Crynodeb

  • Pobl o ddau gartref gwahanol yn cael cwrdd tu allan o ddydd Llun

  • Peilot wedi glanio mewn maes awyr milwrol heb ganiatâd 'i fynd i'r traeth'

  • Ymbellhau 'wedi atal Covid-19 yng ngorllewin Cymru'

  1. Polisi 'anymarferol' i gefn gwladwedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi dweud bod aros o fewn pum milltir yn "anymarferol" ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

    Fe wnaeth Mark Drakeford ddweud y byddai'n rhaid i bobl mewn ardaloedd gwledig ddefnyddio synnwyr cyffredin a gwneud penderfyniad yn ddibynnol ar eu sefyllfaoedd.

    Ond mae AS Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ddweud bod y rheol yn rhoi pobl yng nghefn gwlad dan anfantais.

    "Mae cynllun sy'n ffafrio'r rhai mewn dinasoedd yn annheg ac yn bolisi arall sy'n canolbwyntio ar Gaerdydd gan lywodraeth sy'n ymddangos yn anwybyddu anghenion Cymru wledig."

  2. Cyngor i beidio ymweld yn parhauwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn yn y gynhadledd, dywedodd Mark Drakeford bod pobl sy'n teithio i mewn i Gymru dal i fod yn destun y rheolau i gadw'n lleol.

    Dywedodd bod ei lywodraeth yn dal i gynghori pobl i beidio ymweld â Chymru am y tro: "Dewch i Gymru nes ymlaen, nid nawr."

    Ychwanegodd bod yr awdurdodau wedi dweud wrtho fod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi eu hatal gan yr heddlu wrth geisio teithio i Gymru wedi derbyn cyngor swyddogion, ac yn barod iawn i droi'n ôl.

  3. Rheol pum miltir: 'Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin'wedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd bod yn rhaid defnyddio "synnwyr cyffredin" wrth ddilyn y rheol i deithio llai na phum milltir i gwrdd â theulu a ffrindiau tu allan.

    Yn ôl Mark Drakeford, os ydych chi'n gorfod teithio dros bum milltir i fynd i'r archfarchnad agosaf, yna byddai'n rhesymol teithio'r un pellter i weld ffrindiau.

    "Rwy'n gofyn i bobl defnyddio eu synnwyr cyffredin. Y pellach rydych chi'n teithio, y mwyaf yw'r risg i chi ac eraill," meddai.

    "Os ydych chi'n gallu cael bwyd, meddyginiaeth a phethau allweddol eraill o fewn pum milltir - dyna ddylech chi ei wneud.

    "Os ydych chi mewn rhan o Gymru sy'n golygu bod yn rhaid teithio ymhellach, defnyddiwch eich synnwyr cyffredin."

  4. Ffigwr R dal heb newid yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Daw'r newid heddiw er bod cyfradd trosglwyddo'r haint - y ffigwr R - yr un peth ag oedd tair wythnos yn ôl.

    Dywedodd Mr Drakeford nad oedd y ffigwr wedi gwella, ac felly nad oedd modd gwneud newidiadau mwy.

    Ond gan fod nifer yr achosion wedi bod yn cwympo yn raddol ers mis Ebrill, dywedodd mai'r cyngor gwyddonol "clir iawn" oedd cyflwyno newidiadau "un cam ar y tro".

    MD
  5. Beth fydd y camau nesaf?wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford hefyd wedi datgan y dylai busnesau manwerthu sydd ddim yn rhai hanfodol, sy’n gallu cydymffurfio â’r rheolau ar gadw pellter corfforol, ddechrau paratoi i ailagor yn ystod y tair wythnos nesaf.

    Bydd penderfyniad a fydd siopau yn ailagor yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf ar 18 Mehefin.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru, yn ystod yr adolygiad nesaf, y byddan nhw hefyd yn edrych ar:

    • Cynyddu’r capasiti ar gyfer gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi mwy o unigolion i ddychwelyd i’r gwaith;
    • Hwyluso symud tŷ er mwyn hybu’r farchnad dai;
    • Ailagor safleoedd awyr agored, gan gynnwys marchnadoedd awyr agored, cyrtiau chwaraeon, ystafelloedd arddangos yn yr awyr agored ac amgueddfeydd awyr agored;
    • Ailagor cyfleusterau i athletwyr elît sydd ddim yn broffesiynol er mwyn eu galluogi i hyfforddi’n ddiogel.
  6. Beth yw'r newidiadau eraill i'r cyfyngiadau?wedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd bod modd i bobl o gartrefi gwahanol gyfarfod mewn mannau awyr agored preifat, fel gerddi.

    Mae'r llywodraeth yn cydnabod y "daw hyn â risg uwch o haint oherwydd y gallai pobl fod yn gorfod mynd drwy gartref preifat rhywun er mwyn cyrraedd yr ardd".

    Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu canllawiau ar y camau y gellir eu cymryd "i gadw’r risgiau hynny mor isel â phosib".

    Un newid arall i'r canllawiau yw bod caniatâd i gynnal priodasau a phartneriaethau sifil os oes gan un o’r partneriaid salwch angheuol.

    Bydd mannau prydferth a safleoedd twristaidd yn parhau ar gau.

    PriodasFfynhonnell y llun, Thinkstock
  7. Apêl i 'gadw Cymru’n ddiogel drwy aros yn lleol'wedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gadarnhau'r newidiadau i'r cyfyngiadau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Rydym yn gwybod bod pobl yn gweld eisiau gweld eu teuluoedd a’u ffrindiau – mae’r dystiolaeth ddiweddaraf, sy’n sail i’r adolygiad hwn, yn golygu y gallwn wneud rhai newidiadau i alluogi pobl i gyfarfod eto, os yw hynny yn yr awyr agored ac yn lleol, a bod pobl yn parhau i ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

    “Rydym yn dysgu mwy am y feirws hwn bob dydd ac rydym yn gwybod bod y risg o’i drosglwyddo yn is yn yr awyr agored na dan do.

    "Dyna pam, os ydym i gyd yn parhau i gadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth ein gilydd, y bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat.

    "Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hyn mae’n hanfodol bod pawb yn parhau i gadw pellter cymdeithasol fel y gallwn fynd i’r afael â lledaeniad y feirws hwn.

    “Nawr ac yn ystod y dyddiau a’r misoedd sydd i ddod mae gennym i gyd gyfrifoldeb personol i sicrhau nad yw ein camau gweithredu yn cyfrannu at ledaeniad y coronafeirws. Plîs helpwch i gadw Cymru’n ddiogel drwy aros yn lleol.”

  8. Llywodraeth Cymru'n cadarnhau'r llacio i'r cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fel y disgwyl, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r llacio i'r cyfyngiadau coronafeirws, fydd yn dod i rym ddydd Llun.

    Bydd aelodau dau gartref yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored cyn belled â'u bod yn cadw at y rheolau o ran cadw pellter cymdeithasol.

    Dywedodd y llywodraeth "yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref, i leihau’r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu o ardal i ardal".

    "Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn allweddol gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dweud wrthym nad yw’r feirws ond yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond ei fod yn goroesi am oriau ar arwynebau o dan do," meddai datganiad y llywodraeth.

    Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad o’r cyfyngiadau yng Nghymru, sy'n digwydd pob tair wythnos.

    CyfarfodFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Cyhoeddiad y prif weinidog yn fuanwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Rhy gynnar i godi'r cyfyngiadau yn y gogledd?wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i lacio'r cyfyngiadau coronafeirws yn rhagor, beth yw'r teimlad yn y gogledd?

    Read More
  11. Sioe Cerrigydrudion wedi'i gohirio am eleniwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mae Sioe Amaethyddol Cerrigydrudion, sydd wedi cael ei chynnal yng Nghorwen ers 1873, wedi cyhoeddi na fydd yn mynd yn ei blaen eleni.

    Dyma un o'r sioeau sy'n cael ei chynnal olaf yn y calendr yng Nghymru fel arfer, gan gael ei chynnal ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Medi.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  12. Peilot wedi hedfan i Gymru i 'fynd i'r traeth'wedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    FaliFfynhonnell y llun, OpenStreetMap
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd y peilot wedi parcio ei awyren ar "llain lanio 19, gyferbyn â'r traeth"

    Fe wnaeth peilot preifat lanio ar faes awyr milwrol ar Ynys Môn heb ganiatâd gan ei fod eisiau "mynd i'r traeth".

    Teithiodd y peilot o Surrey i RAF Y Fali ar ŵyl y banc 25 Mai - pan oedd gwaith cynnal a chadw'n digwydd ar y safle.

    Roedd staff yn meddwl ei fod wedi glanio oherwydd problem frys, ond dywedodd y dyn ei fod wedi "hedfan o Lundain i fynd i lan y môr".

    Yn ôl adroddiad am y digwyddiad, roedd staff wedi dweud wrth y peilot nad oedd y maes awyr ar agor i'r cyhoedd a bod cyfyngiadau Covid-19 mewn grym yng Nghymru, ond dywedodd yntau ei fod "yn iawn gan iddo ei gael [y feirws] ddeufis yn ôl".

    Dywedodd yr Awyrlu bod yr Awdurdod Hedfan Sifil wedi cael gwybod am y digwyddiad.

  13. Annog perchnogion siopau i baratoi am ailagorwedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd roi gobaith i berchnogion siopau sydd ddim yn rhai angenrheidiol, gan awgrymu y gallai fod yna wybodaeth yn fuan ynglŷn â phryd y byddan nhw'n cael ailagor.

    Fe wnaeth y Prif Weinidog eu hannog i "baratoi i wneud pethau'n ddiogel" fel y gallan nhw ailagor yn syth pan mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd hi'n ddiogel i wneud hynny.

    "Defnyddiwch y tair wythnos nesaf i baratoi a rhoi mesurau diogelwch mewn lle, felly os ydyn ni mewn safle i'w gadael i ailagor, maen nhw'n barod," meddai.

    SiopaFfynhonnell y llun, PA
  14. Y rheolau newydd 'ddim yn esgus i fynd draw am gwrw'wedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth BBC Radio Wales y bore 'ma na ddylid defnyddio'r rheolau newydd fel esgus i fynd i gartrefi pobl eraill yn ddiangen.

    "Os oes angen cwrdd mewn gardd mae modd i chi wneud hynny ond peidiwch mynd i mewn i'r tŷ," meddai Mark Drakeford.

    "Rydyn ni'n cynnig caniatâd i wneud hyn ond nid yw'n wahoddiad i fynd draw i ardd rhywun, cael ambell gwrw a chymysgu mewn ffordd allai eich niweidio chi ac eraill.

    "Rhaid i ni ddefnyddio ein synnwyr cyffredin a chymryd cyfrifoldeb. Ni ddylai pobl wneud yr hyn sy'n peryglu tanseilio'r rheolau."

    Ychwanegodd ei fod yn cydnabod ei bod yn "anodd iawn i'r rheiny sydd â theulu sy'n byw yn bellach na phum milltir i ffwrdd, ond maen nhw'n cyfrannu at wneud Cymru'n ddiogel."

    CwrwFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. 'Rhyddhad' cael hwylio etowedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    BBC Sport Wales

    Hannah MillsFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae'n "ryddhad mawr" i gael hwylio ar y dŵr eto, yn ôl y pencampwr Olympaidd Hannah Mills.

    Mae hwylwyr Tîm Prydain wedi cael dychwelyd i ymarfer ers yn gynharach ym mis Mai, ond fe fydd Mills yn cael ymarfer gyda'i phartner hwylio Eilidh McIntyre wedi'r newid i gyfyngiadau o ddydd Llun.

    Dywedodd Mills: "Dwi wir yn edrych ymlaen at gael bod allan yna.

    "Am y teimlad o fod ar y dŵr fwy na dim. Mae'n deimlad mor arbennig ac unigryw ac mae'r cyfnod yma yn gwneud i rywun sylweddoli pa mor arbennig ydy hynny."

  16. Podlediad newydd i'ch diddanu yn ystod saib chwaraeonwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Gleision Caerdydd

    Wrth i'r byd chwaraeon gymryd seibiant annisgwyl ar hyn o bryd, mae rhanbarth rygbi'r Gleision wedi mynd ati i ddechrau podlediad Cymraeg.

    Dywedodd swyddog cyfryngau'r rhanbarth, Owain Gruffudd: "Mae'n gyffrous am fod ganddon ni gymaint o westeion posib sy'n gysylltiedig â'r clwb, chwaraewyr, cyn-chwaraewyr, hyfforddwyr, staff a chefnogwyr amlwg sy'n ymfalchio yn yr iaith.

    "O'r ymateb yr ydan ni wedi cael ers lansio ddoe mae yna'n sicr flas am sgyrsiau rygbi drwy gyfrwng y Gymraeg.

    "Rydan ni yn falch i ddweud mai ni ydy'r clwb chwaraeon proffesiynol cyntaf i gyhoeddi podlediad fel hyn."

    Cyn-ganolwr Cymru a'r Gleision, Jamie Roberts ydy'r gwestai cyntaf, ac mae'r podlediad ar gael ar y gwefannau arferol neu ar wefan y Gleision.

    Jamie RObertsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  17. Cyngor yn 'parhau'n hyderus' dros ail ddatblygiadwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Gall prosiect £135m i ddenu pobl i Abertawe oroesi mesurau pellhau cymdeithasol, medd arbenigwyr.

    Read More
  18. 'Ymbellhau cefn gwlad wedi atal lledaeniad'wedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Mike Simmons

    Mae microbiolegydd sy'n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud wrth BBC Cymru bod "ymbellhau yng nghefn gwlad" wedi llwyddo i atal Covid-19 rhag lledu yng ngorllewin Cymru.

    Mae Dr Mike Simmons, ymgynghorydd ym maes iechyd cyhoeddus, wedi cyfaddef bod lledaeniad coronafeirws wedi bod yn "hollol wahanol" i'r hyn oedd wedi ei ragweld yn wreddiol, gyda phryder y byddai yna benllanw mawr o achosion.

    Yng Ngheredigion, mae'r ystadegau presennol yn dangos bod yna 57.5 achos o ar gyfer bob 100,000 o'r boblogaeth. Mae hynny o'i gymharu gyda 643 o achosion i bob 100,000 ym Merthyr Tydfil a 655 i bob 100,000 yn Rhondda Cynon Taf.

    Mae'r ffigyrau wedi bod yn uwch yn Sir Gâr (386/100,000) ac yn Sir Benfro (222.3/100,000) sydd hefyd yn rhan o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

    Yn ôl Dr Simmons, mae'r dwysedd poblogaeth is a'r ymbellhau naturiol yng ngefn gwlad wedi chwarae rhan allweddol.

    "Mae ymbellhau gwledig yn nodwedd amlwg. Mae llai o bobl o gwmpas, ac mae'r ardaloedd gwledig ar ei hôl hi o ran lledaeniad y feirws.

    "Mae hynny yn golygu ein bod ni wedi medru paratoi. Roedd pobl yn ymbellhau cyn iddo gyrraedd yma."

  19. Cyhoeddiad yn 'ddatrysiad trefol' yn unigwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y llywodraeth wedi "methu cyfle" gyda'r cyhoeddiad ar y cyfyngiadau heddiw.

    Dywedodd Darren Millar AS bod y polisi yn "ddatrysiad trefol" gan lywodraeth sydd "ond yn poeni am fywyd mewn dinasoedd a threfi".

    "Bydd cyfyngiad pum milltir i gyfarfod teulu a ffrindiau yn galluogi i bobl deithio o un pen o Gaerdydd i'r llall, ond yng Nghymru wledig ni fydd llawer yn gallu teithio i'w tref neu bentref agosaf."

    Ychwanegodd bod y cyhoeddiad hefyd yn methu a rhoi newyddion positif i fusnesau.

  20. Llywodraeth Cymru'n cadarnhau'r newidwedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter