Crynodeb

  • Cannoedd o swyddi British Airways dan fygythiad mewn tri o safleoedd y cwmni yn ne Cymru

  • 14 yn rhagor wedi marw o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun sy'n nodi sut y byddan nhw'n mynd ati i gefnogi'r sector addysg ôl-16

  • Triniaeth rhai cleifion iechyd meddwl yn y gogledd wedi cael ei atal ar ei hanner yn sgil y pandemig

  • ASau o Gymru yn beirniadu cynlluniau i gael aelodau i ddychwelyd i San Steffan ar 2 Mehefin

  1. ASau Cymru i orfod teithio i Lundain i bleidleisiowedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    ASau o Gymru'n beirniadu cynllun i gael aelodau i ddychwelyd i San Steffan ar 2 Mehefin.

    Read More
  2. Urddo Capten Tom yn farchogwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Bydd y Capten Tom Moore, cyn-filwr 100 oed sydd wedi codi bron i £33m i’r gwasanaeth iechyd, yn cael ei urddo’n farchog.

    Mae wedi codi’r arian ers dechrau ymlediad y coronafeirws drwy gerdded o amgylch ei ardd yn Swydd Bedford.

    Mae wedi’i ddisgrifio gan Boris Johnson, prif weinidog y DU, fel “trysor cenedlaethol” wrth iddo ganmol ei waith codi arian sydd, meddai, yn cynnig “goleuni yn ystod niwl y coronafeirws”.

    Capten TomFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Argyfwng coronafeirws v Y Dirwasgiad Mawrwedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Oedd profiadau Cymry bron i ganrif 'nôl yn debyg i'n profiadau ni wrth wynebu argyfwng coronafeirws?

    Read More
  4. Gwrthod gofalwyr ifanc rhag siopauwedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    BBC Wales News

    Mae gofalwyr ifanc yn cael eu gwrthod rhag mynd i siopa yn ystod oriau arbennig oherwydd fod pobl "ddim yn eu credu", mae elusen yn ofni.

    Dywedodd Charity Trust fod siopwyr wedi gweiddi ar rai ac wedi eu hatal rhag mynd i mewn i siopau yn ystod y pandemig.

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    Fayeth
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Fayeth, 13 oed o'r Rhyl, yn gofalu am ei mam sydd ag epilepsi a thair chwaer iau

  5. 'Colledion posib o £1.3m'wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    "Dydan ni ddim yn gwybod faint mae'r sefyllfa yma yn mynd i bara," meddai Mr Williams.

    "Rydan ni'n gwybod bod yna golledion o £600,000 yn y chwarter cyntaf. Os ydy hyn yn para am flwyddyn gron rydan ni'n sôn am golledion o £1.3m ond mae ganddon ni ffyrdd o leihau hynny drwy wario llai ac mi fyddwn ni'n debyg o wario mwy na £800,000 yn llai yn yr ardal yn lleol ac mae hynny yn mynd i gael effaith ar wasanaethau nwyddau a ballu."

    Pen-y-passFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr A4086 ym Mhen-y-Pass ger Yr Wyddfa yn wag ym mis Ebrill eleni

    "Mae hi yn her hefyd i bobl yr ydan ni yn weithio iddo ar raddfa leol hefyd," ychwanegodd.

    "Beth sy'n anodd hefyd ydy bod y rhagolygon ar ôl codi'r cyfyngiadau y bydd yna fwy o alw ar ddod i ymweld â'r Parc ac mae hyn yn digwydd yn y cyfnod pan fydd angen mwy o adnoddau i ymdopi efo'r bobl fydd yn llifo i Gymru, i Eryri a'r parciau arall. Mae'n creu ansicrwydd ynglŷn â sut y byddwn ni yn ymdopi o'r flwyddyn yma ymlaen.

    "Mae'r cynllun saib 'furlough' wedi ei wneud yn benodol i'r sector breifat a gwirfoddol ond yn agor bellach i elfennau masnachol y sector cyhoeddus hefyd felly mae staff mewn safleoedd fel Plas Tan y Bwlch, yr Ysgwrn wedi cael eu rhoi ar y cynllun yma am y tro."

  6. Parciau cenedlaethol yn dioddefwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyfarfod yn nes ymlaen heddiw i drafod yr heriau sy'n eu hwynebu, dywedodd prif weithredwr y Parc, Emyr Williams ar y Post Cyntaf: "Fel unrhyw sector breifat, rydyn ni wedi gorfod cau lawr am nad ydan ni'n medru gweithredu yn fasnachol.

    "I ddeall sut yr ydan ni'n cael ein cyllido mae ein trosiant fel arfer rhwng £7-8 miliwn, yr incwm masnachol yn £2m ac rydan ni yn cael grant gan y Llywodraeth o £5m.

    "Mae'r incwm masnachol wedi cynyddu yn y 10 mlynedd diwethaf oherwydd yr her ariannol ac am fod rhaid gwarchod gwasanaethau fel cynnal a chadw llwybrau, wardeiniaid, canolfannau gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc, felly rydan ni yn ddibynnol iawn ar yr incwm yma i gario ymlaen efo gwasanaethau mewn ffordd."

  7. Bore da...wedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mai 2020

    ...a chroeso i'n tudalen fyw ni heddiw.

    Arhoswch efo ni am y newyddion diweddaraf am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.