Crynodeb

  • Cannoedd o swyddi British Airways dan fygythiad mewn tri o safleoedd y cwmni yn ne Cymru

  • 14 yn rhagor wedi marw o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun sy'n nodi sut y byddan nhw'n mynd ati i gefnogi'r sector addysg ôl-16

  • Triniaeth rhai cleifion iechyd meddwl yn y gogledd wedi cael ei atal ar ei hanner yn sgil y pandemig

  • ASau o Gymru yn beirniadu cynlluniau i gael aelodau i ddychwelyd i San Steffan ar 2 Mehefin

  1. Y cyfarfod llawn ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Am 13:30 bydd cyfarfod llawn rhithwir Senedd Cymru.

    Heddiw bydd datganiad gan y Prif Weinidog am coronafeirws, dau gwestiwn amserol, datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a thrafodaeth ar sut y gall Cymru ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn raddol.

    Mae modd dilyn y trafodaethau drwy glicio ar frig y dudalen yma.

  2. 'Dim dyddiad pendant' ar fynd yn ôl i'r ysgolwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Prif neges Ms Williams o'r gynhadledd oedd na fydd hi'n gosod dyddiad pendant ar pryd all disgyblion ddychwelyd i'r ysgol gan fod angen "mwy o dystiolaeth" am ymlediad yr haint.

    "Mae angen i ni fod yn fwy hyderus ynghylch y dystiolaeth ac adeiladu hyder ymhlith y prif hapddalwyr (stakeholders)," meddai.

    Ychwanegodd fod Cymdeithas Feddygol Prydain a Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud na fyddai rhoi dyddiad pendant yn helpu.

    "Pan fydd penderfyniad i'w wneud i gael mwy o'n plant i ddychwelyd i'r ysgol, fe fyddwch chi'n clywed hynny'n uniongyrchol gen i," meddai.

  3. Cefnogi dysgu o adrefwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Pwysleisiodd y gweinidog addysg fod Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio hwyluso gallu disgyblion i weithio a dysgu o adref yn ystod y pandemig.

    Fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi cynllun ym mis Ebrill i ariannu gliniaduron a theclynnau cyswllt 4G i'r rheiny oedd yn brin o offer neu gyswllt we dibynadwy.

  4. Cyfnod 'heriol' i ddisgyblion teuluoedd di-Gymraegwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Ms Williams wedi cael ei holi ynghylch yr awgrym y gallai myfyrwyr o gartrefi di-Gymraeg sydd mewn addysg Gymraeg fod ymhlith y cyntaf i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth.

    Dywedodd y gweinidog addysg fod y cyfnod hwn yn un "arbennig o heriol" i ddisgyblion o'r fath, ond ei bod eisiau gwneud popeth i helpu'r rhieni hynny oedd wedi "gwneud y penderfyniad positif i ddewis addysg Gymraeg" ar gyfer eu plant.

    Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi sicrhau bod "adnoddau ychwanegol" ar gael i gynorthwyo dysgu o adref.

  5. 'Gweithio'n agos gydag undebau'wedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y gweinidog addysg fod Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gydag undebau ynghylch ailagor ysgolion.

    Pan ofynnwyd iddi am y tensiynau rhwng yr undebau a Llywodraeth y DU dros ailagor ysgolion Lloegr, dywedodd Ms Williams ei bod yn gweithio gyda’r “holl randdeiliaid allweddol wrth inni wneud y penderfyniadau ynghylch yr hyn sy’n digwydd nesaf i addysg yng Nghymru”.

    Dywedodd ei bod yn cwrdd ag arweinwyr y sector llywodraeth leol yn wythnosol.

    “Mae'r undebau hefyd yn agos iawn at y gwaith rydyn ni'n ei wneud," meddai Ms Williams.

    “A beth sy'n hanfodol i mi, wrth i ni feddwl sut y gallwn ddod o hyd i'r dystiolaeth a'r hyder a'r rheolaeth y bydd eu hangen arnom dros y clefyd cyn i ni wneud y camau nesaf, yw bod y cydweithredu [yn] hanfodol o ran magu hyder."

  6. 'Pryder' am ddiffyg myfyrwyr tramor yn y dyfodolwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Ms Williams wedi cydnabod ei bod hi'n "bryderus" ynghylch effaith y pandemig coronafeirws ar allu prifysgolion Cymru i barhau i ddenu myfyrwyr o dramor.

    Dywedodd bod Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda'r sector addysg uwch i'w helpu drwy'r pwysau ariannol.

    Ychwanegodd nad oedd hi wedi "derbyn unrhyw wybodaeth" am brifysgolion yng Nghymru sydd mewn perygl o fynd i'r wal, ond fod y sector yn wynebu "heriau sylweddol".

  7. Dychwelyd i'r ysgol 'dim ond pan mae'n saff'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad yn y gynhadledd ddyddiol i'r wasg, dywedodd Kirsty Williams fod miloedd o athrawon yng Nghymru eisoes yn mynd i'r ysgol i edrych ar ôl plant gweithwyr allweddol.

    Ychwanegodd bod llawer hefyd wedi bod yn helpu disgyblion i barhau gyda'u haddysg o adref.

    Ond mynnodd y byddai hi ond yn gadael i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol "pan mae hi'n saff i wneud hynny".

    Mae gan Lywodraeth y DU eisoes gynlluniau i adael i rai plant yn Lloegr ddychwelyd i'r ysgol ar 1 Mehefin, ond fydd hynny ddim yn digwydd yng Nghymru.

    Kirsty Williams
  8. Cynllun i gefnogi addysg ôl-16wedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynllun i gefnogi addysg ôl-16 yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y byddai'r cynllun yn blaenoriaethu'r rheiny oedd fwyaf angen cymorth, gan gynnwys disgyblion Blwyddyn 11 ac 13, a dysgwyr galwedigaethol.

    Bydd tair rhan i'r cynllun - rhoi sicrwydd o ran cyllid a threfniadau dysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, cynllunio ar gyfer newidiadau posibl yn yr hydref, ac yna rhoi trefniadau ar waith ar gyfer gweddill blwyddyn academaidd 2020-21.

    “Mae'r coronafeirws wedi cyflwyno heriau enfawr i fyfyrwyr a darparwyr addysg dros y cyfnod hwn ac am y tymor hir," meddai.

    "Bydd y Cynllun Cadernid hwn yn rhoi ffocws clir fel y gallwn gydweithio â'n partneriaid addysg i oresgyn yr heriau hyn."

  9. Cynhadledd ddyddiol am 12:30wedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Mae modd gwylio'n fyw ar S4C a BBC One Wales.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Dysgu Cymraeg yn ystod y cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    golwg360

    Mae Golwg360 yn adrodd bod miloedd o bobl wedi bod yn troi at ddysgu Cymraeg, dolen allanol wrth iddyn nhw fod adref yn ystod y pandemig.

    Yn ôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mae dros 8,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau digidol, ac mae eu cyrsiau “cyfunol” cenedlaethol newydd wedi denu 1,300 o bobl ers y cyfyngiadau.

    “Mae’r sector Dysgu Cymraeg wedi ymateb yn bositif i heriau’r cyfnod cyfyngiadau symud gydag ystod o fentrau sy’n galluogi oedolion i barhau i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg yn eu cartrefi,” meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan.

  11. Cymorth i ddioddefwyr trais domestigwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

    Mae cynnydd yn yr achosion o drais domestig yn un o'r pryderon sydd wedi codi yn ystod y pandemig, wrth i fwy o bobl orfod aros yn eu tai - dyma'r cyngor i unrhyw un sy'n chwilio am help.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Pryder am gyllid cynghorauwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Mae cyn-arweinydd Cyngor Casnewydd wedi rhybuddio y gallai rhai awdurdodau lleol fynd i'r wal oherwydd costau yn ymwneud â coronafeirws.

    Wrth siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Llun, gofynnodd y Farwnes Debbie Wilcox beth oedd y llywodraeth yn ei wneud i helpu cynghorau.

    Dywedodd fod rhai busnesau, fel datblygwyr tai, wedi cael caniatâd i oedi taliadau i gynghorau am y tro, ond bod hynny'n golygu fod y twll ariannol yn cael ei basio ymlaen.

    Wrth ymateb ar ran y llywodraeth, dywedodd yr Arglwydd Stephen Greenhalgh eu bod eisoes wedi buddsoddi £20bn mewn gwasanaethau cyhoeddus yn y ddeufis diwethaf, a bod "dim tystiolaeth eto" fod awdurdodau lleol yn agos at fethdalu.

    debbie wilcox
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Debbie Wilcox hefyd yn gyn-arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

  13. Jade Jones yn cael ymarfer unwaith etowedi ei gyhoeddi 11:20 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Chwaraeon BBC Cymru

    Bydd Jade Jones ymhlith yr athletwyr Olympaidd cyntaf i gael ymarfer eto yn ystod y pandemig, wrth i GB Taekwondo ailddechrau hyfforddi yn eu canolfan ger Manceinion.

    Bydd yn rhaid i Jones, fel eraill, gymryd prawf gwrthgyrff cyn dechrau ymarfer.

    Fe fydd yn rhaid i'r athletwyr hefyd gadw pellter oddi wrth ei gilydd oni bai eu bod nhw - fel y mae Jones a Bianca Walkden - yn byw gyda'i gilydd eisoes.

    jade jonesFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Jade Jones yn gobeithio cystadlu eto yn y Gemau Olympaidd, sydd bellach wedi'u symud i 2021

  14. Coronafeirws 'heb ddod i'r gogledd o Loegr fel y disgwyl'wedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi dweud eu bod yn credu mai o dde-ddwyrain Cymru, yn hytrach na gogledd Lloegr, y mae coronafeirws wedi ymledu i'r ardal yn bennaf.

    Dywedodd Geoff Ryall-Harvey ar BBC Radio Wales Breakfast fod yr haint wedi ymledu'n "wahanol" yn y gogledd, a'i bod hi'n "anodd dweud a ydyn ni'n agos at y brig eto".

    Mae ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gweld 200 o farwolaethau hyd yma, ac ychydig dros 2,000 o achosion wedi'u cadarnhau.

    "Mae'n bwysig bod pobl yn parhau i ddilyn y cyfyngiadau, mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn yng ngogledd Cymru," meddai.

    "Mae pobl wedi bod mor ymwybodol o bwysigrwydd hynny fel nad ydyn nhw wedi bod yn dod at y gwasanaeth iechyd am broblemau iechyd difrifol eraill fel clefyd y galon neu strôc."

  15. Atal triniaeth iechyd meddwl i rai yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Llythyr ddaeth i law'r BBC yn dweud bod triniaethau wedi'u hatal ar eu hanner yn sgil coronafeirws.

    Read More
  16. 'Dim digon yn bwriadu lawrlwytho ap Covid-19'wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Prifysgol Abertawe

    Mae ymchwil gan brifysgolion Abertawe a Manceinion wedi awgrymu mai dim ond traean o'r boblogaeth sydd yn bwriadu lawrlwytho'r ap i gofnodi symptomau Covid-19.

    Ymhlith y rhai sy'n dweud na fyddan nhw, neu sydd ddim yn siŵr, mae pryderon ynghylch preifatrwydd, stigma i'r rhai fydd gyda'r haint, a bod dim digon o bobl yn mynd i'w ddefnyddio.

    "Bydd cefnogaeth a defnydd y cyhoedd o'r ap yn penderfynu yn y bon a fydd strategaeth [y llywodraeth] yn llwyddo neu'n methu," meddai Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe.

    "Mae'n hastudiaeth ni'n awgrymu fod y llywodraeth yn bell o gyrraedd y lefel o gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i gael digon o bobl i gymryd rhan i wneud gwahaniaeth."

    prifysgol abertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Profion Covid-19: 'Cymru tu ôl i weddill y DU'wedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Mae Cymru wedi disgyn y tu ôl i wledydd eraill y DU wrth brofi am coronafeirws, meddai Ysgrifennydd Cymru.

    Dywedodd Simon Hart fod hyn yn gwneud cynnydd gydag adferiad o Covid-19 "gymaint yn arafach".

    Mae Llywodraeth Cymru wedi bod dan bwysau dros nifer y profion y mae'n eu darparu bob dydd, ar ôl rhoi'r gorau i osod targedau ym mis Ebrill.

    Roedden nhw wedi gosod targedau i gyrraedd capasiti ar gyfer 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill. Ond fe gafodd y cynlluniau hynny eu gollwng, gyda gweinidogion yn beio problemau gyda chaffael offer.

    Dywedodd Mr Hart, pennaeth Swyddfa Cymru yn Llywodraeth Geidwadol y DU, ei fod wedi “ceisio bod mor bragmatig ac mor gydymdeimladol â’r heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ag sy'n bosib”.

    "Ond ar y mater penodol hwn, ar fater y profion, mae'n dod yn amlwg bod Cymru wedi disgyn y tu ôl i'r tair gwlad arall," meddai.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

  18. 'Cosbau llymach' am boeri ar swyddogion heddluwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Comisiynydd Heddlu'r Gogledd wedi dweud y dylai pobl sy'n poeri neu dagu at swyddogion heddlu gael cosbau llymach.

    Dywedodd Arfon Jones fod yr ymddygiad "ffiaidd" yn peryglu iechyd swyddogion yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Yn gynharach yn y mis cafodd dynes o'r Wyddgrug ddedfryd o 26 wythnos yn y carchar, wedi'i ohirio am 12 mis, am boeri yng ngwynebau heddweision yn dilyn ffrae mewn siop fwyd.

    Ddoe cafodd merch arall, o Gaergybi y tro hwn, ei charcharu am chwe mis am drosedd debyg.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Cynnydd mewn tanau gwylltwedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Y gred ydy fod y tân yng Nghwm Einion ger Ffwrnais, Ceredigion, wedi ei gynnau'n fwriadolFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gred ydy fod y tân yng Nghwm Einion ger Ffwrnais, Ceredigion, wedi ei gynnau'n fwriadol

    Mae cynnydd wedi bod mewn tanau gwair yng Nghymru yn ystod cyfnod y cyfyngiadau yn sgil haint coronafeirws.

    Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, bu dros 1,000 o danau ledled Cymru yn ystod yr wyth wythnos ddiwethaf.

    Mae tanau gwair o fewn awdurdod Dyfed-Powys wedi cynyddu hyd at 24% o'i gymharu â 2019.

    Ar hyn o bryd, mae criwiau'n delio gyda digwyddiad mawr yng Nghwm Einion ger Ffwrnais, Ceredigion.

    Mae'r ardal yn cyfateb i 240 o gaeau pêl-droed gyda swyddogion yn credu ei fod wedi'i gynnau yn fwriadol.

    Darllenwch ymlaen drwy glicio yma. Rhybudd: Mae llun yn y stori all beri gofid

  20. Ymateb i goroni Cei Connah yn bencampwyrwedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Ddoe, fe gafodd Cei Connah eu coroni'n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf wedi i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru ddod â'r tymor i ben.

    Does dim gemau wedi eu chwarae ers i'r pandemig daro Cymru ddechrau mis Mawrth.

    Cafodd y safleoedd terfynol eu penderfynu drwy ddefnyddio system o bwyntiau am bob gêm a enillwyd.

    Mae Sgorio wedi cael cyfweliad gydag amddiffynnwr y Nomadiaid, Callum Roberts i gael ei ymateb.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter