Crynodeb

  • Tensiwn yn cynyddu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU wrth i Drakeford feirniadu "dryswch" negeseuon

  • Gweinidog addysg Cymru yn dweud na fydd y sefyllfa bresennol yn newid i ysgolion ar 1 Mehefin

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim yn "gyfarwydd" â tharged profion y llywodraeth

  • 80% o fusnesau yn y sectorau llety, bwyd ac adloniant wedi cau ym mis Ebrill

  • Diolch i ofalwyr a gweithwyr allweddol ar ddiwrnod Arwyr Cymru

  1. Rhai'n parhau i dorri'r mesurauwedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae'r heddwas yma'n dweud iddo rwystro pobl o Sir Caint a oedd wedi dod am "daith bleser" yn eu car... i Eryri.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Fersiwn newydd o gân enwog i ddiolch i weithwyr allweddolwedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Disgrifiad,

    Syr Bryn Terfel yn canu geiriau newydd y Prifardd Mererid Hopwood i alaw Gwŷr Harlech

    Mae Syr Bryn Terfel, Mererid Hopwood a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi recordio fersiwn newydd o un o ganeuon enwocaf Cymru er mwyn diolch i weithwyr allweddol am eu gwaith yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Mae'r Prifardd Mererid Hopwood wedi ysgrifennu geiriau newydd i Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech fydd i'w clywed am y tro cyntaf ddydd Iau fel rhan o Ddiwrnod Arwyr Cymru BBC Cymru.

    Y clarinetydd Lenny Sayers sydd wedi creu'r trefniant newydd o'r gân ar gyfer aelodau eraill o'r gerddorfa, sydd wedi perfformio'r darn o adref.

  3. 'Mwy nag erioed' yn gweithio gartrefwedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Mae cyfarwyddwr CBI Cymru, sy'n cynrychioli busnesau, y bydd "mwy o bobl nag erioed yn gweithio gartref" pan fydd rheolau ynysu yn cael eu llacio.

    Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Iau, dywedodd Ian Price ei fod yn hollbwysig bod holl wledydd y DU yn dilyn yr un canllawiau, ac y gallai cynlluniau gwahanol dros y DU fod yn niweidiol i fusnesau.

    Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus am yr hyn sy'n cael ei wneud oherwydd y peth olaf 'da ni eisiau ydy disgyn yn ôl."

  4. Beth yw'r heriau wrth agor ysgolion?wedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Wrth i wleidyddion ddechrau edrych at y cyfnod nesaf yn yr ymateb i'r coronafeirws, mae ailagor ysgolion yn un pwnc trafod.

    Mae cael plant yn ôl i'r dosbarth yn cael ei weld fel man cychwyn ar gyfer llacio rhai o'r cyfyngiadau eraill sydd mewn grym ar hyn o bryd.

    Ond beth mae'n ei olygu'n ymarferol? A fydd gan ysgolion ddigon o staff? A sut mae cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol?

    Yn ôl un prifathro, mae angen mwy o wybodaeth ar ysgolion cyn gallu ailagor yn llwyr.

    Meurig Jones
  5. Rhybudd dirwasgiad gan Fanc Lloegrwedi ei gyhoeddi 08:44 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Pwt o newyddion o du allan i Gymru y bore 'ma, ac mae Banc Lloegr wedi rhybuddio y gallai'r coronafeirws arwain at ddirwasgiad dros y DU.

    Mae rhagolygon economaidd y banc yn awgrymu y gallai Covid-19 "leihau swyddi a chyflogau yn ddramatig".

    Y gred yw y bydd yr economi yn crebachu o 14% eleni.

    Banc LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Nifer gwirfoddolwyr wedi dybluwedi ei gyhoeddi 08:33 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Mae nifer y gwirfoddolwyr yng Nghymru wedi dyblu ers dechrau argyfwng coronafeirws gyda dros 30,000 bellach wedi cofrestru.

    Yn ôl ffigyrau Gwirfoddoli Cymru mae 16,600 o'r rhain wedi cofrestru ers 1 Mawrth.

    Ar hyn o bryd mae 6,862 o bobl yn gwirfoddoli, a dywedodd y grŵp bod yr ymateb wedi bod yn "rhyfeddol".

  7. Darluniau diolchwedi ei gyhoeddi 08:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Darlun Cara DaviesFfynhonnell y llun, Cara Davies

    Ar ddiwrnod #ArwyrCymru, mae’r artist Cara Davies wedi rhyddhau casgliad arbennig o luniau sy’n dathlu gweithwyr y rheng flaen.

    "Roedd o'n hawdd i mi gael ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yma o waith gan fod nifer o fy nheulu a ffrindiau yn gweithio ar y rheng flaen," meddai Cara, sy’n byw ym Manceinion ond s’yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn.

    "Dwi'n gweld cymaint o ddewrder ynddyn nhw ac maen nhw'n fy ysbrydoli i gael agwedd bositif mewn amser llawn ansicrwydd.

    "Dwi'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i gyfleu fy nheimlad o ddiolchgarwch i'r holl weithiwyr allweddol trwy gyfrwng y gyfres fach yma o ddarluniau," meddai.

  8. Diwrnod Arwyr Cymruwedi ei gyhoeddi 08:11 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Glyn ENest

    Mae BBC Cymru yn dathlu cyfraniad gweithwyr allweddoll heddiw ar ddiwrnod Arwyr Cymru.

    Un o'r rheiny ydy Jayne Evans, sy'n rheoli cartref gofal Glyn Nest yng Nghastell Newydd Emlyn, ac yn dweud bod ei byd wedi "altro yn llwyr".

    "Mae bywyd wedi newid lot ac yn sydyn - ond ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y 28 ry'n ni'n edrych ar eu hôl yn iach ond hefyd yn hapus."

    Darllenwch fwy am waith Jayne yma, ac os ydych chi am rannu straeon am eich arwyr chi, defnyddiwch #ArwyrCymru.

  9. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 08:04 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Croeso at y llif byw ar 7 Mai, ble gewch chi'r newyddion diweddara' drwy gydol y dydd.