'Lefel uchel o bryder' i ddisgyblion ac athrawonwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2020
Mae undeb athrawon UCAC yn dweud bod yr ansicrwydd ynghylch beth fydd yn digwydd i arholiadau Blwyddyn 10 a 12 yn achosi "lefel uchel o bryder" i ddisgyblion ac athrawon.
"Deallwn pa mor anodd yw rhoi atebion clir pan mae’r sefyllfa’n dal i fod mor aneglur," meddai'r undeb.
"Rydym yn ymwybodol bod Cymwysterau Cymru a CBAC yn edrych ar bosibiliadau fydd yn addasu gofynion y cyrsiau hyn, mewn modd sy’n gydnaws â chynnal y safonau arferol.
"Y flaenoriaeth fydd sicrhau bod modd cwblhau’r cyrsiau mewn ffordd resymol er gwaetha’r cyfnod estynedig o golli gwersi – a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud a’u cyfathrebu cyn gynted â phosib."