Rhybudd gan Ffederasiwn yr Heddluwedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020
Mae llefarydd Cymru Ffederasiwn yr Heddlu wedi rhybuddio pobl i beidio a chael eu drysu gan y gwahaniaethau yn y cyfyngiadau cymdeithasol rhwng Cymru a Lloegr.
Fe wnaeth Mark Bleasdale yr alwad wedi i Lywodraeth Cymru alluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau 'clic a chasglu' archfarchnadoedd fwy nag unwaith y diwrnod. Fe fydd modd i'r cyhoedd ddefnyddion canolfanau ailgylchu, llyfrgelloedd a chanolfanau garddio o hyn allan hefyd, pan fydd y sefydliadau hyn yn ail-agor.
Dywedodd Mr Bleasdale: "Yn wahanol i Loegr, does dim wedi newid yng Nghymru ac fe fydd swyddogion yr heddlu yn parhau i gymryd agwedd gynnil a chefnogol tuag at y cyhoedd.
“Mae Lloegr wedi cymryd agwedd wahanol, ac mae'n rhaid i yrwyr sydd yn bwriadu gyrru i Loegr er mwyn ymarfer corff sylweddoli os ydyn nhw'n cael eu stopio yng Nghymru yn gyntaf, fe fyddant yn torri deddfwriaeth Gymreig ac yn torri'r gyfraith."
Ychwanegodd ei fod yn hanfodol fod pobl yn sylweddoli fod gwahaniaethau'n bodoli bellach yn y rheolau sy'n bodoli yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd hefyd y byddai swyddogion yn parhau gyda'u gwaith diflino i blismona'r sefyllfa yma yng Nghymru.