'Siom, ond dim syndod'wedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020
BBC Radio Wales
Mae Dr Ami Jones yn ymgynghorydd gofal dwys gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac yn feddyg Ambiwlans Awyr, a bu'n siarad ar Radio Wales y bore 'ma am ddigwyddiadau ar noson 'VE Day'.
"Mae'n siom fawr ond dim syndod... roedd lot allan ar y strydoedd yn yfed ac ymgasglu o amgylch ambiwlansys - roeddwn i'n gorfod cerdded drwy bartion er mwyn cyrraedd cleifion.
"Roedd pobl yn ei weld fel cyfle i blygu rheolau, ac rwy'n credu y gwelwn ni lawer o achosion newydd [o Covid-19] ymhen rhyw 10 diwrnod.
"Mae'r neges i San Steffan wedi drysu pethau ychydig, ond mae'r neges yng Nghymru yn glir iawn. Rydyn ni ofn gweld mwy o gleifion coronafeirws eto."