Ailagor ysgolion - Barn dau riantwedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mehefin 2020
BBC Radio Wales
Mae un rhiant wedi dweud y byddai yn hoffi i ysgolion ailagor ym mis Medi.
Er bod Clare Ferguson-Walker yn dweud bod addysgu adref yn “anodd iawn”, o safbwynt diogelwch byddai yn well ganddi aros ychydig yn hirach cyn ail agor ysgolion.
Dywedodd wrth raglen Breakfast Radio Wales: “O safbwynt sut y byddai ysgolion yn edrych, ceisio cael y plant i gadw pellter ac yn y blaen, dwi’n meddwl gallai hynny gael effaith seicolegol beth bynnag. O safbwynt diogelwch, gadewch i ni aros a pheidio cymryd risg. Ni’n siarad am ein plant fan hyn.”
Mae Rachel Meredith o Flaenau Gwent yn dweud nad oes gan ei merch unrhyw ddealltwriaeth o beth yw cadw pellter oddi wrth bobl am ei bod yn ifanc.
“Fe wnaeth fy merch bron a marw o niwmonia'r llynedd a does dim un ffordd y bydd hi yn mynd yn ôl cyn mis Medi."