Crynodeb

  • Tensiwn yn cynyddu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU wrth i Drakeford feirniadu "dryswch" negeseuon

  • Gweinidog addysg Cymru yn dweud na fydd y sefyllfa bresennol yn newid i ysgolion ar 1 Mehefin

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim yn "gyfarwydd" â tharged profion y llywodraeth

  • 80% o fusnesau yn y sectorau llety, bwyd ac adloniant wedi cau ym mis Ebrill

  • Diolch i ofalwyr a gweithwyr allweddol ar ddiwrnod Arwyr Cymru

  1. 18 yn rhagor wedi marwwedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 18 yn fwy o bobl wedi marw wedi iddyn nhw gael Covid-19, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Golygai hynny fod 1,062 bellach wedi marw ar ôl cael yr haint.

    Mae 'na 87 o achosion newydd hefyd, gan fynd â'r cyfanswm i 10,851.

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y ffigwr yn debygol o fod yn uwch mewn gwirionedd am nad ydy pawb yn cael eu profi.

    7 Mai
  2. Tipyn o stad: Busnesau Cibyn yn ceisio goroesiwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    O gyhoeddwyr i fecanics a pherfformwyr - y frwydr i barhau â'u gwaith ynghanol yr argyfwng.

    Read More
  3. Arhoswch adref ar ŵyl y bancwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Mae hi'n ŵyl y banc 'fory, ac unwaith eto mae negeseuon clir gan y parciau cenedlaethol a'r heddlu.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cyn-AC yn gadael yr ysbytywedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    William PowellFfynhonnell y llun, @WmPowell2016

    Mae’r cyn-Aelod Cynulliad, William Powell wedi gadael yr ysbyty ar ôl cael ei heintio gyda coronafeirws.

    Cafodd ei gyflwr ei ddisgrifio fel "sefydlog ond yn ddifrifol wael” ym mis Mawrth.

    Ond mae bellach wedi gadael Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ac wedi diolch i'r staff yno am ei drin.

    Roedd yn Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016 ac yn Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn 2019.

  5. Neges aros adref yn parhau dros ŵyl y bancwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Dywedodd Dr Goodall y byddai cyfyngiadau ar symudiadau pobl oherwydd y coronafeirws yn parhau dros benwythnos gŵyl y banc.

    Dywedodd: "Dwi'n meddwl bod rhaid i'r neges ar gyfer y penwythnos yma fod yr un fath - mae'r cyfyngiadau yn parhau mewn grym ar hyn o bryd."

    Daw yn sgil dyfalu y gallai'r cyfyngiadau gael eu llacio rhywfaint yn fuan.

    Ychwanegodd y byddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gwneud datganiad ar y cyfyngiadau pan fo hynny'n briodol.

  6. '50% yn is na'r brig'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Ychwanegodd Dr Goodall fod tua 40% o welyau ysbyty yn wag, gyda 677 o achosion wedi'u cadarnhau yn ysbytai Cymru a 343 o achosion dan amheuaeth.

    Dywedodd fod un o bob pum gwely gofal dwys yn cael ei feddiannu gan bobl sydd â coronafeirws - mae hynny yn 50% yn is na'r brig, meddai.

  7. Nifer sy'n cael eu trin mewn ysbytai'n gostwngwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Mae 2,800 o bobl sydd wedi derbyn triniaeth ysbyty am Covid-19 wedi gwella ac wedi cael eu rhyddhau yn ôl prif weithredwr y GIG yng Nghymru.

    Dywedodd Andrew Goodall bod y nifer sy'n cael eu trin am y feirws gan y GIG yma yn gostwng.

    Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd Dr Goodall fod yr ymateb gan y GIG a gofal cymdeithasol wedi bod yn “rhyfeddol” a’u bod wedi dechrau paratoi gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

    Ond fe gododd bryderon unwaith eto bod yna ffigyrau isel o bobl sy'n mynd i unedau gofal brys, gan rybuddio y gall y GIG wynebu cynydd syweddol petai yna lacio ar y cyfyngiadau presennol.

  8. Y gynhadledd ddyddiol ar fin dechrau...wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae modd gwylio'n fyw ar BBC1 ac S4C hefyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Adroddiadau 'dryslyd' yn y wasg Brydeinigwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn sgil yr hyn maen nhw'n ei alw'n adroddiadau "dryslyd" yn y papurau newydd heddiw.

    Daw yn dilyn adroddiadau y bydd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn llacio rhai o'r cyfyngiadau Covid-19 dros y penwythnos.

    Ond Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar hynny yma.

    Dywedodd datganiad Llywodraeth Cymru bod "peth o'r adroddiadau yn y papurau heddiw yn ddryslyd ac yn creu risg o anfon negeseuon cymysg i bobl dros y DU".

    Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cabinet Cymreig wedi cyfarfod i drafod y cyfyngiadau y bore 'ma, ac y byddant yn trafod eto yn ddiweddarach.

    "Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi penderfyniad y cabinet pan fo'n briodol."

  10. Fideo i Arwyr Cymruwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Ar ddiwrnod Arwyr Cymru ar BBC Cymru, mae disgyblion un o ysgolion Caerdydd wedi paratoi fideo i ddiolch i rai o'r gweithwyr allweddol mewn gwahanol feysydd yn ystod cyfnod y pandemig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Chwaraewyr rhanbarthau i ymuno â'r clybiau?wedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    BBC Sport Wales

    Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru wedi dweud y dylid ystyried blaenoriaethu clybiau Cymru dros y rhanbarthau wrth i'r byd chwaraeon ail-ddechrau yn sgil y coronafeirws.

    Dywedodd Jonathan Davies y gallai'r Pro14 - y gynghrair mae pedwar rhanbarth rygbi Cymru yn rhan ohoni - fod yn un o'r olaf i ddechrau eto oherwydd yr holl deithio rhyngwladol sydd ynghlwm.

    Awgrymodd y gallai rhai o chwaraewyr y rhanbarthau fod yn well yn chwarae i glybiau Cymru - sy'n is yn y pyramid o gynghreiriau - yn y cyfamser.

    Llanelli v Pontypridd
  12. Profion: Llywodraeth Prydain wedi 'camu mewn'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 'na fwy o'r pwyllgor iechyd yn y Senedd yn ein cyrraedd, ble mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn rhoi tystiolaeth.

    Mynnodd Dr Tracey Cooper bod ICC wedi bod mewn trafodaethau gyda'r cwmni fferyllol Roche yn gynharach eleni, gyda'r bwriad o ddarparu 5,000 o brofion Covid-19 i Gymru bob dydd.

    Roedd y cytundeb yn destun ffrae ar ôl i'r cwmni ddatgan nad oedden nhw wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru, yn groes i'r hyn oedd gweinidogion yn ei ddweud.

    Gofynnodd Rhun ap Iorwerth AS os oedd y cytundeb wedi methu "ar ôl i Lywodraeth y DU gamu mewn?".

    Fe wnaeth Dr Cooper gytuno mai dyna oedd wedi digwydd.

    Ychwanegodd bod Cymru yn derbyn tua 19% o gapasiti profion Roche dros y DU erbyn hyn - tua 900 y dydd.

  13. 'Diolch!' Oriel o'ch arwyddion chiwedi ei gyhoeddi 11:20 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Oriel luniau o'r arwyddion creadigol mae pobl Cymru wedi eu creu i ddiolch i weithwyr allweddol

    Read More
  14. 'Elfennau hanfodol' Iechyd Cyhoeddus Cymruwedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Yn rhoi mwy o wybodaeth i bwyllgor yn y Senedd ym Mae Caerdydd, dywedodd Dr Quentin Sandifer bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyngor i'r llywodraeth ar dri phwynt penodol: chwilio am achosion a phobl oedd wedi bod mewn cysylltiad â nhw, monitro effaith y feirws yng Nghymru a phrofi.

    Dywedodd mai dyma oedd yr "elfennau hanfodol".

  15. Ddim ar yr un donfedd?wedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud nad ydy hi'n "gyfarwydd" ag uchelgais wreiddiol Llywodraeth Cymru i gynnal 9,000 o brofion Covid-19 erbyn diwedd mis Ebrill.

    Wrth gael ei holi am bwy oedd yn cynghori gweinidogion ar yr hyn oedd yn ymarferol erbyn diwedd y mis diwethaf, dywedodd Tracey Cooper: "Dydyn ni ddim yn gyfarwydd â'r ffigwr 9,000."

    Cafodd Ms Cooper ei holi dro ar ôl tro am hyn gan aelodau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr.

    Dywedodd y Ceidwadwr Angela Burns ei bod hi "mewn sioc" nad oedd y ffigwr hwnnw wedi'i gyrraedd.

  16. Effaith economaidd yn dod yn fwy amlwgwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Roedd dros 80% o fusnesau yn y sectorau llety, bwyd ac adloniant wedi cau neu atal eu gwaith ym mhythefnos cyntaf Ebrill oherwydd y coronafeirws, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yr ONS yn dangos effaith economaidd y feirws, gyda bron i chwarter holl fusnesau'r DU wedi cau yn llwyr.

    O'r rhai sy'n parhau mewn rhyw ffurf, mae 58% wedi gweld llai o drosiant.

  17. Cyfle i chi gyfrannu hefydwedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Cyngor Caerdydd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Llyfrgell Gen am greu 'cofnod hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio ymgyrch i gasglu profiadau'r Cymry o’r pandemig er mwyn "creu cofnod hanesyddol parhaol o effaith yr argyfwng Covid-19 ar eu bywydau".

    Eu bwriad yw casglu amrywiaeth o eitemau "o bapurau newydd i gyhoeddiadau swyddogol ac archifo cynnwys gwefannau" ac i gael profiadau personol pobl hefyd.

    "Rydym yn gofyn felly i’r cyhoedd rannu eu profiad trwy gyfrwng o’u dewis – yn llythyrau, dyddiaduron, fideos, recordiadau llais neu luniau," meddai datganiad.

    Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma., dolen allanol

  19. Cymunedau'n uno i gynhyrchu sgrybs meddygolwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2020

    Sgrybs

    Mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi bod yn cynhyrchu gwisgoedd 'sgrybs' meddygol ar gyfer y gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

    Ar draws cymunedau Cymru, mae miloedd o setiau o sgrybs yn cael eu gwneud gan bobl sy'n gweithio mewn canolfannau cynhyrchu.

    Yn eu plith mae grŵp o drigolion ym Mae Penrhyn, Llandudno sydd wedi bod yn cyflenwi'r offer gwarchod personol (PPE) ar gyfer gweithwyr allweddol.