Crynodeb

  • Llywodraeth Cymru'n amlinellu sut y byddan nhw'n gwario'r £2.4bn i helpu busnesau

  • 11 person arall wedi marw o Covid-19, a 97 o achosion newydd yng Nghymru

  • Teyrngedau i ddau weithiwr iechyd o ardal Caerdydd sydd wedi marw o'r haint

  • Posibilrwydd o newidiadau i arholiadau ysgol 2021 yn sgil y pandemig

  • Canslo Sioe Awyr Y Rhyl oedd i fod i gael ei chynnal ym mis Awst

  1. Covid-19 yn taflu goleuni newydd ar ddatganoliwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    Wrth i lywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan wneud penderfyniadau gwahanol ar sut i ddelio gyda coronafeirws, mae'r argyfwng wedi amlygu natur datganoli i lawer o bobl.

    Ond ydy ymwybyddiaeth pobl o waith Senedd Cymru wedi gwella yn sgil hynny?

    Ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies sydd wedi bod yn sgwrsio gyda sylwebwyr a gwleidyddion.

    Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Oes mwy o bobl bellach yn deall datganoli a gwaith Senedd Cymru?

  2. Galw'r heddlu i barti yn nhŷ Aelod Seneddolwedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    Daily Mirror

    Mae'r Daily Mirror yn adrodd bod yr heddlu wedi cael eu galw i atal parti anghyfreithlon yn nhŷ'r Aelod Seneddol Cymreig, Rob Roberts., dolen allanol

    Cafodd dau berson orchymyn i adael y tŷ, a'r gred oedd eu bod yno i ddathlu pen-blwydd gwraig Mr Roberts yn 40.

    Ond dywedodd Mr Roberts ei fod yn Llundain adeg y digwyddiad, ac mae ei wraig ag yntau bellach wedi gwahanu.

    rob roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Cipiodd Rob Robets sedd Delyn i'r Ceidwadwyr yn 2019

  3. Canslo Sioe Awyr Y Rhyl eleniwedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    Cyngor Sir Ddinbych

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau na fydd Sioe Awyr Y Rhyl bellach yn cael ei chynnal ym mis Awst.

    Dywedodd y cynghorydd Bob Feeley eu bod wedi canslo'r digwyddiad, sydd bellach yn ei 11eg blwyddyn, yn dilyn "llawer o drin a thrafod".

    "Mae ein penderfyniad wedi cael ei wneud yng ngoleuni'r heriau sy'n cael eu cyflwyno gan Covid 19, a'r disgwyliad parhaus o fesurau ymbellhau cymdeithasol," meddai.

    "Yn anffodus, teimlwn na fyddem yn gallu gwarantu diogelwch staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr sy'n mynd i ddigwyddiad mor fawr, nac yn dymuno rhoi straen ychwanegol ar y gwasanaethau brys ar adeg mor anodd."

    Ychwanegodd fod y "tîm digwyddiadau cyfan wedi'i siomi'n naturiol", ond y byddan nhw'n ceisio sicrhau y bydd y digwyddiad yn dychwelyd yn 2021.

    awyrennau Eurofighter TyphoonFfynhonnell y llun, Y Llu Awyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Awyrennau Eurofighter Typhoon yn y sioe llynedd

  4. Galw am flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a band eangwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    Mae elusen yr RSPB wedi galw ar wleidyddion i geisio sicrhau 'Adferiad Gwyrdd' pan fydd y wlad yn codi'n ôl ar ei thraed yn dilyn argyfwng Covid-19.

    Ymhlith eu hargymhellion ar gyfer sut y dylid pethau newid yn dilyn y pandemig, mae galwad ar beidio blaenoriaethu adeiladu ffyrdd newydd.

    Yn hytrach, meddai'r elusen, mae angen cynllunio o blaid trafnidiaeth gyhoeddus a datblygu band eang cyflym iawn fel bod llai o angen i bobl deithio.

    Katie-Jo Luxton
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen Katie-Jo Luxton fod yr adferiad yn "gyfle unigryw i Gymru wneud pethau'n wahanol"

  5. Beth allwn ni ddisgwyl o'r gyllideb?wedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    Prifysgol Caerdydd

    Mewn blog ar wefan Prifysgol Caerdydd, dolen allanol, mae Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi bod yn edrych ar beth allwn ni ddisgwyl o'r gyllideb "digynsail" heddiw.

    Mae'n crybwyll y ffaith y bydd cyllideb Cymru wedi codi mwy yn y tri mis diwethaf nac y gwnaeth yn ei thair blynedd gyntaf yn dilyn datganoli.

    Er bod llawer o'r arian ychwanegol eisoes wedi cael ei glustnodi, mae disgwyl rhagor o gyhoeddiadau - ac fe allai awdurdodau lleol fod ar flaen y ciw yn aros am ragor o gymorth wrth iddyn nhw deimlo'r wasgfa ariannol.

  6. Cyhoeddi manylion y £2.4bn o wariant ychwanegolwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    Yn ddiweddarach hedddiw fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi eu cyllideb atodol i amlinellu sut fydd £2.4bn o arian i helpu busnesau drwy'r pandemig yn cael ei wario.

    Bydd yn cynnwys £750m ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

    Mae'r gyllideb wreiddiol ar gyfer 2020-21 wedi ei chynyddu o fwy na 10% ers mis Mawrth.

    Daw'r arian ychwanegol o gronfa Trysorlys y DU o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr wrth fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig yno.

    Rebecca Evans
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans yn cyhoeddi'r manylion yn ddiweddarach

  7. Newidiadau posib i arholiadau ysgol 2021wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    Mae'n bosib y bydd yn rhaid gwneud newidiadau i arholiadau ysgol yn haf 2021 oherwydd yr effaith mae'r pandemig wedi'i gael ar ddisgyblion TGAU a Lefel A.

    Gydag arholiadau eleni eisoes wedi'u canslo, fe fydd disgyblion Blynyddoedd 11 ac 13 nawr yn derbyn gradd yn seiledig ar asesiad athrawon a'r gwaith maen nhw eisoes wedi'i gwblhau.

    Ond i ddisgyblion Blynyddoedd 10 a 12 mae'r darlun yn aneglur, gan eu bod nhw ar ganol eu cyrsiau ar hyn o bryd.

    Mae corff Cymwysterau Cymru wedi cydnabod bod dysgwyr wedi wynebu "heriau digynsail ac ansicr".

    arholiadauFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'n llif byw ni heddiw gyda'r diweddaraf unwaith eto ar y pandemig coronafeirws o Gymru a thu hwnt.

    Fe ddown ni â rhai o'r prif benawdau i chi yn y man, yn ogystal â rhagor o newyddion fel mae'n ein cyrraedd ni yn ystod y dydd.