Crynodeb

  • Wyth yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru

  • Gweinidog Addysg Cymru 'wedi ymgynghori'n llawn' ag undebau

  • Ailagor ysgolion ym Mehefin yn 'ail opsiwn gorau'

  • Y Cymoedd a threfi arfordirol y gogledd 'i ddioddef fwyaf'

  • Technoleg Machynlleth yn helpu brwydr yn erbyn Covid-19

  • Cymdeithas Cerdd Dant yn gohirio'r ŵyl flynyddol

  1. Cwestiwn i'r gweinidog addysg? Byddwch yn sydyn....wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Prif Swyddog Iechyd yn ffafrio ailagor ysgolion yn Awstwedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Frank Atherton wrth y gynhadledd mai ailagor ysgolion ar ddiwedd y mis oedd "yr ail opsiwn orau".

    Esboniodd y byddai wedi hoffi gweld yr ysgolion yn ailagor ym mis Awst.

    Dywedodd hefyd ei fod wedi trafod ailagor ar ddiwedd Awst gyda'r gweinidog addysg, er mwyn cael mwy o amser, "ond fy nealltwriaeth i oedd nad oedd hyn yn ddeniadol i'r undebau", meddai.

    "Felly mae gennym ni'r opsiwn ail-orau sef ein bod yn mynd i ailagor ysgolion tua diwedd Mehefin am gyfnod byr gyda threfniadau tra gwahanol er mwyn gwneud hyn yn ddiogel.

    "Rwy'n credu y bydd modd gwneud hyn yn ddiogel ac mae angen i ni fonitro a dilyn hyn", ychwanegodd.

  3. Addysg a chymdeithasu yn bwysig i blant ysgolwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton, mai iechyd, diogelwch a lles plant yw "prif flaenoriaeth" Llywodraeth Cymru a bod nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried ar gyfer ailagor ysgolion.

    Mae addysg, medd Dr Atherton, "yn bwysig iawn" i blant ysgol - yr elfen addysgol ond hefyd yr "elfen gymdeithasol".

    Dywedodd bod nifer o'r plant yn "eithaf bregus" a bod cael cysylltiad gydag athrawon yn "newid eitha pwysig".

    Wrth ateb cwestiwn am a ddylai'r Senedd gyfarfod wyneb-yn wyneb dywedodd bod yn rhaid "i bob amgylchedd gwaith addasu" i'r feirws.

    "Dwi'n credu bod hi'n her i ni gyd," meddai, "gan gynnwys y Senedd ganfod sut mae rheoli ein gwaith yn ddiogel os oes angen dod i'r gwaith.

    "Mae gweithio o adre yn opsiwn i lawer ond nid i bawb," ychwanegodd.

  4. 'Dim angen offer PPE' mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton yn credu y bydd angen defnyddio cyfarpar diogelwch PPE mewn ysgolion pan fyddant yn ailagor ddiwedd y mis.

    Dywedodd fod ysgolion yn cael eu hannog i "edrych ar yr amgylchedd a sicrhau fod pobl yn gallu ymbellhau'n gymdeithasol yn y ffordd briodol.

    "Mae parhau gyda'r rheolau sylfaenol yr ydym i gyd wedi dod i arfer â nhw yn mynd i fod yn hynod o bwysig wrth i'r ysgolion ailagor," meddai.

    Frank Atherton
  5. Angen i bobl sy'n gwarchod eu hunain wneud hynny tan 16 Awstwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd bron i 130,000 o bobl yn derbyn llythyr oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru yr wythnos hon yn amlinellu’r cyngor diweddaraf er mwyn eu diogelu rhag y coronafeirws.

    Bydd gofyn i’r bobl hyn barhau i warchod eu hunain hyd 16 Awst.

    Bydd y llythyr hwn hefyd yn disgrifio sut y mae’r cyngor meddygol wedi newid, gan eu galluogi i fod allan yn yr awyr agored er mwyn cyfarfod â phobl eraill am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig.

    Y grŵp a warchodir yw pobl sy’n cael eu hystyried yn agored iawn i niwed o safbwynt datblygu salwch difrifol os byddant yn cael eu heintio â’r coronafeirws oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd penodol.

    Mae’r bobl hyn wedi bod yn dilyn cyngor penodol a chaeth iawn i’w gwarchod am 12 wythnos.

    Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton: “Ers dechrau’r pandemig rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu rhag y coronafeirws.

    “Mae’r sefyllfa o safbwynt nifer yr achosion o’r coronafeirws yn cael ei monitro’n ofalus iawn – os bydd y nifer yn lleihau mae’n bosibl y bydd y bobl o fewn y grŵp o bobl a warchodir yn gallu gwneud mwy ond os bydd nifer yr achosion yn cynyddu efallai y byddwn yn cynghori’r bobl hyn i beidio â mynd allan o gwbl ac aros gartref unwaith eto.”

    Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newid o safbwynt y cyngor i’r bobl sy’n gwarchod eu hunain, ar sail adolygiad o’r dystiolaeth a gynhaliwyd gan bedwar prif swyddog meddygol y DU.

    Dywedodd Dr Atherton: “Rydym yn gofyn i bawb sydd o fewn y grŵp o bobl a warchodir barhau i warchod eu hunain hyd 16 Awst oherwydd nid yw’r coronafeirws wedi diflannu.

    "Rydym yn awyddus i wneud popeth posibl er mwyn cadw’r bobl o fewn y grŵp hwn yn ddiogel ac mae hynny’n golygu gofyn iddynt barhau i warchod eu hunain."

    RheolauFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Y Gwasanaeth Iechyd 'yn ymdopi'n dda'wedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru sydd yn cynnal y gynhadledd ddyddiol i'r wasg ar ran Llywodraeth Cymru heddiw.

    Dywedodd fod y gyfradd 'R' yn llai na 1 ar hyn o bryd, ac roedd achosion Covid-19 yn gostwng dros amser meddai.

    Ychwanegodd fod y Gwasanaeth Iechyd yn ymdopi'n dda ar hyn o bryd, gyda 28% o welyau aciwt yn wag.

    Mae tua 1,030 o gleifion Covid-19 yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd, sydd yn nifer sylweddol, ond yn ostyngiad o 60% o'r cyfnod pan roedd yr haint ar ei anterth, meddai.

    Cynhadledd
  7. Diweddariad dyddiol y llywodraeth ar fin cychwynwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Gallwch ddilyn y gynhadledd ddyddiol i'r wasg yma:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Ysbytai maes i 'oroesi am gryn amser'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi dweud y bydd yn disgwyl i'r ysbytai maes gafodd eu creu mewn ymateb i'r pandemig i oroesi am gryn amser".

    Roedd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddydd Iau.

    Dywedodd: "Yn sicr nid ydym yn mynd i'w gweld yn cael eu dadgomisiynu ar ddiwedd yr haf...mae'n bosib iawn y bydd pegwn arall yn codi yn ystod y gaeaf ac mae'n bosib y bydd angen i ni wneud defnydd eto o'r ysbytai maes".

    Esboniodd y byddai cau'r ysbytai neu eu symud yn golygu cymryd "risg diangen".

    "Nid yw ysbytai maes yn lleoliadau ar gyfer pob math o weithgareddau. Maen nhw'n wahanol fath o amgylchedd, ar gyfer gwellhad ac adsefydlu a hefyd ar gyfer rhywfaint o ofal diwedd oes gall ddigwydd."

    Mae disgwyl adolygiad am waith a dyfodol ysbytai maes yn ddiweddarach yn ystod y mis.

    Ychwanegodd Mr Gething y byddai'r drafodaeth am gost yr ysbytai yn sicr o godi, a hynny yng nghyd-destun ffyrdd o gefnogi'r gwasanaeth iechyd gan fod "costau rhyfeddol" wedi codi o achos y pandemig.

    GweinidogFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Cyngor i fyfyrwyr ar gasglu eiddowedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Bu'n rhaid i nifer o fyfyrwyr adael prifysgolion a cholegau yn ddirybudd ym mis Mawrth.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar fynd i nôl eu heiddo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Agor cwest i farwolaeth gweithwraig iechydwedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae cwest ym Mhontypridd wedi clywed sut y bu i weithwraig iechyd farw yn dilyn cael ei heintio gyda Covid-19 wrth weithio o ddydd i ddydd.

    Clywodd y crwner cynorthwyol Rachel Knight fod Leilani Medel wedi ei chludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 31 Mawrth lle gafodd ddeiagnosis o goronafeirws.

    Cafodd ei rhoi ar beiriant anadlu a derbyn gofal dwys ond fe wnaeth ei chyflwr ddirywio.

    Bu farw Miss Medel ar 9 Ebrill, gyda coronafeirws yn cael ei gofnodi fel achos ei marwolaeth.

    Cafodd ei geni yn Santiago yn y Ffilipinau, ac fe weithiodd fel nyrs i asiantaethau mewn cartrefi gofal ar draws y de.

    Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd ei modryb Shiela Ancheta y byddai "pawb yn ei chofio fel arwres fodern yn ystod y pandemig."

    Mae cwest llawn i'w marwolaeth wedi ei ohirio tan 15 Mehefin 2021.

    NyrsFfynhonnell y llun, Facebook
  11. Parcio am ddim i barhau yn Wrecsamwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Cyngor Wrecsam

    Mae disgwyl i bobl gael parcio am ddim ynghanol tre Wrecsam tan ddiwedd mis Medi.

    Mae arweinydd y cyngor wedi dweud ei bod yn "anfoesol" ailgodi tâl tra bod y pandemig yn parhau.

    Bydd y mater yn cael ei drafod wythnos nesaf.

    Dywed y Cynghorydd Mark Pritchard nad yw'n credu ei fod yn iawn i ofyn am dâl parcio pan mae nifer o fusnesau'r dre ar gau.

    "Mae'n gam mawr," meddai, "ond rwy'n credu y bydd awdurdodau eraill yn ein hefelychu. Mae dinasoedd a threfi eraill yn parhau i godi tâl a 'dyw hynna ddim yn iawn," ychwanegodd.

    Wrecsam
  12. Sut mae busnesau Dyffryn Nantlle yn ymdopi?wedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Sut mae busnesau Dyffryn Nantlle yn ymdopi yn ystod y pandemig coronafeirws?

    Read More
  13. Y gwersi Bitesize dyddiolwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Wedi ymgynghori ag undebau' medd y Gweinidog Addysgwedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Dywed y Gweinidog Addysg bod ymgynghoriad llawn wedi bod gydag undebau addysg am ailagor ysgolion yn rhannol ddiwedd Mehefin.

    Wrth siarad ar Radio Wales dywedodd Kirsty Williams: "Ry'n wedi treulio oriau yn trafod gydag undebau ac mae athrawon wedi bod yn ein cynghori. Diogelwch a lles staff a disgyblion yw ein blaenoriaeth."

    Ychwanegodd y gweinidog ei bod yn bwysig cael amser wyneb-yn-wyneb a pharatoi at realiti y byd addysg newydd.

    Bydd ysgolion yn ailagor ar Fehefin 29. Fe fyddant ar agor i bob blwyddyn ar amseroedd penodol - dim ond traean o'r disgyblion fydd yn yr ysgol ar yr un pryd.

    Mae rhai undebau wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud ei bod yn "rhy gynnar" a "bod dim llawer o ymgynghori wedi digwydd".

    Kirsty Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Kirsty Williams yn ystod cyfarfod llawn o'r Senedd rithwir ddydd Mercher

  15. Cymdeithas Cerdd Dant yn gohirio'r ŵyl flynyddolwedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae Gŵyl Cerdd Dant 2020 wedi ei gohirio am flwyddyn oherwydd argyfwng coronafeirws.

    Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal yn Llanfyllin, Powys, ar 14 Tachwedd. Mae trefnwyr Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi yn dweud y byddai "unrhyw benderfyniad arall wedi bod yn gwbl anghyfrifol."

    Mae'r ŵyl flynyddol, gafodd ei chynnal yn Llanelli'r llynedd, yn denu cannoedd o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru.

    Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod rhithiol arbennig o bwyllgor gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ddydd Sadwrn.

    Canu
  16. Vaughan Gething yn cael ei holi am yr ymateb i Covid-19wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Dysgu adref yn 'heriol' medd y gweinidog addysgwedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams wedi dweud fod dysgu ei dwy ferch adref yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn "heriol".

    Wrth siarad ar BBC Radio Wales yn gynharach heddiw, dywedodd Ms Williams: "Rwyf wedi darganfod fod dysgu adref yn heriol - rwy'n cyfaddef hynny a nid wyf wedi bod yn dda iawn am wneud hyn."Dywedodd fod dysgu adref "wedi bod yn 'chydig o drychineb yn fy nhŷ i", gan fod ei gŵr yn ffermio llawn amser hefyd. Ychwanegodd ei bod yn deall pryderon pobl am anfon eu plant yn ol i'r ysgol ond roed yn credu mai dyma'r peth cywir i'w wneud:

    "Wrth gwrs rydym oll yn nerfus - rydym wedi byw drwy'r amser gwaethaf. Ond os byddwn yn parhau i wneud y pethau cywir o ran ymbellhau cymdeithasol a golchi dwylo, rwy'n hyderus y byddaf yn anfon fy mhlant i amgylchedd saff a diogel."

    Ychwanegodd y bydd y llywodraeth "yn meddwl eto am ailagor ysgolion os nad yw'r cynllun olrhain a phrofi'n ddigon gwydn."

    KW
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams

  18. Aros yn ddiogel, a lleolwedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Rhoi gwaed ar gyfer gwaith ymchwil Covid-19wedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020

    Mae degau o gleifion yn Ysbyty Treforys sydd wedi eu heintio gyda Covid-19 wedi bod yn rhoi gwaed ar gyfer gwaith ymchwil sydd yn astudio'r haint.

    Y gobaith yw darganfod pam fod rhai pob yn fwy tebygol o ddal yr haint nag eraill.

    Mae gwyddonwyr yn amau fod yr ateb i'w ddarganfod mewn DNA pobl, ac mae cleifion o bob cwr o'r byd yn cael eu defnyddio yn yr astudiaeth i edrych ar eu gwahaniaethau geneteg.

    Astudiaeth GenOMICC yw'r fwyaf o'i math, ac mae wedi bod yn cynnal ymchwil i heintiau fel SARS, y ffliw, sepsis a chyflyrau eraill ers 2016.

    Bellach mae Covid-19 yn rhan o'r gwaith ymchwil hefyd.

    Dywedodd Dr Ceri Battle, sydd yn gyfrifol am ran o'r gwaith ymchwil yn Ysbyty Treforys: "Rydym wedi recriwtio 46 claf a ni oedd y safle cyntaf i agor yng Nghymru....

    "Pan mae achos posib neu bendant o Covid yn dod i mewn i'r uned gofal dwys, mae sampl o waed yn cael ei gymryd gan y claf - gyda chaniatâd y claf neu'r teulu os yw'r claf yn anymwybodol.

    "Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth sylfaenol fel eu hoedran, hanes meddygol blaenorol, os oes ganddyn nhw unrhyw gyflyrau comorbidrwydd neu os ydynt yn derbyn cyffuriau gwrthimiwnedd".

    DNAFfynhonnell y llun, Thinkstock
  20. Trafodaeth y Senedd heddiw:wedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2020