Crynodeb

  • Pobl o ddau gartref gwahanol yn cael cwrdd tu allan o ddydd Llun

  • Peilot wedi glanio mewn maes awyr milwrol heb ganiatâd 'i fynd i'r traeth'

  • Ymbellhau 'wedi atal Covid-19 yng ngorllewin Cymru'

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Dyna ni gan griw y llif byw am y diwrnod, ac am yr wythnos.

    Bydd y newyddion diweddaraf ar gael ar ein hafan trwy gydol y penwythnos.

    A chofiwch nad yw'r rheolau newydd yn dod i rym nes dydd Llun!

    Hwyl fawr i chi.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Modd i'r cyhoedd gael prawf mewn canolfan gyrru trwoddwedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    O yfory ymlaen bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu archebu lle mewn canolfannau profi gyrru trwodd am Covid-19 os oes ganddyn nhw symptomau.

    Hyd yma dim ond gweithwyr allweddol sydd wedi gallu gwneud cais am brawf o'r fath.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y cyhoedd yn gallu archebu prawf yn y canolfannau gyrru trwodd o ddydd Sadwrn, 30 Mai."

  3. Osian Wyn Owen ydy Prifardd Eisteddfod Twedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Urdd Gobaith Cymru

    Ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod T gyntaf erioed, datgelwyd mai'r Prifardd eisteddfodol yw Osian Wyn Owen o'r Felinheli.

    Mae'n wyneb cyfarwydd i'r Urdd gan mai ef oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed yn 2018.

    Fe ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Prif Lenor ddydd Iau, ac mae hefyd yn un o'r ychydig rai i gyflawni'r 'dwbl' yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2018, gan ennill y gadair a'r goron.

    Yn wreiddiol o'r Felinheli, mae Osian bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda'i ffrind a chyd-fardd Caryl Bryn a'r gath Grês Elin.

    OsianFfynhonnell y llun, Urdd
  4. Diweddariad wythnos nesaf ar ailagor ysgolionwedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi dweud y bydd diweddariad wythnos nesaf ynglŷn ag ailagor ysgolion.

    Dywedodd ei bod yn pwysleisio fod ysgolion ar gau yng Nghymru, er bod rhai yn dechrau ailagor dros y ffin o ddydd Llun.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cyflogwyr i ddechrau rhannu cost y cynllun saib o'r gwaithwedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth y DU, mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi datgelu y bydd disgwyl i gyflogwyr ddechrau rhannu'r gost o'r cynllun saib o'r gwaith - furlough.

    O fis Awst bydd yn rhaid i gyflogwyr dalu Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yna ddechrau talu 10% o gyflogau fis Medi, ac yna 20% erbyn Hydref.

    Bydd gweithwyr yn cael dychwelyd i'w gwaith rhan-amser o fis Gorffennaf, ond cyflogwyr fydd yn talu 100% o'u cyflog.

    Hyd yn hyn mae Llywodraeth y DU wedi bod yn talu 80% o gyflogau gweithwyr, hyd at £2,500 y mis, i 8.4 miliwn o weithwyr fel rhan o'r cynllun.

    Rishi Sunak
  6. Arweinydd cyngor yn rhwystredig am fand eang gwaelwedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi mynegi ei rwystredigaeth ei fod yn gorfod ceisio rhedeg awdurdod lleol o gartref gyda band eang gwael.

    Mae Hugh Evans wedi bod yn arwain y cyngor o'i fferm ger pentref Llanelidan, Rhuthun, ond mae wedi gorfod defnyddio ffôn i gyfrannu i sgyrsiau tra bod ei gyd-weithwyr yn gwneud hynny ar-lein.

    Dywedodd Mr Evans ei bod yn anodd cael y cadeirydd i ddeall ei fod eisiau gwneud sylw, a bod rhaid iddo fod "ychydig yn amharchus a thorri ar draws rhywun".

    "Dydy o ddim yn sefyllfa ddelfrydol. Ble rydw i'n byw, mewn ardal wledig, dyw'r buddsoddiad digidol ddim wedi cyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd mewn trefi a dinasoedd," meddai.

    Hugh Evans
  7. 1,395 o ddirwyon Covid-19 wedi'u rhoi yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mae wedi dod i'r amlwg fod Heddlu Dyfed-Powys wedi rhoi mwy o ddirwyon am dorri cyfyngiadau coronafeirws na'r tri llu heddlu arall yng Nghymru gyda'i gilydd.

    Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau heddiw yn dangos bod 1,395 o ddirwyon wedi'u rhoi gan yr heddlu yng Nghymru ers dechrau'r cyfyngiadau.

    O'r rheiny roedd 816 yn ardal Dyfed-Powys, 256 gan Heddlu Gogledd Cymru, 217 gan lu De Cymru a 91 yng Ngwent.

    Cafodd y 15 dirwy arall eu rhoi gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

  8. Cwpl o Langefni'n priodi dros Zoomwedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Nosweithiau cwis, canu gyda'r côr, sgyrsiau efo Taid a Nain, cystadlu mewn eisteddfod… mae pobl wedi arfer gyda phob math o ddigwyddiadau dros y we erbyn hyn - ond priodas?

    Dyna mae cwpl o Ynys Môn wedi gwneud, gan gynnal gwasanaeth yn 'stafell fyw eu fflat, gyda'u gwesteion yn gwylio'r cyfan dros y we ar eu cyfrifiaduron gartref.

    Ac nid dyna'r unig beth oedd yn ei gwneud yn briodas wahanol, gan mai Elin Fflur wnaeth gynnal y seremoni, Arfon Wyn a'r Moniars fu'n canu i'r cwpl priod tu allan i'w tŷ a'r cogydd Chris 'Foodgasm' Roberts wnaeth y bwyd i'w gludo i'r gwesteion.

    Nia a Danny Hughes, o Langefni, ydy'r cwpl hapus, a Cylchgrawn Cymru Fyw fu'n sgwrsio â nhw.

    CwplFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
  9. Iechyd Cyhoeddus Cymru'n diolch i'w staffwedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Cyhoeddi cynllun prifysgol i ailagorwedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyhoeddi eu cynlluniau i ailagor ar gyfer y tymor academaidd nesaf.

    Dywedon nhw eu bod wedi bod yn "datblygu" dulliau addysgu er mwyn "sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio ar ddosbarthiadau bychain a chefnogaeth un am un helaeth" gan ddarlithwyr, yn hytrach na "darpariaeth eang o ddarlithoedd mawr".

    Bydd cyrsiau’n cael eu cynnal ar-lein ac ar y campws.

    Yn ôl y brifysgol, maen nhw hefyd wedi gwneud cynlluniau wrth gefn os oes "cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu gosod ar ryddid teithio, o ganlyniad i ‘ail don’ o Covid-19".

    MetFfynhonnell y llun, Google
  11. Pris olew gwresogi ar ei isaf ers degawdauwedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Adroddiadau fod rhai'n prynu tanciau olew ychwanegol i fanteisio ar brisiau isel olew gwres canolog.

    Read More
  12. 'Pum milltir ddim yn ddigon'wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Cyril Breeze Evans

    Mae ein gohebydd ym Machynlleth wedi bod yn casglu mwy o ymateb i lacio'r cyfyngiadau.

    “Yn bersonol, dwi'n meddwl bod hi'n lot o beth bod ni yn gallu gweld rhywun, achos mae fy mhlant i gyd yn byw ym Machynlleth neu o gwmpas, a dwi ddim wedi gallu gweld fawr o ddim arnyn nhw," meddai Cyril Breeze Evans.

    "Felly bydd hi reit neis gallu gweld ychydig – dim ond ein bod ni'n cadw pethau yn rhesymol a gwneud yn siŵr bod pawb yn cadw'n saff a defnyddio common sense.

    "I fi dyw pum milltir ddim yn ddigon oherwydd mewn ardal fel Bro Ddyfi er enghraifft gallan nhw fentro gwneud e'n 10 milltir.

    "Dwi ddim yn meddwl bod hi'n mynd i wneud lot o wahaniaeth petai'n 10 milltir o ran pa mor saff ydy rhywun, ond bydd yn gwneud lot o wahaniaeth i'r teuluoedd allu cwrdd efo pobl dy'n nhw ddim wedi gweld ers talwm bellach.”

  13. 'Protest' uwchben pencadlys heddluwedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Nid gêm yw'r cyfyngiadau coronafeirws'wedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Nid "gêm" yw'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y prif weinidog.

    O ddydd Llun bydd hawl i bobl o ddau gartref gyfarfod yn yr awyr agored, os ydyn nhw'n aros o fewn pum milltir i'w cartrefi - rhywbeth sy'n annheg ar gymunedau gwledig meddai rhai.

    Mewn cyfweliad gyda'r BBC ar ôl cyhoeddi llacio i'r rheolau, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn deall y bydd "rhai anghysondebau".

    Ychwanegodd: "Ond nid gêm yw hyn ble y'n ni'n gofyn i bobl ddarganfod ffordd o amgylch y cyfyngiadau."

    "Mae'r coronafeirws dal yng Nghymru. Mae coronafeirws yn parhau i ladd."

  15. 'Croesi bysedd y bydd cwsmeriaid'wedi ei gyhoeddi 14:57 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mae 'na fwy o ymateb i gyhoeddiad y prif weinidog ar lacio cyfyngiadau yn ein cyrraedd o Dredegar.

    Mae Darren Williams yn emydd yn y dref, a dywedodd ei fod yn paratoi i agor ei siop yn fuan wedi datganiad Mark Drakeford heddiw.

    "Croesi bysedd ar y 18fed y bydd o'n dweud rhywbeth positif a byddwn ni'n gallu agor," meddai.

    "Dy'n ni'n aros am fwy o berspex ac mae'r arwyddion yn barod, felly rydyn ni wedi paratoi am covid, dim ond croesi bysedd y bydd cwsmeriaid."

    Ychwanegodd: "Dy'n ni'n hapus, dydy o ddim yn rhywbeth ni moyn rhuthro mewn iddo."

  16. 'Anodd i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig'wedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mae un o'n gohebwyr wedi bod ym Machynlleth i gasglu'r farn ar y newidiadau bychan i'r cyfyngiadau gafodd eu cyhoeddi'n gynharach.

    “Ma’ rhieni fi’n byw yn Llandysul felly mae’n rhy bell i fi deithio,” meddai’r cerddor Owen Shiers, sy’n byw ar gyrion Machynlleth.

    “Felly s’dim lot o newid i fi’n bersonol.

    “Fi’n gweld y synnwyr i’r peth, ond i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad mae e falle bach yn fwy anodd.

    "Ni ddim yn byw mewn dinasoedd neu drefi felly falle bod e’n fwy anodd i bobl sydd mewn ardaloedd gwledig i deithio i weld ffrindiau a theulu."

    Owen Shiers
  17. 'Marathon, nid sbrint yw'r frwydr'wedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - sy'n cynrychioli'r 22 awdurdod lleol - wedi croesawu "agwedd bwyllog" Llywodraeth Cymru ar lacio'r cyfyngiadau.

    Dywedodd arweinydd CLlLC a Chyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan: "Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer wedi bod yn pryderu am fethu gweld teulu a ffrindiau dros y misoedd diwethaf.

    "Bydd yr addasiad bach yma o ddydd Llun yn galluogi pobl i weld ei gilydd, ond mae’n rhaid i ni i gyd i barhau i ymddwyn yn gyfrifol ac i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru."

    Ychwanegodd Mr Morgan y bydd y cam nesaf, o "brofi, olrhain ac amddiffyn" yn "hollbwysig i oresgyn yr haint yn y pen draw".

    “Mae pobl ar draws Cymru wedi bod yn ardderchog yn glynu at reolau Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf, sydd wedi ein galluogi ni i lefelu’r gromlin," meddai.

    "Ond marathon nid sbrint yw’r frwydr yn erbyn coronafeirws.

    "Rydyn ni’n deall bod y gyfradd R mewn rhai rhannau o Gymru yn dal i fod yn agos i 1 o hyd, felly dyma pam y mae’n rhaid i ni barhau i gymryd gofal.”

    Andrew Morgan
  18. 10 yn rhagor wedi marw â coronafeirwswedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 10 o bobl wedi marw yn y 24 awr ddiwethaf ar ôl cael prawf positif am Covid-19.

    Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 1,317 wedi marw ar ôl profi'n bositif.

    Daeth cadarnhad hefyd bod 102 o achosion newydd wedi'u cadarnhau, gan ddod â'r cyfanswm yng Nghymru i 13,827.

  19. Rheol pum milltir: 'Gwnewch e mewn cyd-destun lleol'wedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd yn gynharach bod yn rhaid defnyddio "synnwyr cyffredin" wrth ddilyn y rheol i deithio llai na phum milltir i gwrdd â theulu a ffrindiau tu allan.

    Yn ôl Mark Drakeford, os ydych chi'n gorfod teithio dros bum milltir i fynd i'r archfarchnad agosaf, yna byddai'n rhesymol teithio'r un pellter i weld ffrindiau.

    Disgrifiad,

    Rheol pum milltir: 'Gwnewch e mewn cyd-destun lleol'

  20. Menter amgylcheddol i gofnodi cyfnod coronafeirwswedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Edrych ar sut mae'r cyfyngiadau wedi effeithio ar natur, llygredd, defnydd o ynni a thraffig.

    Read More