Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreTensiwn yn cynyddu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU wrth i Drakeford feirniadu "dryswch" negeseuon
Gweinidog addysg Cymru yn dweud na fydd y sefyllfa bresennol yn newid i ysgolion ar 1 Mehefin
Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim yn "gyfarwydd" â tharged profion y llywodraeth
80% o fusnesau yn y sectorau llety, bwyd ac adloniant wedi cau ym mis Ebrill
Diolch i ofalwyr a gweithwyr allweddol ar ddiwrnod Arwyr Cymru
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreA dyna ni am heddiw.
Ar ddiwrnod Arwyr Cymru y BBC, mae’r arlunydd Cara Davies wedi bod yn dathlu gweithwyr y rheng flaen mewn cyfres o luniau arbennig.
Diolch i holl #arwyrcymru, dolen allanol sy’n gweithio’n ddiflino i’n cadw ni’n saff ac yn iach.
Bydd newyddion diweddaraf ddydd Iau yn parhau ar wefan Cymru Fyw a'r llif newyddion yn ôl bore fory.
Diolch am ddarllen.
Yn y gynhadledd ddyddiol yn Downing Street, ychwanegodd yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab bod cyfradd yr haint bellach rhwng 0.5 a 0.9.
"Oherwydd ein bod wedi bod yn gadarn wrth weithredu cyfyngiadau gallwn ddechrau meddwl am y cam nesaf," meddai.
Cyngor Caerdydd
Mae ymestyn palmentydd i heolydd, creu llwybrau beiciau dros dro, tynnu dodrefn stryd, cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth cyflymder ac ailgynllunio’r gofod cyhoeddus o amgylch canolfannau siopa cymunedol ymhlith y syniadau sy'n cael eu cynnig gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’r ymateb i COVID-19.
Dywedodd llefarydd: "Gan fod disgwyl y bydd y cyfyngiadau cloi yn cael eu llacio yr wythnos nesaf, mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i gyflwyno nifer o gynlluniau peilot sydd â'r nod o gadw'r cyhoedd yn ddiogel a sicrhau ei bod yn bosibl ymbellhau’n gymdeithasol mewn mannau cyhoeddus."
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Y disgwyl yw y bydd ymbellhau cymdeithasol yn rhan o’r ‘normal newydd’ am beth amser, ac mae hyn yn creu her sylweddol i drigolion a'r awdurdod lleol.
"Chafodd palmentydd y ddinas mo'u cynllunio i ganiatáu pellter o ddau fetr rhwng pobl eraill, felly bydd yn rhaid addasu gofod cyhoeddus i sicrhau y gellir cynnal ymbellhau cymdeithasol wrth i'r ddinas ddechrau ail-agor yn raddol ar gyfer busnes."
Ffordd Wellfield fydd yn cael ei haddasu gyntaf.
Cyngor Ynys Môn
Mae yfory (Dydd Gwener, 8 Mai) yn ŵyl y banc yn y DU i nodi 75 mlynedd ers diwedd bron i chwe blynedd o ryfel yn Ewrop.
Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE Day) yn ddyddiad sy’n cael ei nodi’n draddodiadol gyda dathliadau ar draws y DU.
Bu’n rhaid gohirio cynlluniau cenedlaethol a lleol i nodi a dathlu’r garreg filltir oherwydd sefyllfa bresennol Covid-19.
"Ond mae awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru yn dal i annog trigolion i gymryd rhan yn y diwrnod ac i nodi a dathlu’r diwrnod yn ddiogel o’u cartrefi," meddai llefarydd.
Mae nifer y rhai sydd wedi marw o haint coronafeirws ar draws y DU bellach yn 30,615 wedi i 539 arall farw ar ôl cael prawf positif.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, y cyhoeddiad yn ystod cynhadledd ddyddiol Downing Street.
Cyngor Casnewydd
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn agor eu parciau ddydd Llun nesaf.
Mae parciau'r cyngor wedi bod ar gau ers cyhoeddi'r cyfyngiadau ac fe fyddant yn parhau ar gau dros benwythnos Gŵyl y Banc ond o ddydd Llun ymlaen byddant ar agor o 8am tan 4pm.
Bydd rhannau o'r parciau yn parhau i fod ar gau, ee mannau chwarae, toiledau cyhoeddus, ystafelloedd newid a bydd rheolau pellhau cymdeithasol yn parhau mewn grym.
Mae'r cyngor yn rhybuddio na ddylid gwneud teithiau diangen.
Wrth edrych ymlaen at ddydd Sul mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud y bydd llywodraeth San Steffan yn symud ymlaen gyda'r "gofal eithaf" wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau.
Daw ei sylwadau wedi i'r Alban gyhoeddi y byddan nhw yn parhau â'r cyfyngiadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod adroddiadau am yr hyn sy'n debygol o gael ei gyhoeddi "yn ddryslyd".
Bydd Boris Johnson yn gwneud ei gyhoeddiad am 19:00 ddydd Sul.
Mae disgwyl i nifer o'r cyfyngiadau barhau ond bydd rhywfaint o lacio ar y neges "arhoswch adref" - ac mae'n debygol y bydd mwy o weithgareddau awyr agored yn cael eu caniatáu.
BBC Radio Cymru
Bydd newyddion y dydd i'w glywed ar y Post Prynhawn yng nghwmni Nia Thomas cyn hir.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ers cyhoeddi'r pandemig yn ail wythnos mis Mawrth, mae 329 claf sydd wedi profi'n bositif am Covid-19 wedi eu rhyddhau o ysbytai yng ngogledd Cymru, yn ôl y bwrdd iechyd yno.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi diolch i bobl ar draws y gogledd am helpu'r GIG i ymdopi ag argyfwng coronafeirws.
Ond gyda phenwythnos Gŵyl y Banc yn nesáu, mae'r bwrdd iechyd wedi rhybuddio ei bod hi'n rhy gynnar i bobl roi'r gorau i ddilyn canllawiau'r llywodraeth.
Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Mark Polin: "Mae eich cymorth hefyd yn golygu nad oes angen defnyddio ein tri Ysbyty Enfys, sydd wedi eu sefydlu'n sydyn i'n helpu ni i gwrdd â'r ymchwydd enfawr yn y galw, am ychydig o wythnosau.
"Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn cael anhawster â'r cyfyngiadau symud, ond mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddilyn arweiniad y llywodraeth."
BBC Radio Cymru
Mae'n ddiwrnod Arwyr Cymru - diwrnod sydd wedi cael ei neilltuo gan y BBC i ddiolch i weithwyr rheng flaen yn ystod argyfwng coronafeirws.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Ceredigion
Mae siop barbwr yng Ngheredigion wedi cael hysbysiad gwahardd ar ôl parhau i ddefnyddio ei safle i ddarparu gwasanaethau er gwaethaf y cyfnyngiadau yn sgil coronafeirws.
Gwelodd swyddog o dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion, nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd, wasanaethau barbwr yn cael eu darparu yn y sir ddydd Sul, 3 Mai, a hynny "yng ngolwg llawn y cyhoedd", meddai'r awdurdod lleol.
Mae wedi bod yn ofynnol i siopau barbwr gau oddi ar ddiwedd mis Mawrth. Dywed y cyngor fod archwiliadau wedi cadarnhau bod y rheolau'n "cael eu dilyn yn helaeth ledled y sector".
Kirsty Williams
Gweinidog Addysg Cymru
Ychwanegodd: "Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf a byddwn ond yn ystyried cael mwy o ddisgyblion a staff mewn ysgolion pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Wrth gwrs, bydd angen i ni sicrhau y gellir cadw at ofynion cadw pellter cymdeithasol."
Dywed y gweinidog addysg ei bod wedi ysgrifennu at yr holl brif undebau athrawon yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, am ei pryderon y bydd ysgolion yn agor i'r rhan fwyaf o ddisgyblion cyn ei bod yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny.
Yr wythnos nesaf, bydd Ms Williams yn cyhoeddi dogfen weithio sy'n nodi mwy am y syniadau, y gwaith cynllunio a'r modelu ar gyfer y camau nesaf i addysg yng Nghymru, gan gynnwys gofal plant ac addysg bellach.
Bydd y ddogfen, meddai'r llywodraeth, yn cynnwys sut y bydd "penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud a phwy fydd yn darparu cyngor ar y penderfyniadau hynny".
Kirsty Williams
Gweinidog Addysg Cymru
Mae Kirsty Williams, gweinidog addysg Cymru wedi dweud na fydd y sefyllfa bresennol yn newid i ysgolion ar 1 Mehefin.
Mewn neges fideo ar ei chyfrif Twitter, dolen allanol, dywedodd: "Fel y gwyddoch, mae llawer o ddyfalu ynglŷn â'r hyn a allai gael ei gyhoeddi o bosib ynghylch ysgolion yn Lloegr y penwythnos hwn.
"Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, byddwch bob amser yn clywed gennyf yn uniongyrchol am y penderfyniadau a wnawn yng Nghymru ar gyfer ein disgyblion, ein rhieni a staff yr ysgol.
"Ni fydd y sefyllfa i ysgolion yng Nghymru yn newid ar 1 Mehefin. Rwy’n eich sicrhau y byddwn yn rhoi digon o amser i bawb gynllunio cyn i'r cam nesaf ddechrau.
"Bydd unrhyw benderfyniad i gynyddu gweithrediad ysgolion yn cael ei gyfathrebu ymhell ymlaen llaw.
"Yn y cyfamser, dylai gweithwyr allweddol a'r rhai sydd angen defnyddio ysgolion neu ganolfannau addysg ar gyfer eu plant barhau i wneud hynny."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Tomos Williams wedi byw yn ei lori am wyth wythnos tra'n cludo nwyddau ar draws Ewrop
Read MoreMae 119 o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yng ngharchardai Cymru, yn ôl gweinidog cyfiawnder yn San Steffan.
Wrth ateb cwestiwn gan Blaid Cymru, dywedodd y gweinidog Lucy Frazer bod cyfanswm o 74 o garcharorion a 45 o staff wedi eu heffeithio.
Yng Nghaerdydd mae'r nifer uchaf, ble mae 20 o garcharorion a 10 o staff wedi cael yr haint.
Yn y carchardai eraill:
Bydd dyn ifanc yn rhedeg ei seithfed marathon mewn saith diwrnod yn ddiweddarach, ar ôl gosod her i'w hun i gasglu arian i'r gwasanaeth iechyd.
Dechreuodd Finlay Calderwood, 24 o Bencaenewydd ger Pwllheli, ar ei gamp ddydd Gwener, ac mae'n gobeithio cwblhau'r seithfed marathon heno.
Doedd Finlay erioed wedi rhedeg marathon cyn gosod yr her, a dywedodd ei fod yn "galed iawn".
"Ar raddfa o un i 10 mi faswn i'n deud ei fod o tua wyth neu naw."
Dyma un arall o luniau bendigedig Cara Davies ar ddiwrnod #ArwyrCymru.
Cliciwch i weld mwy o ddarluniau'r artist o Gymru.
Mae rhai cartrefi gofal yn dal i gael trafferthion wrth geisio sicrhau profion Covid-19 i staff a phreswylwyr, yn ôl arweinwyr yn y maes.
Mae hynny er i'r drefn brofi gael ei hymestyn i'w cynnwys yn ddiweddar, meddai Mary Wimbury o Fforwm Gofal Cymru.
Clywodd un o bwyllgorau Senedd Cymru nad yw'r drefn ar lawr gwlad "o reidrwydd yn adlewyrchu'r polisi yn genedlaethol" a bod hynny'n achosi "dryswch a phwysau ychwanegol".