Crynodeb

  • Cannoedd o swyddi British Airways dan fygythiad mewn tri o safleoedd y cwmni yn ne Cymru

  • 14 yn rhagor wedi marw o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun sy'n nodi sut y byddan nhw'n mynd ati i gefnogi'r sector addysg ôl-16

  • Triniaeth rhai cleifion iechyd meddwl yn y gogledd wedi cael ei atal ar ei hanner yn sgil y pandemig

  • ASau o Gymru yn beirniadu cynlluniau i gael aelodau i ddychwelyd i San Steffan ar 2 Mehefin

  1. 'Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu'wedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Twitter

    Dyna ni heddiw ar y llif byw - mi fyddwn ni yn ôl eto 'fory gyda rhagor o'r newyddion diweddaraf i chi ar y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.

    Yn y cyfamser mwynhewch eich noson, ac fe wnawn ni'ch gadael chi gyda neges prif swyddog meddygol Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Galw am addysgu drwy ffrydio bywwedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Yng nghyfarfod llawn rhithwir o'r Senedd mae aelodau yn cyfrannu sylwadau i ddadl ar lacio'r cyfyngiadau.

    Mae AS Arfon, Sian Gwenllian, yn galw am sicrhau tegwch i blant a allai o bosib fod yn cael eu gadael ar ôl yn y cyfnod clo a hynny am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth - ee diffyg cefnogaeth, dim adnoddau fel y we.

    Mae'n galw hefyd am ddysgu drwy gyfrwng ffrydio byw ac mae am sicrhau bod ysgolion yn cadw mewn cysylltiad gyda phob plentyn yn ystod y cyfnod clo.

    Sian Gwenllian, AS Arfon
    Disgrifiad o’r llun,

    Sian Gwenllian, AS Arfon

  3. Colledion o hyd at £16m i Gyngor Gwynedd?wedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Cyngor Gwynedd

    Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio y gallai'r awdurdod golli rhwng £5m ac £16m o incwm oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws.

    Er bod cynghorau wedi cael addewid o rywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer costau ychwanegol yn ystod y pandemig, dydy hynny ddim yn cynnwys iawndal am golli incwm o ffynonellau fel canolfannau hamdden, parcio, a threfniadau ffyrdd.

    Dywedodd Dyfrig Siencyn y gallai colledion Cyngor Gwynedd fod yn fwy na'r £7.5m sydd ganddyn nhw wrth gefn.

  4. Cefnogi ymchwiliad annibynnol i'r pandemigwedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Mae'r prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cefnogi mewn egwyddor sefydlu "ymchwiliad cyhoeddus annibynnol" i'r ffordd y deliwyd â phandemig coronafeirws.

    Dywedodd Mr Drakeford nad oedd ganddo amheuaeth "bod angen ymchwiliad annibynnol ar yr adeg iawn".

    Yn ystod cyfarfod llawn rhithwir o'r Senedd fe ofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, pryd fyddai'r ymchwiliad yn debygol o ddechrau.

    Awgrymodd y dylid gasglu tystiolaeth cyn diwedd y flwyddyn fel bod modd cyhoeddi canfyddiadau interim erbyn gwanwyn 2021 ar yr hwyraf.

    Wrth ymateb dywedodd Mr Drakeford ei fod yn cefnogi'r egwyddor o gael ymchwiliad ond ni allai nodi dyddiad cychwynnol ar ei gyfer.

  5. Pwysau ar y pyramid pêl-droed?wedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Sgorio, S4C

    Ar flog Sgorio, mae'r sylwebydd Dylan Ebenezer yn bwrw golwg ar oblygiadau penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddoe i ddirwyn y prif gynghreiriau i ben oherwydd y pandemig.

    Y cwestiwn mawr sydd yn parhau o hyd, meddai Dylan, dolen allanol, yw beth fydd yn digwydd i'r timau oedd i fod i ddisgyn neu gael eu dyrchafu.

    "Mae llawer yn cynnig y syniad o gynyddu’r gynghrair i 14 clwb am y tro, gyda dau yn esgyn a neb yn disgyn," meddai.

    "Ond mi fydd y penderfyniadau yma yn effeithio’r holl gynghreiriau yn y pyramid pêl droed.

    "Mae hi fel gêm fawr o ‘Jenga’: tynnwch y darn anghywir ac fe allai’r pyramid cyfan ddymchwel yn ddisymwth."

    Cei Connah a'r Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, NCM Media
  6. Dyddiadur Rhys: Hunan-ynysu gydag anableddwedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Dyddiadur gonest Rhys Bowler sydd â Dystroffi'r Cyhyrau wrth ynysu yn gaeth i gadair a pheiriant anadlu

    Read More
  7. Cyhoeddiad BA yn 'anghyfreithlon' medd undebwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Unite

    Mae'r ymateb i gyhoeddiad BA bod swyddi yn y fantol yn parhau i ddod, gydag undeb Unite yn dweud ei fod yn anghyfreithlon.

    Dywedodd yr undeb fod nifer o'r swyddi sydd dan fygythiad yn rhai ble mae'r gweithwyr ar hyn o bryd ar y cynllun 'saib o'r gwaith' (furlough).

    "Mae'r cynllun hwnnw yn amlwg i fod yna er mwyn 'cadw' swyddi," meddai Richard Munn, swyddog rhanbarthol Unite.

    "Mae hefyd yn golygu bod ymgynghoriad ystyrlon yn amhosib."

    Mae'r undeb wedi mynnu fod BA yn dileu'r rhybudd diswyddo ac yn dechrau trafodaethau gyda nhw.

  8. Holi'r Gweinidog Addysgwedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Facebook

    Bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal sesiwn holi ac ateb gyda'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams y prynhawn 'ma i rieni sydd â chwestiynau am addysg eu plant yn ystod y pandemig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Aberystwyth 'yn un o drefi furlough y DU'wedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Cambrian News

    Mae Aberystwyth yn un o'r trefi sydd wedi'u heffeithio fwyaf yn y DU o ran nifer y gweithwyr yno sydd wedi gorfod cael eu rhoi ar gynllun saib o'r gwaith (furlough) Llywodraeth y DU.

    Yn ôl adroddiad sydd yn cael sylw gan y Cambrian News, dolen allanol, mae 47.1% o weithwyr y dref yn gweithio mewn sectorau sydd fwyaf mewn perygl o gael eu heffeithio gan y cyfyngiadau.

    Dywedodd cadeirydd Grŵp Twristiaeth Canolbarth Cymru, Rowland Rees-Evans fod llawer o fusnesau Aberystwyth yn dibynnu ar dwristiaeth ac felly methu masnachu yn ystod y cyfnod yma.

    Ychwanegodd bod problemau gyda pherchnogion ail dai yn teithio yn ystod y cyfyngiadau wedi "rhoi enw drwg i'r diwydiant twristiaeth ac wedi troi pobl yn erbyn ni".

    aberystwythFfynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph
  10. Sgam ebost trwydded teleduwedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio’r cyhoedd i fod yn ymwybodol o sgam trwyddedu teledu newydd sy’n defnyddio Covid-19 i geisio dwyn gwybodaeth bersonol.

    Yr wythnos diwethaf cafodd y llu dros 70 o adroddiadau am fersiwn newydd o'r sgam.

    Mae'r negeseuon e-bost sy'n cael eu hadrodd bellach yn honni bod debyd uniongyrchol y derbynnydd wedi methu a bod angen talu er mwyn osgoi erlyn.

    Dywed yr heddlu os ydych chi'n derbyn e-bost amheus, i roi gwybod i'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ar unwaith trwy ei anfon ymlaen at report@phishing.gov.uk

  11. Effaith cyhoeddiad BA ar safle Y Rhŵswedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Brian Meechan
    Gohebydd Busnes BBC Cymru

    "Mae'r diwydiant awyrofod ac amddiffyn eisoes wedi cael ei daro'n wael gan coronafeirws ac mae bron yn sicr y bydd yn cymryd blynyddoedd i adfer.

    "Wythnos diwethaf fe ddywedodd corff Aerospace Wales wrth ASau y gallai hyd at 8,000 o swyddi gael eu colli yma.

    "Mae safle BA yn Y Rhŵs yn cynnal a chadw awyrennau teithiau hir y cwmni.

    "Dyma'r rhai allai gymryd hirach nes y bydd cwsmeriaid yn dychwelyd felly gall y galw am yr awyrennau hyn fod yn is am flynyddoedd.

    "Mae'r safle hefyd yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd - sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru - gan mai dyna ble mae awyrennau BA yn cyrraedd i gael eu cynnal a chadw."

    BAFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Mwy o achosion yn y gogledd etowedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Daily Post

    Mae'r Daily Post wedi rhoi sylw i'r ffaith bod nifer yr achosion yn y gogledd yn ymddangos fel petaen nhw'n parhau i gynyddu yn gynt na rhannau eraill o Gymru, dolen allanol.

    Eto heddiw, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr welodd y nifer uchaf o achosion newydd yn ôl data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Mae ganddyn nhw graff sydd yn dangos y twf ym mhob bwrdd iechyd - gyda'r rhan fwyaf yn ymddangos fel petaen nhw'n arafu, ond Betsi Cadwaladr yn parhau i gynyddu ar gyfradd cynt.

  13. Sut ydw i'n archebu prawf Covid-19 yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno gyda chynllun profi Llywodraeth y DU ond mae'r broses yn wahanol yma.

    Read More
  14. Pobl tu hwnt i Gymru 'yn deffro i ddatganoli'wedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Mae pobl y tu hwnt i Gymru fel petaen nhw wedi "deffro i ddatganoli am y tro cyntaf ers 20 mlynedd" oherwydd y pandemig coronafeirws.

    Wrth gael ei holi yn y Senedd dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod yr argyfwng wedi amlygu i lawer o bobl fod penderfyniadau ar lawer o faterion bellach yn cael eu gwneud yn y gwledydd datganoledig, nid Llundain.

    Mark Reckless
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad, Mark Reckless

    Roedd yn ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad, Mark Reckless a awgrymodd y byddai'n well gan "lawer" o bobl petai "prif weinidog Prydain yn gwneud y penderfyniadau mawr yn hytrach na chi".

    Ond mynnodd Mr Drakeford fod pobl Cymru ar y cyfan yn ymwybodol o ddatganoli, a'u bod yn "gefnogol" o gamau Llywodraeth Cymru i lacio'r cyfyngiadau'n ofalus.

  15. Peidio canslo Gŵyl Elvis... am y trowedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Ni fydd Gŵyl Elvis flynyddol Porthcawl yn cael ei chanslo am y tro, yn ôl y trefnydd.

    Dyma'r ŵyl Elvis Presley fwyaf yn y byd, gan ddenu tua 35,000 o ddynwaredwyr a chefnogwyr y seren roc a rôl chwedlonol.

    Mae'r digwyddiad i fod i gael ei gynnal rhwng 25 a 27 Medi.

    Ond ni fydd y Grand Pavillion - lleoliad yr ŵyl - yn ailagor erbyn diwedd mis Medi ac mae'r trefnydd, Peter Phillips yn parhau i ymgynghori â lleoliadau eraill yn y dref.

    "Yn y cyfamser, byddem yn annog darparwyr llety yn yr ardal i fod yn hyblyg gyda'u cwsmeriaid mewn perthynas ag archebion ar gyfer penwythnos yr ŵyl," meddai.

    ElvisFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Graffiau diweddaraf ar y sefyllfa ymawedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    graff
    graff
  17. Mwy na 1,000 o swyddi BA Cymru dan fygythiadwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Mae mwy na 1,000 o swyddi British Airways yn ne Cymru dan fygythiad.

    Dywed y cwmni ei fod wedi cychwyn rhaglen ymgynghori 45 diwrnod gyda gweithwyr mewn tri safle yn ne Cymru - Llantrisant, y Coed Duon a Rhŵs.

    Dywed BA eu bod yn gwneud newidiadau arfaethedig a bod hynny'n destun ymgynghoriad ag undebau.

    Mae'r safleoedd yn cynnwys ffatri beirianneg yn y Coed Duon, safle'r gwasanaethau afioneg yn Llantrisant a'r gwaith cynnal a chadw yn Rhŵs.

  18. Neilltuo £2.4bn i gefnogi ymdrechion Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Yng nghyfarfod llawn rhithwir y Senedd, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru, mewn cyllideb atodol a fydd yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf, yn dyrannu £2.4bn i gefnogi ymdrechion Covid-19.

    Bydd hyn yn cynnwys hanner biliwn ychwanegol i'r gyllideb iechyd cymdeithasol, £1.3bn i gyllideb economi a thrafnidiaeth a hanner biliwn ychwanegol i gyllidebau tai a llywodraeth leol er mwyn talu am giniawau ysgol am ddim, cynyddu cefnogaeth i gartrefi gofal a rheoli gwirfoddolwyr.

    Mark Drakeford
  19. 14 marwolaeth arall yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 14 marwolaeth arall yng Nghymru o bobl gyda Covid-19, gan ddod â'r cyfanswm i 1,238.

    Ond mae hyn wrth gwrs yn is na'r cyfanswm diweddaraf o 1,852 gafodd ei roi ddoe gan y Swyddfa Ystadegau, sydd yn cynnwys pob achos ble mae Covid-19 wedi ei grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth.

    Mae nifer y bobl sydd wedi cael prawf positif am yr haint hefyd wedi codi o 110, a bellach yn 12,680.

  20. 'Dim modd cael gwared o'r risg 100%'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cydnabod na all Llywodraeth Cymru "gael gwared o bob risg" o Covid-19 hyd yn oed pan fydd ysgolion yn ailagor yn y pen draw.

    Dywedodd y byddan nhw'n "gwneud eu gorau" i leihau'r risg i staff a disgyblion, ond nad oedd modd "gwarantu unrhyw beth 100%".

    Ychwanegodd y byddai angen i hynny gydfynd â system brofi a dilyn "gadarn" er mwyn dod o hyd i achosion o coronafeirws yn sydyn.

    ystafell ddosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images