Crynodeb

  • Wyth yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru

  • Gweinidog Addysg Cymru 'wedi ymgynghori'n llawn' ag undebau

  • Ailagor ysgolion ym Mehefin yn 'ail opsiwn gorau'

  • Y Cymoedd a threfi arfordirol y gogledd 'i ddioddef fwyaf'

  • Technoleg Machynlleth yn helpu brwydr yn erbyn Covid-19

  • Cymdeithas Cerdd Dant yn gohirio'r ŵyl flynyddol

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni am heddiw ar y diwrnod y dywedodd y prif swyddog meddygol mai "ail opsiwn gorau" oedd agor ysgolion Cymru ym mis Mehefin - roedd Dr Frank Atherton am eu hailagor ym mis Awst ond doedd hynny ddim yn "ddeniadol i'r undebau", meddai.

    Cafodd wyth marwolaeth arall eu cofnodi yng Nghmru gan ddod â'r nifer i 1,379.

    Mae Gŵyl Cerdd Dant 2020 wedi ei gohirio am flwyddyn oherwydd argyfwng coronafeirws a hanner marathon Caerdydd wedi ei gohirio tan fis Mawrth.

    Bydd y newyddion diweddaraf i'w weld ar wefan Cymru Fyw a bydd y llif newyddion yn ôl fore Gwener.

    Tan hynny, hwyl fawr a diolch am ddarllen.

  2. Gwybodaeth am ganolfannau ailgylchu'r brifddinaswedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae Cyngor Caerdydd wedi ailagor y canolfannau hyn bellach, ond mae cyfyngiadau ar eu defnydd mewn grym.

    Mae rhagor i wybodaeth ar gael yma:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Angen gwisgo masg ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Grant Shapps, wedi dweud y bydd yn orfodol i bawb wisgo masg ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr o 15 Mehefin ymlaen.

  4. Modd benthyg llyfrau llyfrgell yng Nghaerdydd ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Bydd y rhai sy'n byw yng Nghaerdydd yn gallu benthyg llyfrau llyfrgell o ddydd Llun nesaf ymlaen - a hynny am y tro cyntaf ers i lyfrgelloedd y brifddinas orfod cau ym mis Mawrth.

    Mae defnyddwyr llyfrgell yn cael eu gwahodd i archebu llyfrau ar-lein neu dros y ffôn.

    Bydd darllenwyr yn gallu casglu'r llyfrau o bedwar man gwahanol ar amserau penodol - sef y Llyfrgell Ganolog, Hyb Trelái a Chaerau, Hyb Llaneirwg a Phwerdy Llanedern.

    llyfrgell
  5. Awchu am daith i'r amgueddfa?wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Efallai fod amgueddfeydd y wlad ar gau ar hyn o bryd o achos cyfyngiadau cymdeithasol y pandemig, ond mae modd i chi gymryd cip ar gasgliadau sawl sefydliad dros y we.

    Dyma'r hyn y mae Amgueddfa Abertawe yn ei gynnig ar hyn o bryd:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Galw am ostwng pellter cymdeithasol ar fysiau i ddiogelu cwmnïau annibynnolwedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae angen i Lywodraeth Cymru leihau pellter ymbellhau cymdeithasol o ddau metr i un metr ar fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus os yw cwmnïau annibynnol am barhau.

    Dyna farn cyfarwyddwr Llew Jones Coaches yn Llanrwst, Steven Jones.

    Daw ei sylwadau wrth ymateb i'r Gweinidog dros Drafnidiaeth Ken Skates, sydd wedi crybwyll y gallai teithwyr orfod archebu sedd o flaen llaw ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y syniad yw osgoi trenau a bysiau llawn, tebyg i'r hyn a welwyd yn Llundain pan laciwyd y rheolau.

    Wrth siarad â BBC Cymru, fe ddywedodd Mr Skates y byddai gwasanaethau yn gweithredu ar gapasati 'lot llai' er mwyn diogelu teithwyr.

    Ond yn ôl Cyfarwyddwr Llew Jones Coaches yn Llanrwst, Steven Jones, tydi'r cynlluniau ddim mor addas yng ngogledd Cymru.

    Dywedodd Mr Jones fod y syniad yn "dda mewn pentrefi lleol" ond nid yw'n bosib iddo weithio mewn "ardaloedd prysurach fel Dyffryn Conwy" wrth ystyried y nifer o fysiau sydd ar gael a'u maint.

    Ychwanegodd y gallai'r drefn newydd fod yn "anodd i bobl hŷn ond yr effaith mwyaf ydi'r nifer o bobl allwn ni gario ar fysiau", meddai.

    "Da ni am orfod chwilio am gymorth o rywle neu bydd rhaid i'r pellter newid o 2 metr i 1 fel mae'r 'WHO' yn dweud a byddai rhaid i bawb wisgo masgiau."

    Ychwanegodd Mr Jones fod y pandemig wedi cael ergyd ariannol fawr ar y cwmni ond eu bod yn sefydlog ar hyn o bryd.

    Yn ôl Mr Skates mae'r Llywodraeth wrthi yn trafod gyda chwmnïau trafnidiaeth am sut mae diogelu teithwyr orau dros y misoedd i ddod.

    Cyfarwyddwr Llew Jones Coaches yn Llanrwst, Steven Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Steven Jones, Cyfarwyddwr Llew Jones Coaches yn Llanrwst

  7. Y Gweinidog Addysg yn ymateb i sylwadau y prif swyddog meddygolwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn dilyn sylwadau y prif swyddog meddygol yn gynharach mai ailagor ym Mehefin oedd yr "ail opsiwn gorau", mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi ymateb ar ei chyfrif twitter gan ddweud: "Mae'r penderfyniad i alluogi dysgwyr i gael rhywfaint o amser yn yr ysgol cyn gwyliau'r haf yn rhoi diogelwch a lles dysgwyr yn gyntaf ac yn cyd-fynd yn llwyr â'r cyngor gwyddonol diweddaraf.

    "Wnaethom hefyd ystyried ailagor ysgolion yn ddiweddarach yn yr haf, ond byddai hyn wedi golygu newid strwythurol llwyr i'r flwyddyn ysgol. Cafodd y ddau ddull eu cymeradwyo'n llawn gan @CMOWales, dolen allanol a Grŵp Cynghori Technegol COVID-19 Cymru.

    "Cyhoeddwyd papur gennym ddoe gan Grŵp Cynghori Technegol Cymru COVID-19, sy'n cynrychioli'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r firws mewn perthynas â phlant ac addysg. Dyma grynodeb o'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Gallwch ddarllen yn llawn yma, dolen allanol.

    "Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda @CMOWales, dolen allanol dros y tair wythnos a hanner nesaf wrth i ni baratoi i symud i'r cyfnod nesaf o addysg."

  8. Cyfle i chi ddewis eich hoff berfformiadau yn Eisteddfod Llangollenwedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

    Fydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddim yn cael ei chynnal eleni ond mae cyfle o’r newydd i fwynhau perfformiadau gan enillwyr o 57 o wahanol wledydd drwy fynd i Llangollen.tv,

    Bydd cyfle hefyd i bleidleisio dros ffefrynnau personol.

    Mae enillwyr y prif gystadlaethau corawl a dawns dros y chwarter canif diwethaf wedi eu rhannu’n bum categori.

    Bob dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd enillwyr pob categori’n cael eu cyhoeddi ar y wefan.

    "Dewch i fwynhau gwledd o gerddoriaeth gorawl a dawns ryngwladol," medd y trefnwyr.

    "Eisteddwch yn sedd y beirniad, ac anfonwch eich sylwadau aton ni – a’r cyfan drwy’r botwm ar Llangollen.tv"

    Eisteddfod LlangollenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen
  9. Dim Ras am Fywydwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Fydd yna ddim digwyddiadau Ras am Fywyd yn 2020 oherwydd pandemig coronafeirws.

    Yn wreiddiol roedd y trefnwyr wedi gobeithio cynnal y rasys yn yr hydref ond mae nhw bellach wedi dweud bod yn "rhaid iddyn nhw roi blaenoriaeth i'w cefnogwyr".

    Mae canslo'r rasys yn ergyd i elusen Cancer Research UK - roedden nhw wedi gobeithio codi £30m o'r digwyddiadau eleni.

    Race for LifeFfynhonnell y llun, @Mark Anderson
  10. Y trafodaethau ymadael â'r UE yn parhauwedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Senedd Cymru

    Er bod y prif sylw wedi bod ar haint coronafeirws yn ystod y misoedd diwethaf mae'r trafodaethau ar ymadawiad y DU ag Ewrop yn parhau.

    Ceir mwy o wybodaeth isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Manylu ar ystadegau Covid-19 Cymruwedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Mae na lu o ystadegau wedi eu casglu gan Ystadegau Cymru am y pwysau sydd wedi bod ar y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Mae modd i chi edrych ar rai o'r ystadegau drwy ddilyn yr edefyn isod:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Digwyddiadau torfol 'ddim yn debygol yn fuan'wedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae'n anodd gweld sut y gall digwyddiadau torfol gael eu cynnal yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn, medd y prif swyddog meddygol.

    Dywed Dr Frank Atherton bod gohirio hanner marathon Caerdydd am eleni wedi bod yn "benderfyniad doeth".

    Roedd y ras fod i gael ei chynnal ar 4 Hydref ond fe fydd hi bellach yn cael ei chynnal ar 28 Mawrth, y flwyddyn nesaf.

    "Mae'n anodd iawn i drefnwyr digwyddiadau o'r fath," medd Mr Atherton, "gan na allwn ragweld beth fydd yn digwydd yn yr hydref.

    "Fy mhryder yw y gallwn fod yn gweld ail don o drosglwyddo'r feirws.

    "Ry'n wedi bod yn glir iawn yng Nghymru - ry'n yn cymryd camau bychain - un neu ddau ar y tro wedi adolygiad tair wythnos.

    "Mae digwyddiadau mawr torfol yn fwy tebygol o ddigwydd tua diwedd y sbectrwm - yn hytrach nag ar ei ddechrau neu'n y canol."

    Hanner marathon Caerdydd
  13. 91 o grwpiau cymunedol yn rhannu £4.5mwedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Ers y pandemig mae nifer o grwpiau mewn sawl cymuned ar draws Cymru wedi bod yn cefnogi pobl.

    Bydd 91 o'r grwpiau yn rhannu £4.5m o arian Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Achosion Covid-19 diweddaraf: Rhagor o fanylionwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Codi calon wrth godi arwyddionwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Estyniad gan y DVLA i drwyddedau sy'n dod i benwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae'r DVLA wedi rhoi estyniad o saith mis i yrwyr sydd â'u trwydded cerdyn-llun yn dod i ben rhwng 1 Chwefror a 31 Awst 2020.

    Fe fydd y drwydded felly yn parhau yn ddilys a bydd modd gwneud teithiau angenrheidiol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Ailagor ym Mehefin yn 'ail opsiwn gorau'wedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Prif Swyddog Meddygol Cymru yn dweud y byddai'n well ganddo weld ysgolion yn ailagor mis Awst.

    Read More
  18. Wyth yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Mae wyth yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi medd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddod â'r cyfanswm yng Nghymru i 1,379.

    Cafodd 35 o achosion newydd eu cofnodi, gan ddod â'r cyfanswm o bobl sydd wedi derbyn prawf positif yng Nghymru i 14,238.

    Mae'n debyg fod y gwir ffigwr yn llawer uwch gan nad yw profi am yr haint ar lefel eang wedi digwydd tan yn ddiweddar.

    Cafodd 2,602 prawf eu cynnal ddoe, ac hyd yn hyn mae 100,169 o brofion wedi eu cynnal yng Nghymru.

    ProfionFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Ailagor rhannau o Barc Bannau Brycheiniog ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae Parc Awdurdod Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn paratoi i ailagor rhai ardaloedd i'r cyhoedd ddydd Llun, Mehefin 8.

    Maent wedi bod yn adolygu'r sefyllfa ers i Lywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau wythnos ddiwethaf.

    Bydd safleoedd poblogaidd fel Pen-y-fan a Llyn y Fan Fach yn parhau ar gau am y tro.

    Dywedodd cadeirydd y parc, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe: "Hoffwn ddiolch i drigolion ac ymwelwyr am eu hamynedd a chefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau yng Nghymru."

    BannauFfynhonnell y llun, Gareth James/Geograph
  20. 'Mwy o brofi' yn gyfrifol am gynnydd achosion y gogleddwedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gael ei holi am ffigyrau'r haint yng ngogledd Cymru, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Dr Frank Atherton ei fod yn credu bod yr haint wedi cyrraedd y gogledd "ar gyfnod hwyrach" na'r de ond bod y sefyllfa wedi gwella ymhob ardal yng Nghymru.

    Roedd yn ymateb i sylwadau Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, a nododd yn ystod y sesiynau Cwestiynau Cymreig yn San Steffan ddoe fod ffigyrau'r Gogledd yn "allanolyn anghysurus" i gymharu â gweddill Cymru a'r DU.

    Dywedodd Dr Atherton bod niferoedd yr haint yn y gogledd yn uwch ddiwedd yr wythnos ddiwethaf ond mai mwy o brofion oedd yn gyfrifol am y cynnydd - yn enwedig mewn cartrefi gofal.

    "Wrth edrych ar ffigyrau ysbytai yng ngogledd Cymru," meddai, "dwi'n gweld yr un darlun ag sydd yna mewn byrddau iechyd eraill - darlun lle mae'r achosion yn gostwng - ac felly mae pethau yn gwella ar draws Cymru.

    "Y tebyg yw bod y don o achosion o'r haint wedi dod i'r gogledd yn ddiweddarach na'r de ond mae'r sefyllfa ar draws Cymru yn gwella."