Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020
A dyna'r cyfan heddiw gan y llif byw.
Ond fe fyddwn ni yn ôl eto 'fory gyda'r newyddion diweddaraf ar y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.
Hwyl am y tro.
Llywodraeth Cymru'n amlinellu sut y byddan nhw'n gwario'r £2.4bn i helpu busnesau
11 person arall wedi marw o Covid-19, a 97 o achosion newydd yng Nghymru
Teyrngedau i ddau weithiwr iechyd o ardal Caerdydd sydd wedi marw o'r haint
Posibilrwydd o newidiadau i arholiadau ysgol 2021 yn sgil y pandemig
Canslo Sioe Awyr Y Rhyl oedd i fod i gael ei chynnal ym mis Awst
A dyna'r cyfan heddiw gan y llif byw.
Ond fe fyddwn ni yn ôl eto 'fory gyda'r newyddion diweddaraf ar y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.
Hwyl am y tro.
O ganlyniad i dystiolaeth fod coronafeirws yn effeithio mwy ar leiafrifoedd ethnig mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn lansio asesiad risg.
Fe fydd ar gyfer staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac yn y sector gofal cymdeithasol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nest Jenkins o Ledrod ger Tregaron sydd wedi ennill gwobr y Prif Ddramodydd yn Eisteddfod T, eisteddfod ddigidol sydd wedi ei threfnu gan fudiad yr Urdd.
Mae Nest ar ei thrydedd flwyddyn yn astudio'r Gyfraith a'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych tan 2021, dolen allanol o ganlyniad i'r pandemig.
Mae Eisteddfod T ar ei thrydydd diwrnod ac yn parhau weddill yr wythnos hon rhwng 27-29 Mai.
Hyd yn hyn, mae 4,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda mwy o gystadlaethau byrfyfyr yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos medd y trefnwyr.
Mae AS Ceidwadol Wrecsam wedi dweud fod Dominic Cummings wedi gwneud y penderfyniad anghywir wrth deithio i Barnard Castle yng ngogledd Lloegr.
Dywedodd Sarah Atherton fod nifer o'i etholwyr wedi cysylltu â hi ynglŷn â'r mater.
Dywedodd y cyn nyrs ei bod yn deall rhan o'i esboniad pam iddo deithio o Lundain i ardal Durham i hunan-ynysu ym mis Mawrth.
Ond roedd yn feirniadol o'i daith i dref Barnard Castle.
Ni wnaeth Ms Atherton alw am ymddiswyddiad Mr Cummings, sy'n ymgynghorydd i'r prif weinidog, gan ddweud ei bod nawr yn amser i "symud ymlaen."
Mae Dirprwy Lywydd y Senedd wedi canmol swyddogion heddlu am lwyddo i "gadw cefngoaeth mwyafrif llethol y cyhoedd" yn ystod y cyfyngiadau.
Mewn llythyr i aelodau Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru, dywedodd Ann Jones fod swyddogion wedi gorfod "galw ar cysylltiadau gwych o fewn y gymuned i esbonio rhesymau'r cyfyngiadau, annog pobl i ddilyn y rheolau newydd a, ble bo angen, cymryd camau i sicrhau ufudd-dod".
Ychwanegodd bod swyddogion wedi "ymddwyn yn gytbwys" wrth ddelio gyda'r rheiny sydd ddim wedi dilyn y rheolau, "er gwaethaf ymgais rhai yn y cyfryngau i bortreadu'r heddlu'n negyddol".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd staff sy'n gweithio yn nhai bwyta McDonald's yn cael eu tymheredd wedi ei gymryd cyn dechrau pob shifft, wrth i'r gadwyn baratoi i agor ar gyfer cwsmeriaid galw heibio yr wythnos nesa.
Fe fydd holl ganghennau'r gadwyn yn ailagor rhwng dydd Mawrth a dydd Iau nesa.
Mae'r 'Rhif R' wedi cael lot o sylw yn ystod y pandemig, wrth i wleidyddion a gwyddonwyr asesu beth yw'r risg y bydd yr haint yn ymledu.
Ond beth yn union yw'r 'Rhif R' - a pham bod cymaint o bwyslais ar ei gadw o dan 1?
Mae dynes 59 oed o Wynedd wedi llwyddo i godi dros £4,000 i'r gwasanaeth iechyd ar ôl bod yn dawnsio am 24 awr.
Yn ystod ei gyfraf fel dawnswraig mae Carys Roberts wedi dawnsio gyda grwpiau fel Hot Chocolate, Bananarama and Kool and the Gang ac ar raglen Top of the Pops.
Fe wnaeth Carys, sydd hefyd yn cymryd dosbarthiadau dawns a pilates, gwblhau'r perfformiad 24 awr yn Neuadd Goffa Cricieth.
Bydd yr arian yn mynd tuag at Awyr Las, sef elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
BBC Radio Wales
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ap newydd fel bod pobl yn gallu archebu sedd ar y bws o flaen llaw.
Bwriad y cynllun, sy'n cael ei dreialu yng Nghasnewydd, yw sicrhau bod pobl yn gallu cadw pellter cymdeithasol wrth deithio.
Mae'r gwasanaeth yn mynd heibio safleoedd fel ysbytai ac archfarchnadoedd er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at y cyfleusterau angenrheidiol.
"Mae'n ddyddiau cynnar, ond 'dyn ni wedi cael adborth positif gan gwsmeriaid," meddai Lee Robinson o Drafnidiaeth Cymru wrth BBC Radio Wales Breakfast.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi na fydd darlithoedd mawr yn cael eu cynnal ar ddechrau'r tymor nesaf.
Wrth amlinellu eu cynlluniau ar gyfer y tymor academaidd dywed datganiad y bydd pob cwrs yn cael ei ddysgu, wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae'r datganiad hefyd yn dweud y bydd darpariaeth llety'r brifysgol ar gael fel arfer ond 'gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol".
Dywedodd yr Athro Martin Stringer, dirprwy is-ganghellor y brifysgol ei bod nhw’n paratoi i gynnal wythnos gofrestru ac ymsefydlu ym mis Medi a mis Ionawr 2021.
Dywedodd y corff sy'n cynrychioli prifysgolion yng Nghymru, Prifysgolion Cymru, fod pob sefydliad wedi newid eu dulliau addysgu yn ystod pandemig Covid-19 gan gyflawni cymaint o'u swyddogaethau â phosibl arlein.
Mae yna ambell i ffactor pwysig i'w ystyried cyn llacio'r cyfyngiadau
Read MoreMae nifer o wyliau a digwyddiadau yn wynebu trafferthion ariannol yn sgil y pandemig coronafeirws - a dyw'r Sioe Frenhinol ddim yn eithriad.
Mwy am hyn ar raglen Newyddion S4C heno am 19:30.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dwy Gymraes sy'n trafod bywyd mewn gwlad sydd fwy neu lai wedi cael gwared o Covid-19
Read MoreDyma'r siartiau diweddaraf yn dangos sefyllfa'r pandemig yng Nghymru - gyda mwy o farwolaethau yn ardal Betsi Cadwaladr bellach na Chaerdydd a'r Fro.
Mae'r graff isod yn dangos bod nifer y marwolaethau dyddiol yng Nghymru ar y cyfan yn parhau ostwng fodd bynnag.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau marwolaethau dau aelod o staff oedd wedi profi'n bositif am coronafeirws.
Roedd Dominga David, 62, yn wreiddiol o Ynysoedd y Philippines ac yn nyrs yn Ysbyty Llandochau ers 2004.
Dywedodd llefarydd ei bod yn "weithiwr hynod o galed, ac yn glên, gan ddangos pob cydymdeimlad wrth gyfathrebu gyda chleifion".
Roedd Allan Macalalad, 44, yn gynorthwyydd theatrau yn yr adran ophthamoleg.
Mae ei wraig Elsi hefyd yn nyrs, gan weithio i fwrdd iechyd cyfagos.
"Mae ein meddyliau gyda thimoedd Allan a Dominga yn y Bwrdd Iechyd, a gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid yn y DU a'r Philippines," meddai'r llefarydd.
Llywodraeth Cymru
Bydd swyddogion iechyd yn gallu olrhain pobl sydd wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd wedi profi'n bositif ar gyfer Covid-19 o 1 Mehefin, yn ôl y gweinidog iechyd.
Dywedodd Vaughan Gething ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i'r rhai hynny wedyn sy'n profi'n bositif hunan ynysu - hyd yn oed os nad ydynt yn arddangos symptomau.
Dywedodd Mr Gething y bydd unrhyw lacio pellach ar y cyfyngiadau presennol yn ddibynnol ar bawb yn dilyn cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru o ran y strategaeth profi, olrhain a diogelu, gan gynnwys hunan ynysu pan fod angen.
Pwysleisiodd fod y rhan fwyaf o bobl oedd yn meddwl fod ganddynt symptomau, ac wedi cael prawf, wedi profi'n negyddol.
Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi stopio cerbyd yn Sir Benfro gyda theulu o Sir Gaerwrangon oedd yn dweud eu bod nhw'n "mynd i'r traeth".
Fe gafodd y teithwyr eu hatgoffa o'r rheolau Covid-19, sef nad oes hawl teithio yng Nghymru oni bai ei bod hi'n hanfodol, a'u hanfon adref.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Fel ddoe, mae bron i hanner y 97 achos newydd o Covid-19 sydd wedi'u cadarnhau heddiw yn dod o ogledd Cymru.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr welodd y nifer uchaf - 42 - gyda'r nifer fwyaf o achosion yn ardal Wrecsam unwaith yn rhagor.
Roedd 19 achos newydd yn ardal Cwm Taf, ac 14 yng Nghaerdydd a'r Fro.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 11 marwolaeth arall, gan godi eu cyfanswm i 1,293.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau 97 achos newydd o Covid-19, gan olygu bod 13,653 o bobl bellach wedi cael prawf positif o'r haint yng Nghymru.
Mae'r gwir nifer, wrth gwrs, yn debygol o fod llawer yn uwch gan nad yw pawb yn cael eu profi ar hyn o bryd.
Ychwanegodd ICC bod 2,206 o brofion wedi eu cynnal ddoe.