dal Covid-19.
Mae Gavin Maguire, 52 oed, bellach yn gweithio mewn ysbyty yn Swindon yn dilyn cyfnodau gyda Queens Park Rangers a Portsmouth, pan chwaraeodd saith gwaith dros Gymru.
Dywedodd: "Pan 'dy chi'n ei brofi eich hunain 'dy chi'n deall sut ei fod wedi lladd cymaint o bobl oherwydd dydy o ddim yn brofiad braf o gwbl."
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru'n darparu mygydau i'r cyhoedd "oni bai fod tystiolaeth gref iawn mai'r dyna'r peth cywir i'w wneud".
Yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor Cynulliad, dywedodd Vaughan Gething na ddylai unrhyw un sydd â symptomau fod allan o'u cartrefi beth bynnag.
Dywedodd hefyd bod posibilrwydd i fasgiau arwain at ddangos rhagfarn petai'r llywodraeth yn cynghori'n swyddogol am eu defnydd.
"Os ydy rhywun yn mynd ar fws neu i siopa, a ddim yn gwisgo mwgwd, dwi'n poeni am ymateb pobl eraill i hynny," meddai.
"A dwi'n poeni'n benodol am ymateb pobl eraill i rywun sydd, er enghraifft, yn edrych fel fi. Sy'n gwneud ei siopa neu ar fws, a bydd cyfle i ragfarn ddod i'r amlwg am resymau gwahanol."
BBC Wales News
Mae 'na £1m ar gael i un person lwcus brynodd docyn loteri yng Ngheredigion yn gynharach eleni.
Mae Camelot, sy'n rheoli'r loteri, am i bobl ddefnyddio eu hamser yn ynysu i chwilio yng nghefn droriau a chypyrddau rhag i rywun fethu allan ar yr arian!
Cafodd y tocyn EuroMillions ei brynu ar 7 Chwefror.
Mae Dr Atherton wedi mynnu mai'r ffordd i fynd i'r afael â coronafeirws yng Nghymru yw "dilyn y wyddoniaeth".
Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon i beidio dilyn polisi Lloegr i brofi pob preswylydd a staff mewn cartrefi gofal.
Dim ond preswylwyr a staff sydd â symptomau y mae GIG Cymru yn eu profi.
Dywedodd Dr Atherton mai dim ond dau ddiwrnod yn ôl yr oedd y newidiadau yn Lloegr wedi digwydd "ac mae angen i ni edrych ar hynny a beth fydd effeithiau tebygol y rheini".
Gwrthododd Dr Atherton roi manylion pendant ar sut y bydd Cymru yn cadw cofnod o brofion y feirws yn y gymuned, gan ddweud bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu cynlluniau.
Dywedodd mai'r neges bwysig oedd os oes gan bobl symptomau y dylen nhw aros gartref ac hunan ynysu.
Dywedodd fod swyddogion yn siarad â chydweithwyr yn Lloegr i ddeall gan gynlluniau peilot yno.
Ychwanegodd: “Mae’r manylion ynglŷn â sut yn union y byddwn yn cadw trac eto i’w gweld ar hyn o bryd.”
Er gwaethaf rhywfaint o "newyddion da", dywedodd Dr Atherton fod yna "dro yn y gynffon".
Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol: "Nid yw'r feirws hwn wedi gorffen gyda ni eto."
Dywedodd fod "risg gwirioneddol, os ydym yn codi'r mesurau yn rhy gynnar neu'n rhy gyflym, y gallai fod adfywiad".
Dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru yn y gynhadledd ddyddiol y bu gostyngiad yn y cyfraddau trosglwyddo coronafeirws yn y gymuned.
"Dros yr wythnosau diwethaf, o ganlyniad i'r ymdrechion y mae pobl yng Nghymru wedi bod yn eu gwneud i gydymffurfio â'r rheolau aros gartref, rydym wedi gweld gostyngiad yn lefel y coronafeirws sy'n cylchredeg yn y gymuned," meddai Dr Frank Atherton.
Ond dywedodd Dr Atherton bod lefelau uwch o drosglwyddo yn parhau mewn "lleoliadau mwy caeedig" gan gynnwys "ysbytai a chartrefi gofal".
Mae modd gwylio'n fyw o 12:30 ar BBC1 ac S4C.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sion Tecwyn fu'n cyfarfod gwirfoddolwyr sy'n helpu pobl Caernarfon drwy'r argyfwng coronafeirws.
Read MoreCaniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae dynes o Rondda Cynon Taf wedi diolch i weithwyr iechyd geisiodd achub bywyd ei gŵr cyn iddo farw o Covid-19 yr wythnos diwethaf.
Bu farw Geoff Morgan, 73, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ôl dal y feirws ddiwedd Mawrth.
Dywedodd Sally Morgan fod y diwrnod y siaradodd â'i gŵr am y tro olaf union 57 mlynedd ers iddyn nhw gyfarfod gyntaf.
"Byddai Geoff wedi bod yn 74 yr wythnos yma, ac roedd e'n ffit ac yn iach a 'dy ni dal mewn sioc.
"Roedd pob nyrs yn wych drwy'r holl beth, yn ein cysuro ni er nad oedden ni'n gallu ei weld.
"Ffoniodd y staff am 01:30 ddydd Mawrth i ddweud ei fod wedi mynd yn dawel, bod y nyrsys yn dal ei law ar y pryd a'i fod wedi cael y gofal orau - ac rydyn ni wir yn credu hynny."
Y ffotograffydd sydd wedi troi at gofnodi bywyd dan y 'lockdown' yn ei hardal
Read MoreThe Guardian
Mae crwneriaid sy'n edrych ar achosion marwolaeth gweithwyr iechyd wedi cael gorchymyn i beidio craffu ar fethiannau yn y ddarpariaeth offer PPE, dolen allanol, yn ôl y Guardian.
Mae’r prif grwner ar gyfer Cymru a Lloegr, Mark Lucraft, wedi cyhoeddi canllawiau sy’n dweud nad cwest yw’r lle i benderfynu “os oedd polisïau cyffredinol digonol a threfniadau yn eu lle ar gyfer darparu PPE i weithwyr iechyd.”
Yn ôl Llafur mae'r newyddion yn “bryderus iawn”.
meddwl.org
Mae rŵan yn medru bod yn gyfnod anodd i nifer.
Ond mae gan wefan Meddwl awgrymiadau ar sut i edrych ar ôl ein lles meddyliol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd Dr Atherton ei fod wedi trafod gyda chyd-weithwyr yn Ne Korea, Yr Almaen a Sweden hyd yn hyn.
"Mae'n hollbwysig gan fod gan bob gwlad ymateb ychydig yn wahanol."
Dywedodd ei fod o hefyd yn rhannu profiadau o Gymru: "Dyna pam dwi'n cael y sgyrsiau yma, er mwyn dangos yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru a siarad am y problemau ond hefyd y llwyddiannau."
Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi galw am greu system well er mwyn deall sut mae Covid-19 wedi effeithio ar wledydd eraill.
Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor Cynulliad y bore 'ma, dywedodd Dr Frank Atherton y byddai gwell dealltwriaeth yn gymorth i ymateb Cymru i'r haint.
"Dwi'n teimlo bod angen gwell trosolwg gwyddonol o'r hyn sy'n digwydd yn rhyngwladol," meddai.
"Mae'n fater dwi wedi ei godi gyda swyddogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac maen nhw'n edrych ar ffyrdd o wneud hynny."