Ailagor ysgolion: Swyddog undeb 'wedi ei synnu'n llwyr'wedi ei gyhoeddi 09:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020
BBC Radio Wales
Mae un o brif swyddogion undeb athrawon wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod "wedi ei synnu'n llwyr" gan gyhoeddiad y gweinidog addysg Kirsty Williams am ailagor ysgolion ar 29 Mehefin.
Wrth siarad ar raglen Claire Summers ar BBC Radio Wales y bore 'ma, dywedodd David Evans, ysgrifennydd Cymru ar ran Undeb NEU Cymru: "Yn ystod ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru'r wythnos ddiwethaf, roedd nifer o ddewisiadau ar y bwrdd.
"Un o'r rhain oedd i oedi tan fis Medi, ac roedd yn un nad oedd y llywodraeth am fynd ymlaen ag o. Dewis arall oedd gadael grwpiau blwyddyn penodol i mewn.
"Petai hyn wedi ei gyhoeddi ddoe, fe fydde ni wedi bod yn gweithio mor galed ag unrhyw un i sicrhau dychwelyd i'r ysgol. Fe fydd ein haelodau wrth gwrs yn sicrhau y bydd y cynllun o ddychwelyd i'r ysgol yn gweithio nawr, ond gydag o bosib traean o'r ysgol i mewn ar unrhyw adeg, mae hynny'n gosod risg yna."
Ychwanegodd Mr Evans: "Fe garem ni weld y plant yn dychwelyd i'r ysgol a'r ysgol yn ailagor a dychwelyd i'r normal newydd fydd yn gynt yn hytrach na hwyrach.
"Ond mae'n rhaid i'r amser fod yn gywir...ar hyn o bryd nid yw'r cyngor gwyddonol a meddygol yn dweud hyn.
"Dyna pan ei fod yn ormod ac yn rhy fuan", ychwanegodd.