Crynodeb

  • Ailagor ysgolion Cymru ar 29 Mehefin

  • Ymateb cymysg gan undebau addysg i'r cyhoeddiad am ailagor ysgolion

  • 17 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi

  • Covid-19: Galw am ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru

  • Y sector ffilm a theledu 'angen help' i ailgychwyn

  1. 'Cwestiynau i'w hateb' medd y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr yn croesawu'r cyhoeddiad am ailagor ysgolion yn gyffredinol ond yn dweud bod “cwestiynau i’w hateb”. Ymhlith y cwestiynau mae Suzy Davies eisiau atebion yw faint o gymorth ymarferol fydd yna o safbwynt teithio i'r ysgol, prydau ysgol a glanhau'r ysgolion yn drwyadl?

    “Hefyd mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, rhoi hyder i’n staff a rhieni bod Covid-19 o dan reolaeth.”

    Dywedodd bod angen i’r llywodraeth roi gwybod os oes yna gynlluniau i brofi oedolion asymptomatig yn yr ysgolion hefyd.

  2. 17 yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Mae 17 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi medd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddod a'r cyfanswm i 1,371.

    Cafodd 82 o achosion newydd eu cofnodi, gan ddod â'r cyfanswm o bobl sydd wedi derbyn prawf positif yng Nghymru i 14,203.

    Mae'n debyg fod y gwir ffigwr yn llawer uwch gan nad yw profi am yr haint ar lefel eang wedi digwydd hyd yn hyn.

    Cafodd 2,400 prawf eu cynnal ddoe, ac hyd yn hyn mae 97,567 o brofion wedi eu cynnal yng Nghymru.

    HaintFfynhonnell y llun, GETTY
  3. Cadw pellter yn 'her' i blant bachwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae’r gweinidog addysg Kirsty Williams wedi cydnabod y bydd cadw pellter yn “her” i blant ifanc a’i bod hi “ddim yn realistig” i ddisgwyl iddynt gadw at y rheolau trwy'r amser pan maent yn ôl yn yr ysgol.

    Er mwyn ceisio lleihau'r risg i’r feirws ledaenu dywedodd bod hi’n bwysig i blant aros mewn grwpiau bach ac y bydd angen i aelodau o staff geisio osgoi “carfanau o blant”.

  4. 'Cynllun clir' mewn lle medd y Democratiaid Rhyddfrydolwedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod Kirsty Williams wedi gosod cynllun “clir” yn ei le am ailagor ysgolion ar 29 Mehefin.

    “Bydd hyn yn rhoi sicrwydd sydd angen i rieni, plant a’r staff addysgu,” meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds. Ychwanegodd bod y Rhyddfrydwyr eisiau i blant fod yn dysgu eto ond dim ond “pan mae’n ddiogel i wneud hynny.”

    “Rwyf felly yn falch nad oes unrhyw blentyn yn gorfod mynd yn ôl, yn enwedig y rhai sydd yn llochesu eu hunain neu bod eu teuluoedd yn gwneud.”

    Jane DoddsFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds yw arweinydd y blaid yng Nghymru

  5. Cymunedau'n uno yn ystod coronawedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Sut mae'r pandemig wedi effeithio ar ysbryd gymunedol ar draws Cymru?

    Read More
  6. Ailagor ysgolion: Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ymatebwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhyddhau datganiad yn dilyn y newyddion y bydd ysgolion yn ailagor ar Fehefin 29.

    Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Plant:

    "Ers dechrau'r pandemig hwn, rydym wedi ei gwneud yn glir mai ein prif flaenoriaeth bob amser yw diogelwch plant, eu teuluoedd a staff ysgol.

    "Rydym yn deall y pwysau sydd ar deuluoedd, a phwysigrwydd sicrhau bod plant yn gallu dychwelyd i'r ysgol pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Rydym hefyd yn sylweddoli bod gan rieni bryderon gwirioneddol ynghylch anfon eu plant nôl i'r ysgol.

    "Yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i roi cynlluniau ar waith ar gyfer ein hysgolion er mwyn galluogi mwy o blant i fynychu pan fo'r amser yn iawn i wneud hynny. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda phenaethiaid, llywodraethwyr a staff ysgol, ac mae trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ac undebau'r athrawon.

    "Mae asesiadau risg yn cael eu cynnal ym mhob un o'n hysgolion ar draws y sir. Mae pob ysgol yn cael ei hasesu'n unigol yn dibynnu ar ei sefyllfa, ac efallai'n wir na fydd dull 'un ateb i bawb' yn gweithio. Golyga hyn na fydd rhai ysgolion o bosibl yn gallu cynnig yr un lefel o ddarpariaeth; mae'n dibynnu faint o adeiladau a staff sydd yno. Y brif ystyriaeth yw cadw pawb - yn blant ac yn staff ysgol - mor ddiogel â phosibl.

    "Byddwn yn cyfathrebu'n uniongyrchol ac yn rheolaidd â rhieni yn ystod yr wythnosau nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y trefniadau penodol ar gyfer ein hysgolion a'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i ganiatáu i ni wneud hyn.

    "Hoffwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob cam o'r ffordd, ond byddwch yn amyneddgar â ni oherwydd gallai gymryd peth amser i wneud yr holl drefniadau hyn.

    PencadlysFfynhonnell y llun, Google Earth
  7. 'Synnu' gan sylwadau undebauwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn dweud ei bod wedi ei “synnu” gan sylwadau rhai undebau athrawon y gallai bywydau fod mewn perygl am fod disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol.

    Dywedodd nad oedd o unrhyw help i glywed "iaith ymfflamychol”.

    “Fydden ni ddim yn gwneud unrhyw beth, a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth yn ystod y cyfnod yma, pan wnaethon ni gau ysgolion am resymau statudol, i roi bywydau unrhyw un mewn perygl.”

    AddysgFfynhonnell y llun, Reuters
  8. Ailagor ysgolion - Dim dirwy i rieniwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Fydd rhieni sydd ddim yn anfon eu plant i’r ysgol ddim yn cael dirwy meddai Kirsty Williams. Byddwn yn "parchu penderfyniad y rhieni“ meddai.

    Dywedodd hefyd bod tua 4,000 o blant o dan 16 oed sydd wedi cael llythyrau i ddweud wrthynt am hunan ynysu, ac na fydd y disgyblion hynny yn dod 'nôl i’r dosbarth am y tro.

    Mae tua 14,000 o blant sydd gyda rhieni sydd wedi derbyn llythyrau hefyd, a ni fydd y rhain yn mynychu ysgolion yn y tymor byr.

  9. 'Cyfle i bob plentyn'wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Dywedodd Kirsty Williams bod y llywodraeth yn “symud yn ofalus” trwy leihau faint o blant fydd mewn dosbarthiadau ar yr un pryd.

    Ychwanegodd bod hi’n bwysig sicrhau “uniondeb” trwy roi cyfle i blant gael gweld eu hathrawon eto.

    Mae wedi ei “chalonogi” gan nifer o brifathrawon sydd wedi cyflwyno “canllawiau ymarferol iawn” ynglŷn â’r camau nesaf meddai.

    Wrth siarad yn y gynhadledd dywedodd y gweinidog addysg hefyd bod nifer o rieni yn gweld gwerth i’w plant gael eu dysgu “wyneb yn wyneb” mewn grwpiau bach.

    Dywedodd bod nifer o blant hefyd yn awyddus i fynd yn ôl i’r ysgol.

    KW2
  10. UCAC: Llywodraeth yn 'anwybyddu barn' undebauwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae’r undebau addysg wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru ers dechrau’r argyfwng, gan gynnwys ynghylch ail-agor ysgolion.

    "Gyda’n gilydd, mae’r proffesiwn wedi llwyddo i ddarparu’n arwrol ar gyfer disgyblion Cymru yn ystod y cyfnod helbulus hwn.

    “Fodd bynnag, rydym yn gresynu’n fawr at y ffaith fod y llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ail-agor cyn yr haf.

    “Mae’r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm â cheisio sicrhau bod hyd yn oed nifer bychan o ddisgyblion yn dychwelyd cyn yr haf yn eithriadol o gymhleth – heb sôn am geisio sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddychwelyd. Mae creu amgylchedd mor ddiogel â phosib i bawb tra’n cynnal awyrgylch groesawgar a chefnogol yn her anferthol.

    “Rydym yn gwbl ymwybodol o’r manteision posib i ddisgyblion o ddychwelyd am rywfaint cyn yr haf, ond rhaid cydbwyso’r manteision posib hynny gyda’r risgiau – i’r disgyblion eu hunain, i staff ac i gymunedau ehangach yr ysgolion.

    “Yn syml iawn, po fwyaf o blant, mwya’r risg."

    Ychwanegodd: “O geisio rhoi sylw i bawb, mi fydd yn anoddach byth sicrhau’r sylw haeddiannol i’r disgyblion hynny sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr, sef blynyddoedd 6, 10 a 12.

    “Gwyddom y bydd lefelau uchel iawn o bryder ymhlith athrawon ac arweinwyr ysgol wrth glywed cyhoeddiad y Gweinidog heddiw.

    “Byddwn yn pwysleisio pryderon ein haelodau yn ysgrifenedig ac mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru yn y modd cryfaf posib.”

  11. Ymateb cadarnhaol AS Ceidwadolwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Twitter

    Mae AS Ceidwadol Preseli Penfro yn San Steffan wedi croesawu cyhoeddiad y gweinidog addysg Kirsty Williams heddiw:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Deall pryderon' pobl am amserlen ailagor ysgolionwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae Kirsty Williams wedi dweud ei bod yn deall y bydd llawer o bobl yn pryderu am y broses o ailagor ysgolion yn rhannol.

    Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol y wasg ar ran y llywodraeth, dywedodd: "Ni allaf greu amgylchedd di-risg ond fe allwn gymryd camau i reoli'r risg.

    "Fe fydd llawer o rieni'n gweld gwerth mewn cyfle i gael amser dysgu wyneb yn wyneb mewn grwpiau bychan."

    Ychwanegodd: "Fe fydd y tair wythnos a hanner cyn y cyfnod nesaf yn rhoi amser i ni i edrych ar y sefyllfa mewn llefydd eraill, gan gynnig cyfle ychwanegol i adolygu tystiolaeth ac ehangu profion yn ehangach."

    KW
  13. Dau undeb yn anhapuswedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae undeb NASUWT yn cwestiynu'r penderfyniad i agor ysgolion yng Nghymru. Dywedodd Neil Butler o’r undeb yng Nghymru bod y llywodraeth yn ymwybodol o’r “anawsterau mawr cadw pellter mewn ysgolion, yn enwedig i blant ifancach.”

    Ychwanegodd bod Kirsty Williams “wedi cyfaddef” bod hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y disgyblion yn iawn, "felly yn amlwg does dim pwrpas addysgiadol tu ôl i’r penderfyniad.”

    Cytuno nad dyma’r penderfyniad iawn mae NEU Cymru hefyd.

    Yn ôl David Evans mae’r camau yn “ormodol, rhy fuan”.

    Mae’n pryderu y bydd cannoedd o blant mewn ysgolion uwchradd yn mynychu'r un pryd.

    Ychwanegodd bod “bron dim neu dim ymgynghoriad” ynglŷn â’r wythnos ychwanegol ddiwedd Gorffennaf.

    Bydd aelodau'r undeb meddai yn cael gwybod na fydd rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i’r dosbarth os ydyn nhw yn teimlo bod yna ormod o risg wrth wneud hynny.

    Ysgol
  14. 'Ateb pragmataidd ac ystyriol'wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Mae Undeb yr Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, ASCL Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg.

    Dywedodd Ethne Hughes, Cyfarwyddwr yr Undeb ei fod yn benderfyniad "synhwyrol” a bod yna gydbwysedd rhwng blaenoriaethu addysg plant ac iechyd cyhoeddus.

    “Mae ysgolion yn ysu i gael cyfarfod disgyblion wyneb yn wyneb er mwyn gweld sut maen nhw yn ymdopi gydag addysg o bell ac i gynnig unrhyw gefnogaeth y gallent fod angen o safbwynt eu llesiant.”

    Ychwanegodd bod y ffaith mai dim ond nifer fach o ddisgyblion fydd yn cael bod yn yr ysgol ar yr un pryd ac y bydd y tymor yn ymestyn wythnos yn “ateb pragmataidd ac ystyriol.”

  15. Ailagor ysgolion a cholegau - rhagor o fanylion:wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    3/3

    Yr wythnos nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion ac addysg bellach ac uwch. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am reoli eu cyfleusterau a threfniadau logisteg: gan gynnwys adeiladau, adnoddau, glanhau a thrafnidiaeth.

    Hefyd mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi papur gan ei Grŵp Cynghori Technegol COVID-19 heddiw, yn cynnwys y ddealltwriaeth ddiweddaraf o’r feirws mewn perthynas â phlant ac addysg.

    Mae colegau addysg bellach yn sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb o 15 Mehefin ymlaen.

    Byddant yn blaenoriaethu’r myfyrwyr hynny sydd angen asesiadau trwydded i ymarfer, a dysgwyr agored i niwed. Mae hyn yn dilyn gweithio’n agos gyda’r llywodraeth a’r undebau llafur ar y cyd.

    Bydd canllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf hefyd, gan eu cefnogi i gynyddu nifer y plant sy’n bresennol ochr yn ochr ag ysgolion medd y llywodraeth.

    Ysgol
  16. 'Aros tan fis Medi' yn rhy hir medd Kirsty Williamswedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    2/3

    Wrth gyhoeddi'r newyddion am ailagor ysgolion ar Mehefin 29, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:

    “Mae fy nghyhoeddiad i heddiw’n rhoi tair wythnos a hanner i ysgolion i barhau i baratoi ar gyfer y cam nesaf.

    “Byddwn yn defnyddio wythnosau olaf tymor yr haf i wneud yn siŵr bod disgyblion, staff a rhieni yn barod – yn feddyliol, yn emosiynol ac yn ymarferol – ar gyfer y normal newydd ym mis Medi.

    “Mae’r 29ain o Fehefin yn golygu y bydd mis llawn o brofi, olrhain a diogelu wedi bod a bydd yn parhau i ehangu hefyd. Hefyd gallaf gyhoeddi y bydd athrawon yn grŵp blaenoriaeth yn ein rhaglen profion gwrthgyrff newydd.

    “Mae’r wyddoniaeth sy’n esblygu’n awgrymu bod tywydd cynnes a golau’r haul yn rhoi’r cyfle gorau i ni sicrhau mwy o amser mewn ysgolion. Byddai aros tan fis Medi yn golygu bron i hanner blwyddyn heb addysgu – byddai hynny’n niweidiol i les, i gynnydd dysgu ac i iechyd meddwl ein pobl ifanc ni.

    “Mae hwn yn, ac wedi bod, yn gyfnod pryderus i ni i gyd. Rydw i’n gwybod y bydd llawer ohonoch chi’n teimlo’n nerfus. Dydyn ni heb frysio gyda’r gwaith a’r penderfyniad hwn.

    “Hefyd mae’r cyfnod o dair wythnos a hanner cyn y cam nesaf yn rhoi amser i ni gadw llygad ar ddatblygiadau mewn llefydd eraill, ac mae’n darparu cyfleoedd gwirio pellach i adolygu’r dystiolaeth ac ehangu’r profi."

    Ychwanegodd y gweinidog: “Dyma’r opsiwn ymarferol gorau sy’n cadw at fy mhum egwyddor sy’n sail i fy mhenderfyniadau.

    “Trwy gydweithio, byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddod i’r ysgol, dal ati i ddysgu, a pharatoi ar gyfer yr Haf a mis Medi.

  17. Ysgolion i ailagor ar 29 Mehefinwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    1/3

    Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd ysgolion Cymru'n ailagor i bob blwyddyn ar 29 Mehefin.

    Y bwriad yw agor ar 29 Mehefin gyda’r tymor yn cael ei ymestyn am wythnos hyd at 27 Gorffennaf.

    Yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, sy’n dechrau ym mis Medi, y bwriad yw ymestyn hanner tymor mis hydref i bara am bythefnos.

    Bydd y blynyddoedd ysgol yn cael eu rhannu yn grwpiau ac yn cael gwersi ac amser egwyl fesul grŵp medd y llywodraeth.

    Mae disgwyl y bydd hyn yn golygu y bydd traean o ddisgyblion yn bresennol ar unrhyw un amser. Ni fydd rhieni sydd yn dewis peidio anfon eu plant i'r ysgol yn cael eu dirwyo.

    Bydd y dosbarthiadau’n llawer llai, gan ddarparu amser penodol, diogel gydag athrawon a chyd-ddisgyblion. Bydd yr amser hwn yn cynnwys profiad dosbarth ar-lein a phersonol, gan baratoi plant ac athrawon ar gyfer "profiad tebyg" ym mis Medi medd swyddogion.

    Ysgol
  18. Rheol 5 milltir i 'osgoi golygfeydd torcalonnus'wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Senedd Cymru

    Ceisio “osgoi golygfeydd torcalonnus” mae Llywodraeth Cymru wrth gynghori pobl i beidio teithio mwy na 5 milltir i weld ei gilydd. Dyna mae Mark Drakeford wedi ei ddweud wrth ymateb i feirniadaeth gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

    Mae lluniau wedi eu gweld yn Lloegr o bobl yn heidio i draethau.

    Dywedodd Paul Davies bod nifer yn siomedig ac yn “teimlo bod Llywodraeth Cymru ddim yn poeni am y rhai sydd yn byw yn y llefydd mwy diarffordd yn y wlad.”

    Does yna ddim cyfraith wedi ei lunio ynglŷn â’r pellter teithio.

    Ond mae Prif Weinidog Cymru yn dweud bod y canllaw yno “i amddiffyn y rhai mewn cymunedau gwledig” rhag ofn bod niferoedd mawr yn dechrau teithio i’r cymunedau hynny.

    TraethFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Traeth Southend ym mis Mai

  19. Meddyg yn rhannu ei brofiad o'r pandemigwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Newidiadau i fysiauwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020

    Wales Online

    Mae teithwyr ar fysiau First Cymru wedi dechrau gweld newidiadau mawr wrth i fesurau ymbellhau gael eu cyflwyno yn sgil coronafeirws.

    Ers dechrau'r mis mae tri chwarter y seddi ar y bysiau yn rhai na fydd hawl gan deithwyr eu defnyddio. Dim ond 25% o gwsmeriaid sydd yn gallu bod ar y bws er mwyn sicrhau'r pellter cyfreithiol.

    Unwaith y bydd y canran o 25% wedi ei gyrraedd mae arwydd ar y bws yn dweud ei fod yn llawn.

    Yn ogystal mae mwy o fysiau yn gweithredu yn y de ers dechrau Mehefin.