Crynodeb

  • Pobl o ddau gartref gwahanol yn cael cwrdd tu allan o ddydd Llun

  • Peilot wedi glanio mewn maes awyr milwrol heb ganiatâd 'i fynd i'r traeth'

  • Ymbellhau 'wedi atal Covid-19 yng ngorllewin Cymru'

  1. Cam cyntaf 'synhwyrol'wedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Wrth ymateb i'r newid yn y cyfyngiadau, mae Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru wedi ei alw'n "gam cyntaf synhwyrol".

    Dywedodd Nicky Hughes o'r corff y byddai'r newid yn "bositif iawn" i iechyd meddwl pobl.

    Ychwanegodd: "Ond mae'n rhaid cofio'r pethau eraill soniodd y prif weinidog amdanynt, fel pellter cymdeithasol a glanhau dwylo.

    "Mae'n bwysig ein bod yn dal i amddiffyn y bobl sydd wedi camu mewn i'n helpu ni ac i ofalu amdanom ni.

    NyrsysqFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Gallu i lacio mesurau yn 'gyfyng'wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Yn siarad ar raglen BBC Breakfast y bore 'ma mae Mr Drakeford wedi dweud mai caniatau i bobl o ddau gartref i gyfarfod ydy'r unig newid mawr i'r cyfyngiadau sy'n bosib ar hyn o bryd.

    Dywedodd bod y gyfradd trosglwyddo - y ffigwr R - yn parhau yn 0.8 ar hyn o bryd. Mae cadw'r gyfradd o dan 1 yn cael ei weld yn hollbwysig.

    "Mae hynny'n golygu bod y lle i wneud newidiadau yn gyfyng iawn, ac fe allwn wneud un prif beth."

    Wrth ymateb i feirniadaeth o'r rheolau, dywedodd ei fod yn "anorfod" y byddai "rhywfaint o anhegwch yn y system". Ychwanegodd ei fod yn rhoi "caniatâd" i gyfarfod, "nid gwahoddiad".

  3. Disgwyl llacio cyfyngiadau heddiwwedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Ein prif stori y bore 'ma ydy cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru yn ddiweddarach heddiw.

    Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi rhywfaint o lacio i'r cyfyngiadau, fydd yn galluogi pobl o ddau gartref i gyfarfod y tu allan.

    Mae BBC Cymru yn deall y bydd dal rhaid i bobl gadw pellter cymdeithasol o 2m rhyngddynt, ac ond cyfarfod pobl o fewn eu hardaloedd lleol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar ddydd Gwener 29 Mai.

    Arhoswch gyda ni am y diweddara' am haint coronafeirws o Gymru a thu hwnt yn ystod y dydd.