Crynodeb

  • Ailagor ysgolion Cymru ar 29 Mehefin

  • Ymateb cymysg gan undebau addysg i'r cyhoeddiad am ailagor ysgolion

  • 17 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi

  • Covid-19: Galw am ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru

  • Y sector ffilm a theledu 'angen help' i ailgychwyn

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni am heddiw - ar y diwrnod y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd ysgolion Cymru yn ailagor ar 29 Mehefin a bod y tymor yn ymestyn am wythnos arall hyd at 27 Gorffennaf.

    Cofnodwyd 17 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 gan ddod â'r nifer y marwolaethau yng Nghymru i 1,371 ac roedd yna 82 achos newydd.

    Yn y Senedd mae'r gwrthbleidiau wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r modd y mae'r llywodraeth wedi delio â'r haint.

    Bydd straeon diweddaraf ddydd Mercher i'w gweld ar wefan Cymru Fyw a bydd y llif byw yn dychwelyd fore Iau.

    Tan hynny, hwyl - a diolch am ddarllen.

  2. Angen cydweithio wrth edrych ymlaenwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Bydd sefydliadau addysg bellach yn agor o Fehefin 15.

    Mae Colegau Cymru wedi croesawu hyn.

    Dywedodd Iestyn Davies bod "nifer o heriau o'n blaenau a bydd y model er mwyn darparu addysg bellach yn gorfod addasu yn y tymor byr, canolig a hir dymor."

    Ychwanegodd mai'r ffordd i wneud hyn oedd cydweithio gydag undebau a Llywodraeth Cymru a rhoi lles y rhai sydd yn dysgu gyntaf.

  3. Dirprwy wedi cael siocwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae un dirprwy bennaeth ysgol yn dweud ei fod wedi cael sioc gan benderfyniad y Gweinidog Addysg prynhawn yma.

    Dywedodd nad oedd yn ymwybodol bod yna ymgynghoriad wedi bod gan unrhyw brifathro.

    "Roeddwn i yn gegrwth- doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl," meddai Dave Roberts sydd yn ddirprwy Ysgol Heol Y Celyn ym Mhontypridd.

    Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd plant yn ôl yn yr ysgol am fwy na diwrnod neu ddau cyn diwedd y tymor ond nad oedd ysgolion yn "wasanaeth gofal plant"

  4. Dim amserlen i ail gychwyn gemau rygbiwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    BBC Sport Wales

    Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips wedi dweud na ddylid gosod amserlen ynglŷn â phryd y bydd gemau rygbi yn ail gychwyn yn sgil y pandemig.

    Tra bod disgwyl i gemau Pêl Droed ym Mhrydain gychwyn o ganol y mis hwn dyw rhanbarthau rygbi Cymru ddim yn bwriadu ail ddechrau tan ddiwedd Awst ar y cynharaf.

    Fe wnaeth Martyn Phillips hefyd gadarnhau na fydd y gêm gymunedol yn ail gychwyn yr un pryd a’r gêm broffesiynol yma.

    Martyn PhillipsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  5. Barn un rhiantwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae un rhiant wedi bod yn siarad gyda'r Post Prynhawn am ei deimladau ef ynglŷn â'r cyhoeddiad.

    Dywedodd Madog Davies, sydd yn rhiant i ferch sydd ym mlwyddyn 6 un o ysgolion Caerdydd ac ar fin mynd i’r ysgol uwchradd ym mis Medi na fydd ei ferch yn dychwelyd y mis yma.

    "I ni wedi gwneud y penderfyniad fel rhieni fydd hi ddim yn mynd `nol i’r ysgol y flwyddyn gron yma.

    "Ni wedi gwneud y penderfyniad achos iechyd teuluol a bod ni ddim yn rhoi pwysau ar y system addysg fel mae e, achos maen nhw wedi gwneud swydd ardderchog yn neud y gwaith cartre’.

    "Ni yn gweld bod pontio falle yn mynd i gael ei ddiddymu'r flwyddyn yma rhwng blwyddyn 6 a mynd i flwyddyn 7 ond bydd rhaid ni ffeindio ffordd arall rownd hynny," meddai.

    Madog DaviesFfynhonnell y llun, bbc
  6. Galw am ymchwiliad annibynnol yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Senedd Cymru

    Yn nghyfarfod llawn y Senedd mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyflwyno datganiad sy'n amlinellu ymateb y Llywodraeth i coronafeirws.

    Mae'r gwrthbleidiau yn gofyn am ychwiliad annibynnol i'r modd y deliwyd â'r argyfwng a hynny cyn etholiadau'r Senedd yn 2021.

    Mae modd gwylio'r cyfarfod llawn drwy glicio ar frig y dudalen yma.

  7. Ar y Post Prynhawn heddiw...wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Cofiwch am y Post Prynhawn yng nghwmni Aled Huw.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  8. Y Gweinidog Addysg yn poeni am blant breguswedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Yn y Senedd dywedodd Kirsty Williams ei bod yn methu cysgu'r nos yn meddwl am blant bregus a bod dychwelyd i'w hysgol eu hunain, mewn amgylchiadau diogel, yn bwysig iddyn nhw.

    Mae rhai eisoes wedi dangos eu gwrthwynebiad ar y cyfryngau cymdeithasol ond mae eraill yn credu ei fod yn syniad da "gweithredu cyn yr haf yn hytrach nag ym Medi".

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  9. Myfyrwyr o'r un cyrsiau i gymysgu?wedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    The Guardian

    Mae’n bosib y bydd myfyrwyr prifysgolion yn gorfod byw mewn llety gydag eraill sydd yn gwneud yr un cwrs a nhw medd The Guardian.

    Ymhlith y cynlluniau sydd yn cael eu hystyried mae'r syniad y byddai myfyrwyr dim ond yn cymdeithasu gydag eraill sydd yn gwneud yr un cyrsiau ac yn yr un flwyddyn er mwyn lleihau’r risg o ymledu coronafeirws.

    Pan fyddai myfyrwyr a staff ar gampws y prifysgolion byddai system un ffordd yn bodoli.

    Mae prifysgolion hefyd yn cynllunio digwyddiadau rhithwir yn hytrach nag wythnos y glas sydd fel arfer yn digwydd ym mis Medi a Hydref.

    MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Meysydd parcio dal ar gauwedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae Cyngor Penfro wedi dweud bod eu meysydd parcio ar gyfer atyniadau a llecynnau hardd yn parhau ar gau.

    Y neges medd y cyngor yw bod teithio dal wedi ei gyfyngu i’ch ardal leol.

    Dyw cyfleusterau tai bach ddim ar agor a does yna neb yn cadw golwg ar y rhai sydd yn mentro i’r môr chwaith medd y cyngor.

  11. 'Mae'n bwysig i bob plentyn gael cyfle i fynd nôl i'r ysgol,' medd y Gweinidog Addysgwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Senedd Cymru

    Wrth ateb cwestiynau gan y gwrthbleidiau yng nghyfarfod llawn y Senedd ar ailagor ysgolion mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn dweud bod hi'n bwysig fod pob plentyn yn cael y cyfle i fynd yn ôl i'r ysgol cyn diwedd yr haf.

    Fel arall fe fyddai plant wedi bod o'r ysgol am 23 wythnos, meddai.

    Dywed y bydd ysgolion unigol yn cysylltu â'i disgyblion i drafod yr union amserau y bydd angen iddynt fynd i'r ysgol.

    Bydd y dosbarthiadau yn fach, meddai, ac yn cwrdd â gofynion ymbellhau cymdeithasol.

    Kirsty Williams
  12. 10 o draethau'n unig gyda swyddogion diogelwchwedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Dim ond 10 o draethau fydd gyda swyddogion diogelwch yr haf hwn meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

    Wrth siarad yn ystod y cyfarfod rhithwir mae wedi rhybuddio na fydd yna “wasanaeth llawn gwylwyr y glannau fel rydyn ni wedi bod mor falch i weld yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

    Ar draws Prydain o Fehefin 20 tan ddechrau Medi bydd y gwasanaeth achub ond yn gweithredu 30% o’r lefelau arferol o achos y cyfyngiadau mae’r pandemig coronafeirws wedi ei achosi.

    Traeth yn y BarriFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fydd yna ddim golygfeydd fel hyn ar draethau Cymru am gyfnod

  13. Coronafeirws: 'Penderfyniadau anodd' Cymro yn Ohiowedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Effaith y pandemig ar Ohio trwy lygaid Cymro sy'n rheolwr ffatri yno

    Read More
  14. Anfodlonrwydd ymysg rhai am gyhoeddiad ysgolionwedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Twitter

    Ymateb cymysg sydd wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol i'r cyhoeddiad i ailagor ysgolion ddiwedd Mehefin. Dyma leisiau rhai ar Twitter sydd yn anfodlon gyda'r penderfyniad heddiw:

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X 2

    Diwedd neges X 2
    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X 3

    Diwedd neges X 3
  15. Pofiad mam newydd mewn pandemigwedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  16. Achosion diweddaraf Covid-19: Rhagor o fanylionwedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  17. Angen profi 'yr holl weithlu addysg'wedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae undeb Unison Cymru wedi dweud ei bod yn rhwystredig nad yw Kirsty Williams wedi crybwyll profi'r gweithlu addysg i gyd yn ei datganiad heddiw.

    “Mae hyn yn codi pryderon am sut bydd y strategaeth ehangach yn cael ei gweithredu ac os fydd y gweithlu addysgol ehangach, nifer sydd yn fenywod ar gyflogau isel, yn cael ystyriaeth gyfartal,” meddai Rosie Lewis o’r undeb.

    Ychwanegodd bod ail agor ysgolion “ddim mor syml a gwneud yn siŵr bod dosbarthiadau yn saff a phrofi athrawon.”

    Mae'r system addysg yn dibynnu ar yr “holl weithlu yn yr ysgol” meddai, ac mae angen adlewyrchu hynny yn y strategaeth brofi.

  18. Ailagor yn 'rhy gynnar' medd Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  19. Gorfodi pleidleisio yn 'peryglu bywydau'wedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i orfodi pleidleisio yn San Steffan yn ystod pandemig y coronafeirws yn peryglu bywydau rhai Aelodau Seneddol yn ôl Nia Griffith AS.

    “Roedd y cyfle i chi ddewis rhwng bod yn y siambr neu fod ar y sgrin ac roedd y dewis yna yn decach i bobl gyda amodau arbennig. Iddyn nhw, mae'n fwy na peryglus – mae na berygl o farwolaeth.”

    Wrth feirniadu'r drefn ar Dros Ginio heddiw dywedodd fod "yn rhaid i ni leihau'r posibiliadau o drosglwyddo'r feirws – nid creu posibiliadau.”

    Esboniodd yr AS Llafur hefyd fod y drefn o bleidleisio yn electronig “lot fwy effeithiol” a'i fod yn rhoi “ mwy o amser i drafod y mesurau a chynnig gwelliannau”.

    Nia Griffith
  20. Holi Ysgrifennydd Iechyd Lloegrwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Twitter

    Ar raglen Y Byd yn Ei Le mae Guto Harri wedi bod yn holi Ysgrifennydd Iechyd Lloegr Matt Hancock.

    Mae'n mynd ar ôl sawl sgwarnog yn y cyfweliad, yn cynnwys holi'r gwleidydd am ei ymateb i'r ffrae am benderfyniad Dominic Cummings, ymgynghorydd Boris Johnson, i deithio i Durham gyda'i deulu.